Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - 2il o Chwefror 2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Bwrw Golwg - Dydd Santes Dwynwen

chwedl - fable
mo'yn - eisiau
rhinweddol - virtuous
yn grac - yn flin
gweddïo - to pray
wejen - cariad
rhewi - to freeze
dadleth - to thaw
serch - affection
lleian - nun

"Roedd hi'n ddiwrnod Santes Dwynwen, ddydd Llun diwetha. Gobeithio eich bod chi wedi cofio, neu bod rhywyun wedi cofio amdanoch chi ynde? Mae'r diwrnod wedi dod yn boblogaidd iawn yng Nghymru dros y blynyddoedd diwetha. Ond pwy oedd Santes Dwynwen, a pham mai hi ydy Santes cariadon Cymru? Wel roedd yr atebion gan y Canon Patrick Thomas ar Bwrw Golwg ddydd Sul... "

 

Rhaglen Dylan Jones - Tutankhamun

mwgwd aur - golden mask
Yr Aifft - Egypt
glud - glue
henebion - ancient monuments
dychmygu - to imagine
difrodi - to damage
smonach - a mess
cyn-gyfarwyddwr - former director
ffwrdd-a-hi - splapdash
cuddio - to hide

"Hanes Santes Dwynwen yn fan'na gan y Canon Patrick Thomas. Ydach chi erioed wedi torri rhywbeth gwerthfawr ar ddamwain? Mae'n deimlad ofnadwy yntydy? Meddyliwch sut oedd y person dorrodd fwgwd aur Tutankhamun yn teimlo. Roedd mwgwd y Ffaro o'r Aifft yn un o'r darnau hanesyddol enwocaf erioed. Ond yn ddiweddar cafodd y mwgwd ei dorri ar ddamwain, gan staff yr amgueddfa yn Cairo. Mae wyth aelod o staff mewn trwbwl am drïo trwsio'r mwgwd gyda glud! Mae gan y cyflwynydd Sian Thomas ddiddordeb mawr yn hanes yr Aifft ac mi fuodd hi'n dweud mwy am stori'r mwgwd wrth Dylan Jones... "

 

Taro'r Post - Addysg Gymraeg

mamiaith - mother tongue
becso - poeni
dewis - to choose
paratoi - to prepare
ymchwilio - to research
profiadau personol - personal experiences
eisoes - already
o flaen llaw - beforehand
beichiog - pregnant
trafod - to discuss

"Wel, wel, smonach go iawn ynde? Hanes mwgwd Tutankhamen yn fan'na gan Sian Thomas ar raglen Dylan Jones. Roedd na dipyn o sôn yr wythnos yma am addysg Gymraeg ar ôl i raglen deledu ddilyn Lucy a Rhodri Owen wrth iddyn nhw benderfynu i ba ysgol yr oedden nhw am anfon eu mab Gabriel. Saesneg ydy iaith gynta Lucy a Chymraeg ydy mamiath Rhodri. Felly ai ysgol uwchradd Gymraeg neu un Saesneg fasai orau i Gabriel? Dyma Lucy yn dweud wrth Garry Owen ar Taro'r Post ddydd Mawrth sut aeth hi o'i chwmpas hi i benderfynu ..."

 

Geraint Llody - John Nicholas

cerddor - musician
clod - praise
llwyfan - stage
dipyn o fraint - quite a privilege
aelodau - members
dathlu - to celebrate
anaf - injury
ar y gweill - in the pipeline
rhyddhau - to release
dwyieithog - bilingual

"...ac os wnaethoch chi wylio'r rhaglen, dach chi'n gwybod mai dewis anfon Gabriel i ysgol Gymraeg wnaeth Lucy yn y diwedd. Mae cystadleuthau ‘open-mic' yn boblogaidd iawn y dyddiau hyn ac allan o ugain mil o bobl yn ddiweddar daeth y cerddor John Nicholas o Gaerdydd yn ail drwy Brydain, ac ennill y wobr am y gân wreiddiol orau. Cafodd y ffeinal ei chynnal yn Birmingham wythnos diwethaf a dyma John yn dweud yr hanes i gyd wrth Geraint Lloyd..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cystadleuaeth newydd bosib i glybiau o Gymru

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: 09/02/2016