Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 24/11/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.


Post Cyntaf – Cofio Jonah Lomu

camddefnyddio - to misuse
trawsnewid - to transform
cyfarwydd - familiar
unigryw - unique
cais - a try
y rownd gynderfynol - semi-final
cegrwth - open-mouthed
byd-eang - global
diymhongar - modest
llofnod - autograph

...y newyddion trist bod Jonah Lomu, y chwaraewr rygbi o Seland Newydd, wedi marw yn bedwardeg oed. Er ei fod wedi bod yn sâl yn y gorffennol, roedd y newyddion yn dipyn o sioc. Roedd llawer iawn o bobl yn ei gofio fel dyn hyfryd a charedig, ac wrth gwrs fel un o'r chwaraewyr rygbi gorau erioed. Roedd Gareth Charles yn ei nabod a dyma be oedd ganddo i ddweud am y dyn mawr ar Post Cyntaf ddydd Mercher...

Bore Cothi – Einir Sion

niferoedd - numbers
cadarnleoedd - heartlands
canran - percentage
bodoli - to exist
anweledig - unseen
ymrwymiad - commitment
balchder - pride
denu - to attract
datblygiadau - developments
cynlluniau pellgyrhaeddol - far reaching plans

Gareth Charles yn fan'na yn cofio am y chwaraewr rygbi, Jonah Lomu fuodd farw yr wythnos diwetha. Mi aeth rhaglen Bore Cothi ar daith drwy Gymru yn ymweld â siopau llyfrau Cymraeg yn ystod yr wythnos. Dydd Iau roedden nhw yn Siop y Bont ym Mhontypridd ac yn sgwrsio efo Einir Sion, sydd yn arwain Menter Iaith Cynon Taf. Be mae'r Fenter yn ei wneud i helpu'r iaith yn yr ardal? Dyma Einir yn ateb y cwestiwn hwnnw wrth Shan Cothi...

Rhaglen Dylan Jones – Y Mynsan

poblogaidd - popular
addasu - to adapt
cwta - short
digywilydd - cheeky
trwch - thickness
fatha - yr un fath â

Einir Sion yn rhoi darlun clir i ni o pa mor brysur ydy Menter Iaith Cynon Taf. Pob lwc iddyn nhw ynde, gyda'r gwaith pwysig iawn maen nhw'n ei wneud. Ydach chi'n gwybod be ydy'r 'mun'? Nac ydach? Steil gwallt i ddynion ydy o, ac mae o'n boblogaidd iawn ar hyn o bryd. Y ddau air ' man' a 'bun' sydd yn rhoi 'mun' i ni ac falle eich bod chi wedi sylwi bod Gareth Bale efo 'Mynsan' ar ei ben! Mae mwy o ddynion na merched yn defnyddio’r we i chwilio am steiliau gwallt newydd y dyddiau hyn, ond pa steiliau eraill sydd yn boblogaidd? Dyna ofynnodd Dylan Jones i Rob Humphreys o Borthmadog ...

C2 Lisa Gwilym – Plu

plu - feathers
yn fyw - live
rhyddhau - to release
teimlo fel oes - feels like ages
trafod - to discuss
adborth - feedback
synnwyr - sense

A na dydi Dylan Jones ddim yn colli ei wallt, ac mi fasai o'n edrych yn dda efo 'man bun' yn basai? Be dach chi'n feddwl? Roedd hi’n ddiwrnod Plu ar Radio Cymru Ddydd Mercher. Dw i ddim yn sôn am y plu sydd ar adar yn fa'ma ond am y band gwerin poblogaidd Plu. Dwy chwaer a brawd sydd yn y band, ac maen nhw'n dod o Fethel ger Caernarfon. Mi fuodd y tri – Elan, Marged a Gwilym yn sôn am eu CD newydd Tir a Golau ar raglen Lisa Gwilym Nos Fercher. Mi gawn ni flas bach ar y sgwrs ac wedyn clywed ychydig o'r gân sydd â'r un enw â'r albwm - Tir a Golau. Mwynhewch...

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Wythnos ym Mywyd Radio Cymru

Nesaf

Celtic yn yr U.D.A