Main content

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 03 Gorffennaf 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.听

Dei Tomos - Doctor

y fyddin - the army
yn gyfrifol am - responsible for
llawfeddyg - surgeon
cyfaill - ffrind
diffaith - barren
ar fin priodi - about to marry
arbenigo - to specialize
y canolbarth - mid-Wales
deniadol - attractive
cynfas - sheet

"...efo sgwrs ddifyr iawn gafodd Dei Tomos ddydd Sul efo Tudor Jones oedd yn arfer bod yn ddoctor yng Nghricieth. Mae Tudor wedi ysgrifennu llyfr am hanes ei fywyd, ac mi glywon ychydig o'r hanes hwnnw ddydd Sul. Yn y clip yma mae'n s么n am ei amser yn y fyddin, a pham penderfynodd o ymuno 芒 phractis yng Nghricieth. Fel y cawn ni glywed doedd o ddim yn bractis normal iawn... "

Daf a Caryl - carnifal

Pwyllgor - committee
darparu - to provide
trwy gydol - throughout
ymylon - fringes
Iechyd a diogelwch - Health and Safety
cymanfa ganu - hymn singing festival
pres - arian
haelioni - generosity
llwyfan - stage
anhygoel - incredible

"Da ynde, cynfasau oedd ffonau symudol y gorffennol! Wel mae'r haf wedi cyrraedd ac mi rydan ni yn nhymor y carnifalau. Gobeithio bydd y tywydd yn braf ynde, mae cymaint o waith yn mynd ymlaen i gael carnifal llwyddiannus. A be am y plant bach sy'n cael eu coroni yn Frenhines y Carnifal, neu'n was bach, yn Page Boy i'r Frenhines? Dw i'n siwr bod yna lawer iawn o blantos ar hyd a lled y wlad yn edrych ymlaen at y diwrnod mawr. Ar Daf a Caryl ddydd Mercher clywon ni gan Mefys Jones Edwards a'i gwr Stephen Edwards am eu profiadau nhw yng ngharnifalau Llanberis a Bethesda, un fel brenhines a'r llall yn was bach..."

Nia - Twm Elias

ymholiad brys - an emergency request
mewn gwirionedd - in reality
llachar - bright
dof - tame
ysgubor - barn
dianc - to escape
galaru - to bereave
brathu - to bite
rhegi - to swear
dychwelyd - to return

"Dyna ni ynde, dan ni'n gwybod rwan sut i gael arian poced i'r plant - cysylltu efo pwyllgor y carnifal lleol! Yn aml iawn ar Radio Cymru mi glywn ni am rywun yn chwilio am rhyw gi neu gath sy wedi mynd ar goll ac yn gofyn am help i ddod o hyd i'r anifail. Weithiau fel arall bydd hi a rhywun wedi ffeindio anifail ac yn chwilio am y perchennog. Ar raglen Nia ddydd Mawrth mi roedd yna ap锚l i ddod o hyd i berchennog creadur gwahanol iawn, oedd yn amlwg ar goll. Yn ardal Maentwrog oedd y creadur rwan a'r naturiaethwr Twm Elias oedd yn gwneud yr ap锚l..."

Geraint Lloyd - Randall Bevan

hawlio - to claim
mo'yn - eisiau
dodi - rhoi
y rhyfel - the war
mas - allan
bwrw - to hit
cwrdd 芒 - cyfarfod efo
atgofion - memories
y ddaear - the ground
parhau mwyach - to carry on any longer

"Gobeithio ynde y bydd rhywun yn hawlio'r parot druan. Stori arall am greadur sy'n hedfan rwan - ond s么n ydw i am ddyn ac nid am aderyn! Buodd Geriant Lloyd yn siarad efo Randall Bevan nos Fercher. Mae Randall yn byw yn Ipswich rwan ond yn dod o Lanaman yn wreiddiol. Ond pam ddwedais i fod o'n hedfan? Wel hedfan o'r trampoline i ddechrau. Fo oedd pencampwr trampoline Prydain ym Mil Naw Chwe Un, Chwe Dau a Chwe Thri! Ond ei hanes yn hedfan efo parachute ydan ni'n mynd i'w glywed rwan. Dyma Randall efo'r hanes..."

Canwr y Byd - Jamie Barton

dolen - link
cyfansoddwr - composer
y bedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th century

Tybed oedd Randall wedi canu 'Please release me, let me go' wrth i'r parachute beidio ag agor. Bydd y rhai ohonoch chi sydd ddigon hen yn gwybod mai un o ganeuon Engelbert Humperdinck oedd honno. Ac mae hynny'n ddolen ofnadwy i'r eitem nesa, gan fod c芒n gan yr Engelbert Humperdinck arall - y cyfansoddwr o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg - yn rhan o repetoire enillydd Canwr y Byd Caerdydd eleni - y mezzo soprano o Ogledd America, Jamie Barton. Aria allan o'r opera Hansel a Gretel oedd hi o'r enw 'Ja, Gretelchen ... Hurr, hopp, hopp'. Dyma ran ohoni, mwynhewch ...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar Y Marc - Cyd chwarae, gorau chwarae