Main content

Blog Ar Y Marc - Cyd chwarae, gorau chwarae

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Dydd Sul diwethaf cefais y fraint o fod yn bresennol yng nghynhadledd gyntaf Ymddiriedolaeth Beldroed Cymru ar gyfer darpariaeth i chwaraewyr ac anabledd. Cynhaliwyd y gynhadledd ar safle Prifysgol Glynd诺r yn Wrecsam . Tydi pawb ddim yn mynychu cyrsiau neu gynadleddau o'r fath a鈥檜 disgrifio yn brofiad o fod yno fel braint! Ond roedd yn fraint o'r mwyaf.

Rwyf eisoes, dros fy ngyrfa yn y byd addysg, wedi canolbwyntio ac arbenigo ar agweddau o addysg arbennig, ond roedd yr hyn a welais, ac a glywais y Sul diwethaf cystal ag unrhyw gwrs a f没m ynddo erioed.

Trefnwyd y dydd gan Rob Franlkin, swyddog peldroed i'r anabl, a chafwyd amlinelliad ardderchog o鈥檙 ddarpariaeth, ynghyd a鈥檙 gofal ac arweiniad a roir i chwaraewyr o bob cefndir. Roedd yr hyn a bortreadwyd fel darpariaeth i d卯m cenedlaethol chwaraewyr sydd ag anabledd dysgu, yn gwrs a fyddai o werth i unrhyw un sydd yn ymwneud ac unrhyw fudiad neu ddarparwr , neu yn gofalu a鈥檔 hunigolion, ac anghenion tebyg.

Llwyddwyd i anfon neges glir a dealladwy ar sut i addasu a gwahaniaethu strategaethau hyfforddi ar gyfer y gr诺p yma o chwaraewyr, gan gyfleu cysyniadau haniaethol megis sut i symud i wahanol rannau o鈥檙 cae, neu wneud defnydd effeithiol o fylchau, mewn dull real ac ymarferol. Roedd yr eirfa a'r dull o fynegi syniadau yn dangos dealltwriaeth arbennig o anghenion y chwaraewyr a gwybodaeth drylwyr ar sut i addasu gweithgareddau ar eu cyfer . Ac yna aethpwyd ati yn y sesiwn ddilynol i ddangos sut i droi'r cyflwyniad yma yn weithred ymarferol, gyda safonau uchel o hyfforddi a dealltwriaeth ardderchog o alluoedd ac anghenion chwaraewyr.

Cafwyd arbenigedd o鈥檙 tu allan i Gymru hefyd. Yn y prynhawn, cynhaliwyd sesiwn gan swyddog anabledd peldroed Everton, Steve Johnson, gwr a gollodd ei goes mewn damwain rhai blynyddoedd yn 么l, ond ddaeth yn fyd enwog fel chwaraewr galluog o fewn gemau i'r anabl . Dangosodd sut i addasu gwahanol ymarferiadau ar gyfer y byddar, y deillion, ac ar gyfer chwaraewyr sydd ag anableddau mwy dwys.

I ddiweddu, cafwyd sesiwn o holi ac ateb gyda gr诺p o chwaraewyr ifanc o wahanol dimau anabledd Cymru o dan gadeiryddiaeth Malcom Allen. Braint oedd gweld aeddfedrwydd y chwaraewyr ifanc yma a oedd mor barod i ddisgrifio sut y mae darpariaeth yr Ymddiriedolaeth wedi rhoi profiadau unigryw iddynt. Da deall hefyd cymaint mae'r Ymddiriedolaeth mor barod i gydnabod eu talentau a rhoi cyfleodd iddynt nad oedd yn bodoli rhai blynyddoedd yn 么l.

Rwyf, fel rhywun sydd wedi gweithio ym myd addysg arbenigol ers blynyddoedd, wedi dod i ddysgu mai un fy nyletswyddau o fewn ein cymdeithas ydi sicrhau fod ein hieuenctid sydd ag anghenion arbennig yn cael pob cymorth i sicrhau dilyn bywyd o ansawdd, a derbyn chefnogaeth i'w galluoedd a'u cryfderau . Llwyddodd swyddogion yr Ymddiriedolaeth i sicrhau fod hyn yn bodoli yn eu darpariaeth . Braint oedd cael bod yn rhan o鈥檙 dydd.

Llongyfarchiadau i bob un a gymrodd rhan yn y gynhadledd am gyfleu a dangos yr arbenigedd, dealltwriaeth, arweiniad, ynghyd a鈥檙 awch a鈥檙 brwdfrydedd i sicrhau fod cyfloedd peldroed yn cael eu cynnig mor gydwybodol i'r chwaraewyr yma. Cyd chwarae, gorau chwarae - arwyddair Cymdeithas Beldroed Cymru yn cael ei wireddu i鈥檙 eithaf. Diolch am gael bod yno.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 10

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 03 Gorffennaf 2013