Main content

VAR a Chiciau o'r Smotyn

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Cyflwynwyd y VAR (yr adnodd technolegol i wirio penderfyniadau dyfarnwyr) yn ystod Cwpan y Byd i ddynion y llynedd, ac yn gyffredinol, cafodd ei groesawu wrth iddo gael ei ddefnyddio i wirio, neu gael ei ddefnyddio fel arf i ddyfarnwyr wirio eu penderfyniadau mewn amgylchiadau o ansicrwydd.

Ond, yr wythnos yma, yng Nghwpan y Byd i Ferched, mae’n ymddangos fod y VAR yn cael ei ddefnyddio, nid yn unig i wirio penderfyniadau ond i ddehongli newidiadau i reol yngl欧n â chiciau o’r smotyn, ac i bob pwrpas, i gosbi gôlwyr sydd wedi symud yn rhy fuan oddi ar eu llinell.

Oedd angen VAR i benderfynu os oedd gol geidwad Nigeria (yn erbyn Ffrainc) a Lee Alexander o’r Alban wedi camu ymlaen y cam lleiaf wrth arbed penalti?

Os felly, rhaid gofyn a yw'n bosibl i unrhyw gol geidwad sy’n wynebu cic o’r smotyn, allu arbed y gic heb symud ymlaen?

Rheol ydi rheol? A pwy ddywedwch chi a benderfynodd hyn?

Golwr, chwaraewyr, rheolwr, hyfforddwyr? Neu griw o bobol mewn swyddfa yn ceisio sut i ddod a mwy o gynnwrf a chyfartaledd i'r gêm.

Gofynnwch i unrhyw un sydd yn, neu a fu'n, olwr yn ei ddydd, (ac mi gewch fy nghynnwys i ymysg y rhain) os yw’n bosibl arbed penalti heb gamu ymlaen, ac fe fyddwch yn si诺r o weld rhywun yn edrych yn hurt arnoch.

Ceisiwch wynebu penalti eich hun - ac edrychwch be sy’n digwydd i chi - petai chi'n deifio i'r ochr gan gadw un droed ar y linell, fe fyddwch yn eithaf sicr o ddisgyn yn ôl.

Felly, does ond angen i’r ciciwr o’r smotyn wneud dim mwy na gosod bel i ochr y golwr, o fewn hyd a lled y gôl ac fe fydd bron yn si诺r o sgorio.

Hyd yn oed petai'r gic waethaf yn y byd yn gosod y bel yng nghanol y dyrfa y tu ôl i'r gôl, fe fyddai ail gynnig ar gael petai'r golwr wedi camu modfedd ymlaen yn rhy fuan!

Mae’r Uwch Gynghrair yn Lloegr eisoes wedi cyhoeddi na fyddant yn defnyddio VAR i fonitro symudiadau’r golwyr y tymor nesaf.

O leiaf mae rhywun yn rhywle yn dangos ‘chydig o synnwyr cyffredin !

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf