Main content

Clwb Peldroed Wrecsam yn 150 oed

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yr wythnos yma mae clwb p锚l droed Wrecsam yn dathlu can mlynedd a hanner ers ei ffurfio.

Cychwynwyd popeth gan aelodau o glwb criced y dref a oedd yn awyddus, fel ag yr oedd lawer o dimau criced yn yr Oes Fictoraidd, i gynnal rhyw fath o chwaraeon yn ystod y gaeaf.

Ffurfiwyd clwb p锚l droed Everton a hefyd Tottenham Hotspur yn y ffordd yma gan griw o fechgyn ifanc , aelodau ysgol sul y capel lleol a oedd yn chwarae criced yn yr af hac am gadw'n heini drwy'r gaeaf. A be gwell na chael gafael ar y g锚m newydd o b锚l droed a oedd ar gychwyn yn y trefi newydd y pryd hynny yn sgil y Chwyldro Diwydiannol.

Sicrhaodd hyn mai Wrecsam ydi鈥檙 clwb p锚l droed hynaf yng Nghymru a鈥檙 trydydd clwb proffesiynol yn y hynaf yn y byd, yn dilyn Notts County a Stoke City.

Chwaraewyd y g锚m gyntaf ar yr ail ar hugain o Hydref, 1864 ar gae criced sir Ddinbych (sef Cae Ras Prifysgol Glynd诺r fel y gelwid o heddiw). Eu gwrthwynebwyr oedd t卯m Gwasanaeth Tan Tywysog Cymru.

Yn y dyddiau cynnar yma, cyn sefydlu rheolau cyt没n, roedd gemau rhwng timau yn cynnwys tua dau ar bymtheg o chwaraewyr yn rhywbeth arferol, mae cofnodion ar gael am gem yn cynnwys un ar bymtheg yr ochor yn erbyn Coleg Caer, a phymtheg yn erbyn tim Gwasnaeth Tan y Gwirfoddolwyr!

Gyda diffyg trefn yngl欧n 芒 faint o chwaraewyr a ddylai gael eu cynnwys mewn t卯m, roedd clwb Wrecsam yn arloesol ac yn arweinwyr amlwg yn yr ymgyrch i sefydlu timau yn cynnwys un ar ddeg o chwaraewr ym mhob t卯m.

Yn 1876, chwaraeodd Cymru ei gem ryngwladol gyntaf, oddi cartref yn yr Alban, gyda'r t卯m yn cynnwys dau aelod o glwb Wrecsam, sef Edwin Cross ac Alfred Davies. Yna a'r pumed o Fawrth y flwyddyn ddilynol, daeth yr Alban i鈥檙 Cae Ras .

Sicrhaodd y g锚m yma o flaen torf o bedwar mil, mai 'r Cae Ras ydi鈥檙 Stadiwm ryngwladol hynaf yn y byd , sydd yn dal i gynnal gemau p锚l droed hyd heddiw.

Enillodd Wrecsam ffeinal gyntaf cwpan Cymru, mewn gem a gynhaliwyd ar Barc Acton yn y dref, gan guro鈥檙 Derwyddon o un g么l i ddim.

Ar wah芒n i gemau yng Nghwpan Cymru, gemau cyfeillgar oedd y rhan fwyaf o gemau cyntaf Wrecsam ar y Cae Ras; yna yn 1883, penderfynwyd cystadlu yng Nghwpan Lloegr am y tro cyntaf. Cafwyd bei yn y rownd gyntaf, cyn colli i Groesoswallt yn yr ail rownd,

Ond doedd bywyd ar y Cae Ras ddim yn fel i gyd yn fel.

Oherwydd ffrae gyda pherchennog y safle pan godwyd y rhent i 拢10 y flwyddyn, chwaraeodd Wrecsam eu gemau cartref rhwng 1881 a 1883 ar gae hamdden Rhosddu gerllaw cyn symud yn 么l i'r Cae Ras, ble maent wedi bod byth ers hynny.

Ymunodd y clwb a'r hen Drydedd Adran ( Gogledd) Gynghrair Bel Droed Lloegr yn 1921. Hartlepool United oedd eu gwrthwynebwyr yn y g锚m gyntaf, ar y Cae Ras o flaen torf o wyth mil.

Glas oedd lliwiau crysau Wrecsam yr adeg hynny, ond colli oedd yr hanes yn y g锚m gyntaf, o ddwy gol i ddim. Yr wythnos ddilynol, aeth Wrecsam oddi cartref am y tro cyntaf, i Hartlepool, a chafwyd dial buan wrth iddynt ennill o un g么l i ddim.

Er mwyn dathlu鈥檙 pen-blwydd, mae gem Wrecsam y Sadwrn yma yn erbyn Grimsby yn gaddo i fod yn dipyn o achlysur. Bydd adloniant yn cael ei gynnig drwy dan gwyllt, cyfraniad gan G么r Meibion y Fron, Band Cambria, ynghyd a gwahoddedigion eraill, megis cyn chwaraewyr enwog y clwb a hefyd , o bosib, yr hen ffefryn, sef mascot y Rockin' Robin hwyrach, yn 么l y son, am ail ymddangos!

Ie tipyn o achlysur ar Gae Ras Prifysgol Glynd诺r.

Mwy o negeseuon

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Hydref 7, 2014