Main content

Byd Iolo: Ffair Adar Rutland Water

Iolo Williams

Mae Rutland Water wedi ei leoli ychydig filltiroedd i'r de-ddwyrain o Gaerl欧r ac ers 1989, mae wedi denu degau o filoedd o naturiaethwyr pob mis Awst i'r ffair adar blynyddol.听

Mae'r ffair fel cymysgedd o'r Eisteddfod Genedlaethol a'r Sioe Amaethyddol Frenhinol i unrhyw un sydd 芒 diddordeb ym myd natur. 听Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol ar gyfer adarwyr ond erbyn heddiw, mae diddordebau naturiol o bob lliw a llun yn cael eu cynrychioli yno.

Roedd hi'n syndod i mi i weld faint o Gymry Cymraeg sy'n mynychu'r ffair pob blwyddyn, rhai fel Kelvin Jones o'r BTO yn wynebau cyfarwydd iawn i wrandawyr Radio Cymru ond eraill yn ymweld 芒'r ffair nid i weithio ond i brynu llyfrau ac ysbienddrychau neu i gwrdd 芒 hen ffrindiau. 听

Mae dros 20,000 o bobol y dydd yn ymweld 芒'r ffair dros y 3 diwrnod a cheir stondinau'n gwerthu gwyliau, llyfrau, cylchgronau, arlunwaith, telesgopau, ysbienddrychau; a dweud y gwir, unrhyw beth a phopeth sy'n ymwneud a byd natur. 听Bydd elusennau yno hefyd, yn hysbysebu eu gwaith ond er bod gan Gymru lawer i'w gynnig, roedd Croeso Cymru yn amlwg trwy ei absenoldeb.

Mae Rutland Water yn warchodfa natur hefyd ac os am ddianc o'r holl bobol, mae digonedd i'w weld o amgylch y llyn mawr, bas. 听Bydd hwyaid fel yr hwyaden lwyd (gadwall) yn nofio ochr yn ochr 芒'r llydan big (shoveller). 听

Mae gweilch y pysgod (ospreys) wedi cael eu cyflwyno yma o'r Alban a bu rhai o'r adar yma'n allweddol yn y broses o ail-goloneiddio Cymru ers troad y ganrif.

Os oes diddordeb gyda chi ym mywyd gwyllt, mae ffair adar Rutland yn un o'r digwyddiadau hynny sy'n mynd i fod ar dop y rhestr i ymweld 芒 hi yn 2015.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf