Main content

Podlediad Dygsu Cymraeg Mai 18fed-24ain

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Bore Cothi - Gill a Gwen

ers (y)cychwyn - from the beginning
cefnogi - supporting
bob oedran - every age
cylch o ffrindiau - circle of friends
yn dwli dod - really enjoy coming
yn rheolaidd - regularly
ar y we - on the web
datblygu - to develop
cadw lan - keeping up
creu - to create

Eleni mae Gill a Gwen, perchnogion Stiwdio Gwallt a Harddwch GGs ar Stryd Llyn, Caernarfon yn dathlu dau ddeg pum mlynedd ers dechrau busnes yn y dre. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo nhw am lwyddiant y busnes.

Georgia Ruth - Hannah Daniel

poblogaidd - popular
deufis a hanner - 2 and a half months
yr un pryd - at the same time
y gyfres - the series
mae'n edrych fel'ny - it looks like that
dw i'n amau - I suspect
ffyddlon - faithful
anhygoel - incredible
atynnu - attract
awyddus - eager

Dipyn bach o hanes salon Gg's Caernarfon yn fan'na ar Bore Cothi. Yr actores Hannah Daniel oedd gwestai arbennig Georgia Ruth ar ei rhaglen nos Fawrth ac mi fuon nhw'n trafod cerddoriaeth ond hefyd wrth gwrs yn sgwrsio am Un Bore Mercher sydd newydd ddechrau ar S4C. Mae Hannah yn chwarae rhan Cerys Jones yn y ddrama boblogaidd.

Aled Hughes - Geordan Burress

dyma sy'n mynd i synnu - this is what's going to surorise
cerddoriaeth - music
tybed - I wonder
tanio dy ddiddordeb - sparked your interest
'chydig bach - a little bit
mi ddylen ni - we should
annog - to encourage

A chofiwch bod Un Bore Mercher ymlaen bob nos Sul ar S4C ac mae'n bosib dal i fyny efo'r gyfres ar Clic neu ar i-player. Nesa dan i'n mynd i glywed gan Geordan Burress sy'n dod o Cleveland Ohio ac sydd wedi dysgu Cymraeg dros y we. Mae hi'n rhugl erbyn hyn ac yr wythnos diwetha roedd hi yng Nghymru am y tro cynta.

Dei Tomos - Geordan Burress

sylfaenwyr - founders
sawl ymdrech - many attempts
wedi methu'n druenus - failed dismally
dawn naturiol - natural talent
dwys - intense
ar ei orau glas - at its very best
dilyniant - progression
sbardunodd - inspired
dyhead - yearning
cynhyrchu - to produce

Hanes anhygoel Geordan Burress yn fan'na. Roedd hi'n sôn mai ar y we roedd hi wedi dysgu Cymraeg ac ar wefan Say Something In Welsh oedd hynny. Mae'r cwmni yn dathlu penblwydd yn 10 oed penwythnos yma. Aran Jones oedd un o sylfaenwyr y cwmni ac roedd o wedi dysgu Cymraeg ei hun. Dyma fo'n sôn am ei ymdrech i ddysgu'r iaith.

Geraint Lloyd - Sioned Foulkes

arwain - to conduct
di-elw - not for profit
cynnwys - to include
creadigol - creative
dwyieithog - bilingual
unigolion - individuals
buddsoddi - to invest
ar derfyn - at the end
hunangynhaliol - self-sufficient
y wefr - the thrill

Aran Jones o Say Something In Welsh yn siarad gyda Dei Tomos am ei brofiadau o ddysgu Cymraeg cyn iddo fo sefydlu'r cwmni poblogaidd. Mae Sioned Foulkes yn trio sefydlu côr newydd yn Sir y Fflint ac mae hi'n chwilio am bobl o bob oedran o'r gymuned i ymuno yn y côr cymunedol newydd! Dyma hi'n sôn ychydig am y prosiect wrth Geraint Lloyd.

Hanner Call - Tudur Owen

menywod - merched
mentro ar lwyfan - venturing on stage
eithriad - exception
yn raddol - gradually
ers talwm - in the past
doniol - funny
y rhagfarn - the prejudice
brawychus - frightening
rhwystredig - frustrating
rhwystrau - barriers

Os ydych chi'n byw yn Sir y Fflint ac yn ffansïo canu mewn côr cymunedol, cysylltwch a Sioned Foulkes. Buodd Heddyr Gregory yn trafod menywod ym myd comedi ar y gyfres Hanner Call. Dyma glip o sgwrs gafodd hi gyda'r comedïwr Tudur Owen am y newid mae o wedi ei weld dros y blynyddoedd.

Bore Cothi - Roy Noble

aroglau - smells
ffwrn - oven
twymo gyda glo - heated with coal
colli tir - losing ground
stiws Gwyddelig - Irish stew
yn ddiweddar - late
winwns - onions
neb yn becso - nobody worried
codi pwysau - puttng pressure

Tudur Owen yn fan'na'n sôn am y cynnydd sydd mewn merched yn y byd comedi. Ac i orffen mi fuodd Shan Cothi yn holi Roy Noble am ei hoff aroglau.

Mwy o negeseuon

Blaenorol