Main content

Celtic yn yr U.D.A

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ychydig o dymhorau yn ol roedd yna gryn drafod yngl欧n â chynnal gem ychwanegol yn Uwch gynghrair Lloegr, sef y tri deg nawfed gêm, oddi tramor, yn y Dwyrain Canol neu'r Unol Daleithiau. Credai’r awdurdodau y byddai hyn yn dod a mwy o arian i mewn i'r uwch gynghrair (fel petasai ddim digon yno’n barod !).

Daeth dim o'r syniad, a chafodd eu wfftio o bob cyfeiriad yn ddigon buan.

Fodd bynnag, yr wythnos yma mae yna syniad tebyg wedi codi yn yr Alban, sef chwarae un o gêmau eu Uwch gynghrair  yn yr Unol Daleithiau.

Mae son mai'r gêm rhwng Celtic a Dundee fyddai honno, er nad oes unrhyw gadarnhad wedi ei dderbyn hyd yn hyn.

Byddai angen sêl bendith Cynghrair Bêl-droed Proffesiynol yr Alban (SPFL) yn ogystal â Ffederasiwn Pêl-droed Unol Daleithiau, Uefa a Fifa os fydd hyn am ddigwydd, a bydd cynnig ffurfiol yn cael ei roi gerbron yr SPFL yn ystod yr wythnosau nesaf.

Boston a Philadelphia yw’r dinasoedd sy’n cael eu crybwyll fel mannau i gynnal y gêm, ac ymddengys fod sgyrsiau rhwng Dundee a chynrychiolwyr Celtic yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn mynd ymlaen ers peth amser.

Yn wahanol i uwch gynghrair Lloegr, does dim cymaint o arian yn yr Alban, felly mae’r fenter yma yn cael ei hystyried fel rhywbeth masnachol o a fyddai yn dod ac elw i holl dimau'r SPFL.

Y son ydi y byddai unrhyw arian a godir yn cael ei rannu rhwng y deuddeg tîm sydd yn yr uwch gynghrair, ac felly mae cefnogaeth gweddill y timau yn hanfodol bwysig yn y broses. Er nad oes yna gemau cynghreiriol o unrhyw wlad wedi cael eu cynnal oddi tramor, fe geir rhyw fath o gynsail y gellir ei ddefnyddio fel cymhariaeth.

Mae'r Supercopa Eidaleg wedi cael ei chwarae'n rheolaidd y tu allan i’r Eidal, er enghraifft yn Washington yn 1993, Tripoli yn 2002, Efrog Newydd yn 2003, Beijing yn 2009, 2011 a 2012, Doha yn 2014 ac yn Shanghai yn 2015.

Ond rhyw fath o gemau cyfeillgar wedi eu masnachu fel gemau cystadleuol ydi'r rhain yn eu hanfod, rhwng enillwyr Serie A y tymor blaenorol ac enillwyr y Coppa Italia.

Diddorol gweld beth a ddigwyddir.

Yn sgil hyn, tybed a fyddai Uwch gynghrair Cymru yn meddwl fod  yna le i gynnal rhywbeth tebyg draw dros y don?

Rwy’n si诺r y byddai croeso mawr i'r Bala yn ardal Bala-Cynnwyd y tu allan i Philadlephia, neu i Hwlffordd  yn nhref Haverford (hefyd ger Philadelphia). Beth am weld Bangor yn chwarae ym Mangor yn nhalaith Maine, neu'r  Seintiau Newydd ar faes y New Orleans Saints ? Ar y llaw arall, hwyrach y gallwn gefnogi’r syniad o weld y Seintiau Newydd yn chwarae mewn gwlad wahanol heb fawr o drafferth.

 

Gan mai yn Lloegr, sef yng Nghroesoswallt, mae’r Seintiau yn cynnal eu gemau cartref, tybed a fyddai cynnal un gêm o fewn ffiniau Cymru yn cael ei ystyried?

 

Nid yn hollol fel yr Unol Daleithiau efallai, ond allai ddim gwneud mwy nac awgrymu neu ofyn!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 24/11/2015

Nesaf

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 01/12/2015