Main content

Cystadleuaeth newydd bosib i glybiau o Gymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ymddengys fod yna syniad am gystadleuaeth newydd yn cael ei drafod yn yr Alban. Mae son am ymestyn gwahoddiad i ddau dîm o Ogledd Iwerddon a dau dîm o Uwch gynghrair Dafabet Cymru i ymuno mewn cystadleuaeth o dan drefn Cynghrair Proffesiynol yr Alban (SPFL)  gyda'r trefnwyr yn gobeithio derbyn sêl bendith UEFA ar y syniad. 

 

Mae UEFA, corff pêl droed Ewrop eisoes wedi rhoi caniatâd i gynlluniau tebyg yn y gorffennol, yn benodol wrth gefnogi’r Gwpan Baltig, sy’n cynnwys clybiau o Estonia, Latfia, y Ffindir a Lithwania. Ar hyn o bryd, mae 主播大秀 Alba (sef gwasanaeth teledu cyfrwng iaith Gaeleg yn yr Alban) yn talu tua £ 100,000 y flwyddyn i ddarlledu’r twrnament Cwpan Her yn ei ffurf bresennol ond mae penaethiaid SPFL yn gobeithio codi symiau tebyg gan ddarlledwyr Cymreig a 主播大秀 Gogledd Iwerddon.

 

Cafwyd rhyw gynllun tebyg yn Iwerddon rai blynyddoedd yn ôl, o dan enw Cwpan Setanta pan roedd timau o’r Weriniaeth a'r Gogledd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Yn ôl pob son, mae swyddogion Cynghrair Gogledd Iwerddon yn gweld y syniad newydd yma yn yr Alban fel rhywbeth a all ehangu profiad eu clybiau a chodi safon o fewn eu cynghrair. Ni fydd timau sydd wedi cymhwyso ar gyfer cystadlu  yn Ewrop (sef Cynghrair Pencampwyr Ewrop a Chwpan Ewropa) yn debygol o gael eu gwahodd.

 

Felly mae’r syniad yma yn mynd i roi cyfle ychwanegol i nifer o dimau sydd ddim wedi cymhwyso. Bydd hefyd yn gallu cynnig rhoi hwb ychwanegol iddynt wrth gystadlu o fewn eu cynghreiriau cenedlaethol,  a chynnig profiad newydd sydd yn werth manteisio arno, gan archwilio gorwelion newydd.

 

Mae rheolwr Glasgow Rangers, Mark Warburton eisoes wedi mynegi ei gefnogaeth i'r gystadleuaeth a'r cynlluniau, ac mae’n gweld y syniad yn un sy’n cynnig syniadau arloesol a fyddai’n ysgogi cynnydd a datblygiad pellach i'r gêm ymysg timau sy'n chwilio am ddatblygu ymhellach. Amser a thrafodaethau a ddengys os daw’r syniad yma i gael ei wireddu, ond ar hyn o bryd, er mai dim ond awgrymiad ydyw i drafod yw hyn, ymddengys fel petai yn un sydd hwyrach yn werth ei ystyried.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 26/01/2016

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - 2il o Chwefror 2016