Main content

Everton v Abertawe

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Roedd edrych ar Everton yn chwarae Abertawe ddydd Sadwrn diwethaf fel bod mewn sesiwn tynnu dannedd am awr a hanner.

Dau dîm gwael a gem wael gydag Abertawe yn rheoli’r rhan fwyaf o’r hanner cyntaf ac yn mynd ar y blaen drwy gic rydd y chwaraewr gorau ar y cae, sef Gylfi Sigurdsson.

Ar dystiolaeth, meddiant, roedd yr Elyrch yn haeddu'r flaenoriaeth, er mai prin oedd cyfleoedd i'r ddau dîm. Yna ar ôl ymddangos eu bod wedi cael llond ceg yn ystod yr egwyl gan eu rheolwr, penderfynodd Everton bod rhaid ymateb yn well na cheisio efelychu tîm a gollodd eu gem ddiwethaf o bum gol yn Chelsea.

Cadwyd meddiant yn fwy pwrpasol, ond er hyn, ymddengys mai holl bwrpas yr ymosodiadau, fel yn yr hanner cyntaf, oedd ceisio darganfod y blaenwr Romelu Lukaku efo'r bel a gobeithio'r gorau.

Yna erbyn hyn, roedd Abertawe yn dangos trefn a disgyblaeth amddiffynnol a wneir rhywun feddwl y byddai buddugoliaethyn rhoi’r hyder diflanedig yn ôl i'w chwarae er mwyn symud ymlaen am ganlyniadau mwy ffafriol yn y dyfodol.

Hyd at funud cyn diwedd y naw deg, ymddengys fod ymdrechion glew Abertawe am sicrhau'r tir phwynt hir ddisgwyliedig, ond yna peniad gwan allan o'r cwrt cosbi yn rhoi cyfle i Seamus Coleman benio yn ôl a chodi'r bel dros Fabianski yn y gôl, a'i gweld yn disgyn i’r cefn dan y trawst.

Anodd yw dweud y dylai unrhyw dim fod wedi ennill y gêm yma, a doedd un pwynt yr un yn ddim mwy nag a ddylent ei haeddu. Anodd hefyd fyddai dweud fod Abertawe yn edrych fel tîm sydd yn rhy dda i ddisgyn allan o'r Uwch-gynghrair - doedden nhw ddim! O leiaf fe roddid y ddisgyblaeth obaith newydd i Abertawe a gyda gem gartref yn erbyn Crystal Place o'u blaenau'r Sadwrn yma, fe ddylai gobaith godi am fuddugoliaeth o’r diwedd, a hwyrach, gobeithio eu codi o waelod y gynghrair.

Mwy o negeseuon