Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Galwad Cynnar - Nionod
hau nionod - sowing onions
hadau - seeds
waeth i chi gyfaddau - you might as well confess
darnau o lwch - pieces of dust
gwyrth - a miracle
egino - to germinate
cymeradwyaeth - applause
anwesu - to caress
rhaffau - ropes
arddangosfa - exhibition
…nionod, neu winwns. Mae Medwyn Williams yn enwog am ei nionod ac mi ddaeth o i Lanfairpwll, Ynys Môn ddydd Sadwrn i sôn wrth bobl y pentre am sut mae tyfu nionod da. Roedd Gerallt Pennant yno hefyd wrth gwrs a dyma i chi flas ar y sgwrs...
Tra Bo Dau - Branwen a Meic
cynhyrchydd - producer
mam-fedydd - godmother
trafod y bennod - discussing the episode
tad-cu - taid
magwraeth - upbringing
atgoffa - to remind
hap a damwain - a pure accident
llond bol - a gutsful
doniol - funny
yn ddi-wahân - without exception
Medwyn Williams, ei nionod a phobl Llanfairpwll ar Galwad Cynnar ddydd Sadwrn diwetha! Cafodd Nia Roberts gwmni dau sydd wedi bod yn gyfrifol am rai o raglenni gorau S4C ers ugain mlynedd, ar y rhaglen Tra bo Dau yr wythnos diwetha. Buodd Nia yn clywed am berthynas creadigol y dramodydd Meic Povey a’r cynhyrchydd Branwen Cennard sydd wedi ysgrifennu cyfresi efo'i gilydd fel Iechyd Da, Teulu a Byw Celwydd. Dyma Branwen i ddechrau yn sôn am sut dechreuodd ei diddordeb hi yn y gwaith...
Rhys Mwyn - Ceffyl Pren
gwahoddiad - invitation
uniaith - monolingual
cynnwys - content
cefnogol - supportive
golygydd - editor
gohebydd newyddion - news correspondent
glaswellt - grass
andros o brofiad - a tremendous experience
anwybyddu - to ignore
beirniadaeth - criticism
Sian Phillips a Stifyn Parri fydd yn sgwrsio efo Nia Roberts yn y rhaglen nesa o Tra Bo Dau, fydd ymlaen am saith nos Sul ac am hanner dydd, dydd Mawrth. Yr wythnos yma Glam Rock oedd yn cael sylw Rhys Mwyn ac mi fuodd Gareth Morlais, oedd yn arfer chwarae efo'r band Ceffyl Pren a’r gantores Heather Jones yn cofio rhai o'r bandiau arbennig yma. Ond mi gafodd Rhys a Heather ychydig o sioc wrth glywed hanes un gig enwog iawn Ceffyl Pren...
Aled Hughes - Sgwrsio
perchennog - owner
siop fach gymdeithasol - a small sociable shop
gyrr o wartheg - herd of cattle
rhuthro - to rush
sbio - edrych
dadl - a debate
codi twrw - rabble rousing
rhywbeth dan haul - anything under the sun
pechu - to upset
coelich chi fi - believe me
Gareth Morlais a Heather Jones yn fan'na yn cofio am Glam Rock efo Rhys Mwyn. Lle sy orau ganddoch chi i siopa, archfarchnad neu siop leol? Mae na lawer yn meddwl bod cael sgwrs dda yn rhan bwysig o siopa, a bod hynny ar goll yn y siopau mawr. Be mae pobl Llangefni ar Ynys Môn yn ei feddwl tybed? Aeth Aled Hughes draw yno i weld gan ddechrau yn y siop cigydd...