Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Ebrill 29ain - Mai 5ed

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.



Merched Y Wawr - Codi Arian

Llywydd - President
sawl ymgyrch - several campaigns
casgliadau - collections
ailgylchu - recycle
cyd-lynnu - co-cordinate
llewyrchus iawn - successful
symbyliad - stimulus
amgylchynu - surround
cadwyn - chain
penllanw - climax

"...Merched y Wawr. Dan ni wedi sôn o'r blaen bod y mudiad yn hanner cant oed eleni ac mi glywon ni glip yr wythnos diwetha o'r rhaglen gynta yng nghyfres Radio Cymru amdanyn nhw. Yn yr ail raglen, mi glywon ni sut mae Merched y Wawr yn codi arian at achosion da. Yn y clip nesa o'r rhaglen honno, dan ni'n mynd i glywed am un ffordd lwyddiannus iawn y codon nhw, arian oedd yn golygu mynd â llawer iawn o frâs i'r Eisteddfod Genedlaethol. Gwrandwch ar hyn... "


Rhys Mwyn - Blondie

mis mêl - honeymoon
mwya doniol - funniest
amlwg - obvious
mas - allan
edmygu - admire

"Wel, wel, pwy fasai'n meddwl, Merched y Wawr yn dod â'r Eisteddfod Genedlaethol i stop efo cadwyn o frâs! Nos Lun mi roedd Mared Lenny ar raglen Rhys Mwyn i sôn am albwm newydd Blondie sef ‘Pollinator’ ac yn ystod y sgwrs soniodd hi am yr adeg pan gafodd hi’r cyfle i gyfarfod â Debbie Harry yn Efrog Newydd..."

Bore Cothi - Neuadd Albert

lleoliad - location
gwres - heating
yr hawl - the right
yn gyfrifol - responsible
diogelwch - safety
ysgwyddau - shoulders
pwysau - pressure
amrywiaeth - variety
cynhyrchiadau - productions
egni ac awyrgych - energy and atmosphere

"Tybed fuodd Blondie yn perfformio yn yr Albert Hall yn Llundain? Go brin ynde? Ond bore Mawrth mi gafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio efo un o reolwyr y neuadd enwog - Gruff Owen. Mae Gruff yn dod o Gricieth yn wreiddiol, ac mae o wedi bod â diddordeb mawr ym myd y theatr erioed. Fel cawn ni glywed rwan, roedd o wedi cyffroi'n llwyr pan glywodd o ei fod wedi cael y swydd..."


Rhaglen Aled Hughes - Colomennod

colomennod - pigeons
rhyfeddol - wondrous
magu cywion - raising chicks
eu gollwng nhw - releasing them
ambell un - the odd one
twt - tidy
hegar - rough
profi - to prove
twyllo - cheating
modrwy - ring

"Gêmau tenis yn yr Albert Hall? Pwy fasai'n meddwl? Dw i ddim yn meddwl byddan nhw'n cynnal rasys colomennod yno rywsut! Aeth Aled Hughes i Edern ym Mhen Llyn i gwrdd â Mark Squires sy'n cadw colomennod... dros gant ohonyn nhw. Holodd Aled ychydig am sut oedd rasus colomennod yn cael eu rheoli, ac oedd y rasus wastad yn rhai têg? Dyma be oedd gan Mark i'w ddweud... "


Bore Cothi - Geraint Lloyd Owen

bardd y mis - poet of the month
archdderwydd - archdruid
delfrydol - ideal
nefoedd - heaven
carreg farddonol - a poetic rock
cant a mil - hundreds and thousands
deigryn Duw - God's tear
yr olygfa - the scene
ail-fyw - re-live
mewn dim - in no time

"Wel, maen nhw'n cymryd y busnes rasio colomennod ma o ddifri yn' tydyn nhw? Buodd Shan Cothi'n holi Bardd y Mis ar gyfer mis Mai sef yr Archdderwydd Geraint Lloyd Owen, ar Bore Cothi dydd Llun. Roedd Geraint wedi sgwennu soned yn arbennig ar gyfer y rhaglen. Enw’r soned ydy “Rhywle ym Meirion” ac mae Geraint yn esbonio ychydig am y gerdd cyn ei darllen. Hyd yn oed os nad ydach chi'n deall pob gair yn y soned, mae'n braf, tydy, cael gwrando ar fardd yn darllen un o'i gerddi ei hun. Mwynhewch..."

Taro'r Post - Dug Caeredin

Dug Caeredin - Duke of Edinburgh
gwr bonheddig - gentleman
ei gwt - his tail
bord - bwrdd

Hyfryd ynde? Ac awn ni nawr o rywle ym Meirion i rywle yng Ngheredigion, Aberteifi i fod yn fanwl gywir. Dyma i chi hanes y ffermwr Philip Read o Aberteifi yn cwrdd â Dug Caeredin. Sut berson oedd o tybed? Dyma Philip, yr un o Aberteifi felly, yn dweud ei ddweud...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Achubiaeth Casnewydd

Nesaf

Achubiaeth i Gasnewydd