Un gêm ac un fuddugoliaeth (yn erbyn Slofacia 1-0) yn eu gr诺p cymhwyso ar gyfer Ewro 2020, sydd gan Gymru y tu cefn wrth gychwyn ar daith i ganolbarth Ewrop y penwythnos yma.
Croatia brynhawn Sadwrn, ac yna taith fer ar draws i Hwngari erbyn nos Fawrth, a byddai buddugoliaethau yma yn argoeli’n dda tuag at ymestyn y gobaith o gyrraedd y ffeinals y flwyddyn nesaf.
Ond a yw’n ormod i obeithio am fuddugoliaethau?
Cyrhaeddodd Croatia ffeinal Cwpan y Byd y llynedd, ond, anghyson mae pethau wedi bod - gan iddyn nhw golli eu gem agoriadol yn y gystadleuaeth, o ddwy gol i un adre i Hwngari, er curo Azerbaijan o sgôr debyg cyn hynny a cholli, o ddwy gol i un eto, adre i Loegr yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Anodd darogan be all ddigwydd yn erbyn Cymru, ond fentrai awgrymu mai dwy gol i un fydd y sgôr?!
O ran Hwngari, canlyniad da yng Nghroatia, ar ôl colli yn Slofacia o ddwy i ddim, a hyn ar ôl tair gem heb golli yng Nghynghrair y Cenhedloedd, curo’r Ffindir ac Estonia (y ddwy o ddwy gol i ddim) yn dilyn gem gyfartal (3-3) yn Estonia.
Dwy wlad, Croatia a Hwngari, sydd i mi, yn dangos anghysondeb yn eu canlyniadau, ond beth am Gymru? Ydan ni hefyd yn dangos yr un nodweddion?
Curo Slofacia, fel ag a nodwyd, felly hefyd Trinidad a Tobago (er mai tîm arbrofol ifanc oedd hwn), colli mewn gem arall gyfeillgar yn Albania, colli adre i Ddenmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd, ond trechu Gweriniaeth Iwerddon nol yn yr hydref.
Felly, wrth geisio codi gobeithion drwy awgrymu ein bod am wynebu dau dîm anghyson, mae’n anodd peidio â gosod yr un feirniadaeth am berfformiadau Cymru!
Hwyrach y bydd dwy gêm gyfartal yn fwy tebygol, er y credaf y gellir cael un gêm gyfartal) yng Nghroatia efallai?) a buddugoliaeth yn Hwngari.
Os yw’r arwyddion cynnar yn unrhyw fath o linyn mesur, yna fe all y gr诺p yma fod yn un anodd ei ddarogan, gyda mwy o berfformiadau anghyson o'n blaenau.
Ar hyn o bryd hwyrach na ellir gwneud gwell na chroesi bysedd !!