Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Medi 8fed - 14eg 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Geraint Lloyd - Daniela Schlik

digwyddiadau cymdeithasol - social events
enfawr - huge
mae na rhyw alw - there's a demand
bob yn ail - every other
llwyddiant - success
y rownd derfynol - the final round
mwyach - by now
ieithyddol - linguistic

Fel dach chi'n gwybod mae'r dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion yn dechrau'r wythnos yma, a dw i'n siwr bod llawer ohonoch chi yn edrych ymlaen at y wers gynta! Cafodd Geraint Lloyd sgwrs yr wythnos diwetha efo Daniela Schlick sy'n dod o'r Almaen yn wreiddiol ond sy'n byw yn ardal Bangor yng Ngwynedd erbyn hyn. Buodd Daniela yn cystadlu yng nghystadleuaeth Dysgwr y Fwlyddyn yn y gorffennol a dyma hi'n rhannu ei phrofiad hi o ddysgu Cymraeg.

Taro'r Post - Siarad

gwirfoddoli - to volunteer
dim esgusodion - no excuses
un cam bach ar y tro - one step at at time
cyfle ar ôl cyfle - chance after chance
ystyried - to consider
gormod o ymdrech - too much effort

Ac eleni Daniela gafodd y marc uchaf drwy Gymru yn yr arholiad Uwch, llongyfarchiadau mawr iddi hi ynde? Roedd Daniela yn sôn yn fan'na ei bod yn trefnu nosweithiau peint a sgwrs ym Mangor, a siarad wrth gwrs ydy'r rhan bwysicaf o ddysgu iaith. 'Siarad' ydy enw hefyd ar gynllun newydd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i geisio cael siaradwyr Cymraeg i wirfoddoli i dreuilo 10 awr yn ystod y flwyddyn, yn cwrdd â dysgwyr ac yn eu helpu i ddod yn fwy hyderus wrh siarad Cymraeg. Un sydd wedi bod yn rhan o'r cynllun ydi Ali Evans o Gilgerran, Beth oedd Ali wedi ei gael allan o'r cynllun felly?


Bore Cothi - Sarah Reynolds

hunangofiant - autobiography
hynt a helynt - the story of
corwynt o gariad - a whirlwind of love
darganfod y gwir - discovering the truth
gras ac amynedd - grace and patience
peth tebygrwydd - some similarity
gwahaniaethau - differences
cywilydd - shame
eitha cyfrinachol - fairly secret
mochaidd - dirty

Ali Evans yn amlwg wedi mwynhau cymryd rhan yn y cynllun 'Siarad'. Cofiwch os ydych chi yn siaradwr Cymraeg neu yn dysgu'r iaith ac eisiau cymryd rhan eich hunan, cysylltwch a'ch canolfan Cymraeg i Oeodlion leol. Wedi dysgu Cymraeg mae Sarah Reynolds hefyd ac mae hi'n awdures llyfrau Cymraeg a Saesneg. Un o'i llyfrau hi ‘Cyffesion Saesnes yng Nghymru' oedd yn llyfr yr Wythnos Radio Cymru wythnos diwetha, ond faint o stori Sarah sy yn y llyfr hwn tybed?

Rhaglen Aled Hughes - Fan y Big

esgyniad - ascension
disgyniad - descent
Y Trallwng - Welshpool
offer - equipment
uchderoedd - uplands
pren mesur - ruler (as in maths)
copa - summit
bwlch - mountain pass
bryn - hill
yn werth ei gerddded - worth walking

Swnio'n llyfr diddorol iawn yn tydy? Sarah Reynolds oedd honna'n sgwrsio am ei llyfr ar Bore Cothi. Mae Cymru wedi colli mynydd cyfan ac mae'r bai am hynny ar Aled Williams o Borthmadog. Mynydd, neu cyn fynydd oedd Fan y Big yn Ne Cymru yng nghanol Bannau Brycheiniog, ond pan welodd Aled Fan y Big gofynnodd o'r cwestiwn iddo'i hun- 'ydy hwn yn fynydd go iawn'?

Wythnos Fi - Carys Eleri

coedwig - wood (forest)
y galaru - the bereavment
hynafol - ancient
fy nghalon i - my heart
anhygoel - incredible
y llefydd hardda - the pretiest places
paid ti becso - don't you worry
oedd e'n dwli ar y lle ma - he loved this place

Bechod hefyd ynde, colli mynydd fel'na! Bu farw tad yr actores Carys Eleri eleni ac wrth edrych yn ôl ar ei hwythnos hi, dechreuodd hi gofio am y sgwrs oedd hi wedi ei chael gyda fo am beth oedden nhw am ei wneud gyda'i gilydd yn hydref hwn. Dyma glip emosiynol iawn o Carys yn sôn am y sgwrs honno tra'n ymweld â Sain ffagan.

Mwy o negeseuon

Blaenorol