Main content

Achubiaeth i Gasnewydd

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Wel do! Ddeudis i di!

Roedd hi’n dipyn o ddiwrnod pêl droed y Sadwrn diwethaf yn ein t欧 ni. Abertawe ar y teledu, Hartlepool yn erbyn Doncaster ar y ffon, a Chasnewydd ar y radio.

Roedd cynnwrf ym mhob man, ac yn dibynnu pwy ydych yn ei gefnogi, anodd yw dweud os mai ar y Liberty neu ar Rodney Parade oedd y cynnwrf mwyaf!

Mi ges nifer o negeseuon ar ddiwedd y noson yn ymddiheuro for Abertawe wedi curo Everton, ond i fod yn hollol deg, doedd gen i fawr o ots! Mae Everton wedi gwneud digon i gymhwyso ar gyfer Cynghrair Ewropa'r tymor nesa, ac fe fyddai lawer gwell gen i weld y Jacks yn aros i fyny nac unrhyw un o’r timau eraill o gwmpas y gwaelod.

Felly, fel y cafodd rhai o fy ffrindiau wybod - Everton ar y ffordd i Ewrop, Abertawe ar y ffordd i osgoi Premexit yn Sunderland, ble y byddant yn ceisio arod o fewn pel droed Lloegr drwy gadw eu lle yn yr uwch gynghrair ! Siawns na fyddai hynny’n bosibl yn erbyn tîm sydd heb wneud fawr o ddylanwad ar unrhyw un y tymor yma, er iddynt guro Hull, un o brif wrthwynebwyr Abertawe yn y frwydr rhag disgyn, oddi cartref y Sadwrn diwethaf.

Ie, wir, does wybod!

Yna roedd Casnewydd yn galw am achubiaeth hefyd rhag rhyw Twoexit o Adran Dau!

Gorfoledd wrth iddynt fynd ar y blaen yn erbyn Notts County, yna, llawenydd wrth i Doncaster fynd ar y blaen yn Hartlepool, dim ond i'r tîm cartref sgorio ddwy waith a gweld breuddwyd Casnewydd yn troi'n hunllef o dan eu trwynau wrth i Notts County sgorio a dod yn gyfartal, a Hartlepool yn parhau ar y blaen.

Rhaid oedd i Gasnewydd ennill erbyn hyn! .

Ymlaen at y pum munud olaf, y sgoriau yn parhau'r un fath a’r Gyngres gan gynnwys Wrecsam yn barod i groesawu ‘r tîm o Went i gadw cwmni iddynt y tymor nesaf. Hard Twoexit go iawn!

Yna, fel mae’r byd pêl droed yn gallu troi, a Chasnewydd ond angen gôl, o rywle gan rywun, i'w achub, neu allan i annwfn i gwmni Wrecsam byddai’r hanes.

Yna, digwyddodd, darfu, megis seren wib!

Pêl i’r asgell, croesiad, a throed dde yn anfon y bel i gefn y rhwyd!

Daeth tro ar ddyfodol Casnewydd.

Daeth tro ar y môr o gefnogaeth a fynnodd ymweld â’r maes (a faint o rheini aeth yno fan feddwl mai dyma’r tro diwethaf y byddant yn gweld pêl droed Adran Dau ar Rodney Parade tybed?) ond gwawriodd dyfodol newydd, a chyn pen chwinciad roedd popeth drosodd.

Achubiaeth i Gasnewydd, helo, Port Vale a Coventry, croeso atom i Adran Dau, a ffarwel Wrecsam.

Llongyfarchiadau i Gasnewydd ond ‘dyw popeth ddim drosodd.

Rhaid i'r clwb a’i swyddogion / gyfarwyddwyr benderfynu yn sydyn ac mor fuan ag sydd bosibl sut y maent am gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae'r tîm wedi gwneud eu gwaith ar y cae a ‘rydym eisoes yn gwybod bod gobaith am well wyneb ar y cae ar Rodney Paraed dioch ilw cyfeillion o’r byd rygbi.

Mae’n dibynnu ar ymdoddiad yr arweinwyr oddi ar y cae ‘r诺an i sicrhau na fydd y patrwm a welwyd yn y gorffennol, o chwysu a gobeithio y gellir aros yn Adran Dau ddim yn cael ei ddilyn i'r dyfodol, a bod yna gwell gynlluniau ar gyfer dyfodol llawer mwy disglair.

Wedi'r cwbl, does dim ond angen edrych i gyfeiriad Wrecsam i weld yr hyn a allai ddigwydd.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf