Main content

Blog Ar y Marc - Ewro 2013

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Nos Fercher diwethaf, dechreuodd y gemau yng nghystadleuaeth peldroed Ewropeaidd i ferched. Cynhelir y bencampwriaeth yn Sweden gyda merched yr Almaen yn ffefrynnau i ennill y goron am y chweched tro yn olynol. Ond gydag anafiadau yn cwtogi effeithiolrwydd carfan yr Almaen, mae timau eraill yn barod i gymryd mantais, gyda Ffrainc a Lloegr ymysg y ffefrynnau i greu sioc.

Trefn y gystadleuaeth ydi tri gr诺p o bedwar t卯m gyda鈥檙 ddau orau yn camu ymlaen i rownd yr wyth olaf ynghyd a'r ddau d卯m sydd yn cyflawni orau wrth orffen yn y trydydd safle. Ond yn ogystal ag ennill y chwe cystadleuaeth olaf, mae鈥檙 Almaen wedi ennill saith yn gyfan gwbl, a hynny allan o鈥檙 deg gwaith mae鈥檙 rowndiau terfynol yma wedi cael eu cynnal. Maent hefyd yn ail yn y byd yn 么l rhestr detholion FIFA, ond gyda chwe aelod wedi eu hanafu, bydd rhaid i鈥檙 merched fod ar eu gorau os am barhau a鈥檙 gamp eleni.

Bydd Sweden sydd yn ail yn rhestr detholion Ewrop ac yn chwarae adref, yn si诺r o fod wedi codi gobeithion, ac yn si诺r hefyd o gael cefnogaeth. Eu prif seren ydi鈥檙 flaenwraig Lotta Schelin sydd yn chwarae i glwb Lyon yn Ffrainc, ac eisoes wedi sgorio dros 50 o goliau i'w gwlad. Ceir tyrfaoedd o rhwng dwy a thair mil yn mynychu gemau yng nghynghrair proffesiynol merched Sweden yn rheolaidd.

Bydd Ffrainc yn sgil eu llwyddiant o gyrraedd y pedwerydd safle yn y gemau Olympaidd y llynedd yn llygadu鈥檙 wobr, ac yn dibynnu lawer ar alluoedd y ddwy yng nghanol cae, Louisa Necib a Gaetane Thiney i greu a manteisio ar y bylchau rhwng llinellau cefn a chanol cae eu gwrthwynebwyr.

Ond bydd Lloegr hefyd yn edrych i'r un cyfeiriad. Roedd Lloegr yn ail pan gynhaliwyd y gystadleuaeth yma yn 2009, ond gydag anaf i'w chwaraewraig dylanwadol, Kelly Smith, bydd llawer yn dibynnu ar y chwaraewyr ifanc i wneud eu marc. Un o rheini ydi Anita Asante, sydd yn chwarae yn broffesiynol yn Sweden ac felly gydag adnabyddiaeth dda o鈥檙 hyn i'w ddisgwyl gan ferched Sweden.

Mae UEFA wedi dewis peidio 芒 chynnal y gemau ym mhrif stadiymau'r wlad gan ganolbwyntio ar rhai llai er mwyn llenwi鈥檙 lle a chael gwell awyrgylch. Daw hefyd a chyfle i鈥檙 trefi llai i gynnal cystadleuaeth o'r fath a derbyn sylw am eu trafferth. Bydd y ffeinal yn ninas Stockholm ond yn ardal faestrefol Solna, mewn stadiwm sydd yn dal 30,000.

Gyda Llewod y byd rygbi yn tynnu sylw i Gymru, Andy Murray yn gwneud pob Albanwr yn falch o'i genedl, bydd cefnogwyr peldroed Lloegr yn gobeithio am well nac a welwyd gan dimau eu dynion o dan 20 a 21 oed ar ddechrau鈥檙 Haf, pan gafwyd methiant mor anobeithiol yn eu cystadlaethau Ewropeaidd hwy.

Gyda phryder yn cael ei fynegi yngl欧n 芒 threfn rheoli a hyfforddi timau cenedlaethol y Saeson yn y wasg, a gyda'r Uwchgynghrair yn llawn estroniaid, tybed a鈥檌 ym myd peldroed merched fydd dyfodol llwyddiannus rhyngwladol Lloegr o hyn ymlaen?

Dim ond gofyn!!

Mwy o negeseuon

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 10 Gorffennaf 2013