Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Mehefin 8fed - 15fed 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf


Gari Wyn - Daniel Sumner

Cyfarwyddwr Byd Eang - Golbal Director
cyfrifoldeb - responsibility
lledaenu - increasing the use of
coelio - to believe
sillafu - spelling
sylwi - to notice
sylweddoli - to realise
cymaint o gystadleuaeth - so much competition

Cafodd Gari Wyn sgwrs efo Daniel Sumner sy'n dod o Ynys Môn yn wreiddiol ond sy'n byw yn ardal Seattle yn America erbyn hyn.

Daniel ydy Cyfarwyddwr Byd Eang un o gwmniau mwya'r byd, Microsoft, a'i gyfrifoldeb o fewn y cwmni ydy lledaenu technoleg.

Dyma fo'n sôn am ei ddyddiau ysgol ar Ynys Môn.

Bore Cothi - Heather Jones

y dyddiau cynnar - the early years
y dylanwad - the influence
amser maith yn ôl - a long time ago
tad-cu - grandfather
gwerinol - folky
ro'n i'n dwlu ar - I really liked
y sail - the foundation
techneg - technique

Bachgen efo dyslecsia o Ynys Môn yn un o gyfarwyddwyr Microsoft. Gwych ynde?

Yr wythnos diwethaf roedd y gantores Heather Jones yn dathlu ei phenblwydd yn saithdeg oed.

Dyma i chi flas ar y sgwrs gafodd Shan Cothi' gyda hi yn sôn am ei dyddiau cynnar fel perfformwraig.

Aled Hughes - Enwau

yn falch - pleased
yn hytrach na - rather than
adroddiad blynyddol - annual report
syrffedu - to be tired of
mor gyffredin - so common
pa unigolion - which individual
mynwent - cemetary
yn ddiweddar iawn - very recently
pyllau glo - coal mines
lleihau - to reduce

A phenblwydd hapus iawn i Heather Jones ynde?

A dw i'n siwr bod llawer iawn o Gymry'n falch bod Heather wedi dewis dilyn yr hippies yn hytrach na mynd i fyd yr opera.

Dydy Heather ddim ar ei phen ei hun efo'r cyfenw Jones, nac ydy?

Mae yna gymaint o gyfenwau Cymreig yn Jones, Hughes, Evans ac yn y blaen, ond ydy hyn yn achosi problem?

Mae Sara Louise Wheeler yn onomastegydd, hynny yw mae ganddi ddiddordeb mewn enwau.

Dyma hi'n sôn wrth Aled Hughes sut mae'r Cymry wedi delio efo'r sefyllfa yma.

Aled Hughes - Mo Salah

ymchwil - research
newid agwedd - changing the attitude
cynrychioli - to represent
hiliol - racist
casineb - to hate
addoli - to revere
cymeriad hoffus - a likeable character
pererindod - pilgrimage
cyflwyno'r elfennau - presenting the elememts
gweddill cymdeithas - the rest of society

Wheeler yr onomastegydd yn sgwrsio efo Hughes Radio Cymru yn fan'na.

Mae'r pêl-droediwr Mo Salah yn fwslim a gyda chlwb pêl-droed Lerpwl yn cael tymor mor llwyddiannus eleni tybed ydy hyn wedi newid meddwl rhai o ffans pêl-droed am fwslemiaid?

Dyma Ameer Rana yn dweud ei ddweud efo Aled Hughes.

Dan Yr Wyneb - Sgwar Tianamen

ar gyrion - on the outskirts
gwaed yn llifo - blood flowing
yn farwaidd - deadly quiet
yn anfodlon - unwilling
llochesu - sheltering
diniwed - innocent
sietyn - hedge
cyrff - bodies
pentyrau - heaps
sibrydion - whispers

Ameer Rana oedd hwnna yn sôn am Mo Salah.

Trideg mlynedd yn ôl roedd protestiadau Sgwar Tianamen yn Beijing yn digwydd.

Roedd Lucy Hughes yn fyfyrwraig yn y ddinas ar y pryd ac mi welodd hi'n union beth ddigwyddodd.

Mi wnaeth hi rannu ei phrofiadau efo Dylan Iorwerth ar Dan yr Wyneb.

Aled Hughes - Gwenyn

gwenyn - bee
cysylltu - to connect
cymryd hynny yn ganiatâol - taking that for granted
pryfed - flies
mwya deallus - most intelligent
arbrawf - experiment
dychmygwch - imagine!
tin dros ben - head over heels
oni bai bod - unless that
cynhenid - inherent

Ac mae protestiadau yn China, wel yn Hong Kong beth bynnag wedi bod yn y newyddion yr wythnos diwethaf.

Rhywbeth hollol wahanol i orffen y podlediad hwn, sef seicoleg gwenyn.

Mae grwp ymchwil yn Melbourne, Awstralia wedi bod yn astudio seicoleg gwenyn.

Maen nhw wedi dweud bod gwenyn yn gallu nabod rhifau a symbolau.

Dyma oedd gan y Dr Deri Tomos i dweud am yr ymchwil wrth Aled Hughes.

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Copa Am茅rica 2019

Nesaf

VAR a Chiciau o'r Smotyn