Main content

Llwyddiant Cei Connah - Ail Rownd Cwpan Her Yr Alban

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn dilyn eu llwyddiant wrth drechu Falkirk oddi cartref y Sadwrn diwethaf, bydd Nomadiaid Cei Conna yn wynebu Coleraine o Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon yn nhrydedd rownd Cwpan Her yr Alban (Cwpan IrnBru).

Dyma fydd gêm gartref gyntaf y Nomadiaid yn y gystadleuaeth, sydd wedi eu gweld yn teithio i'r Gogledd ddwywaith hyd yn hyn, i wynebu Dumbarton a Falkirk.

Bydd y gêm, a fydd yn cael ei chwarae ar nos Sadwrn Hydref 13 (am 7.30 ac yn fyw ar Sgorio ar S4C) yn gweld Cei Conna yn croesawu’r tîm sy’n profi cryn lwyddiant yng Ngogledd Iwerddon, ac a orffennodd yn yr ail safle yn yr uwch gynghrair y llynedd, tra hefyd yn cipio Cwpan Gogledd Iwerddon.

Cymaint eu llwyddiant nes y gwelwyd eu rheolwr, Oran Kearney yn gadael y clwb i reoli clwb St Mirren yn uwch gynghrair yr Alban, ble y bydd yn ymuno â phedwar rheolwr arall o Ogledd Iwerddon, gan gynnwys Brendon Rodgers yn Celtic, sydd yn rheoli timau yn uwch gynghrair yr Alban.

Fel y Nomadiaid, chwaraeodd Coleriane yn rownd agoriadol Cwpan Ewropa ar gychwyn y tymor, ond colli oedd yr hanes - yn erbyn Spartak Subotica o Serbia, tra collodd y Nomadiaid hefyd ar y cynnig cyntaf, yn erbyn Shakhtyor Soligorsk o Felarws.

Nid dyma fydd gem gyntaf y Nomadiaid yn erbyn tîm o Ogledd Iwerddon, gan eu bod wedi chwarae gemau cyfeillgar cyn cychwyn y tymor, ac eleni cafwyd buddugoliaeth o ddwy gôl i un yn erbyn pencampwyr gogledd Iwerddon, 2-1 Crusaders ‘nol ym mis Gorffennaf.

Bydd rheolwr y Nomadiaid yn gobeithio y bydd y fuddugoliaeth dros Falkirk y Sadwrn diwethaf yn ysbarduno ei dîm am fwy o lwyddiant, yn enwedig drwy ennill y fantais o gynnal y gêm adref ar Stadiwm Coleg ar Lannau Dyfrdwy.

Roedd peniad Michael Wilde ar ôl 46 munud yn dilyn cic rydd gan Craig Jones yn ddigon i guro Falkirk gan sicrhau lle'r Nomadiaid yn rownd yr 16 olaf, ond siom a gafwyd ar Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt wrth i'r Seintiau Newydd, sydd wedi cyrraedd y rownd gyn derfynol yn y ddwy flynedd diwethaf, golli adre , ar giciau o'r smotyn i Queen’s Park (o Glasgow).

Mwy o negeseuon

Blaenorol