Main content

Pigion i Ddysgwyr - 26 Medi 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Roedd Mozart yn Chwarae Billiards - cystadleuaeth

offeryn - instrument
dyfeisio - to invent
diafol - devil
cymharol diweddar - fairly recently
coel - belief
wyrcws - workhouse
celloedd - cells
her unawd - solo challenge
cyfeilio - to accompany
chwyth - wind

...efo billiards. Ydy pobl yn chwarae billiards dyddiau hyn dwedwch? Wel, yn ôl Alwyn Humphreys roedd Mozart yn chwarae Billiards. Wel mi ddylia fo wybod, achos Alwyn ydy Cadeirydd gêm banel gerddorol newydd Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru. Mae yna ddau dîm, a dau gapten- Shân Cothi a Gareth Glyn. Ond peidiwch a disgwyl billiards ar y sioe yma -dim ond llawer iawn o hwyl, jôcs a cherddoriaeth. Dyma i chi flas...

Ìý

Stiwdio - Golwg yn 25

seiliau - foundations
rhagflas - preview
hogi eu harfau (idiom) - sharpening their knives
ysblennydd - splendid
rhyfeddu - to be amazed
nifer cyfyngedig - a limited number
adwy enfawr - a huge gap
urddasol - dignified
hyblyg - flexible
adlewyrchu - to reflect

"Ac ar y panel yn fan'na efo Shân a Gareth roedd Rob Nicholls a Mary Lloyd Davies. A dwn i ddim sut oedd Shan yn medru canu yr hen gân draddodiadol Gymraeg ' Yr eneth gadd ei gwrthod' ar diwn 'We'll keep a Welcome'. Da ydy hi ynde? Mae'r cylchgrawn 'Golwg yn dathlu ei benblwydd yn ddau ddeg pump eleni ac ar Stiwdio yr wythnos diwetha mi fuodd Siân Pari Huws yn edrych nôl ar hanes y cylchgrawn. Cafodd Golwg ei sefydlu yn nhref fach Llambed yng Ngheredigion gan y newyddiadurwr Dylan Iorwerth. Dyma'r hanes yng ngeiriau Dylan ac un o newyddiadurwyr y Ö÷²¥´óÐã, Vaughan Roderick..."

Daf a Caryl - ‘The Great British Bake Off’

lan - fyny
ychwanegu - to add
profi - to test
cyffrous - exciting
ymateb - respond

"Difyr ynde? Ac wrth gwrs, mae Golwg yn mynd o nerth i nerth efo gwefan Golwg 360 a'r cylchgrawn i ddysgwyr Lingo. Wel mi roedd Caryl Parry Jones yn ôl yn y stiwdio efo fi ar ôl pythefnos o wyliau. Ac mi roedd hi wrth ei bodd bod Beca Lynne Perkis wedi dod mewn i gael sgwrs efo ni. Mae pobl yn nabod llais a wyneb Beca erbyn hyn gan ei bod hi ar y rhaglen ‘The Great British Bake Off’. Mae hi dal yn y gystadleuaeth ac mi ddwedodd hi wrthon ni ddydd Mercher be sy'n debyg o ddigwydd yr wythnos nesa... "

Nia - Anthony Evans

peiriant golchi llestri - dishwasher
dodi - rhoi
rhy drwchus - too thick
mo'yn - eisiau
brwnt - budr
arbed (arian) - to save (money)
egni - energy
synnwyr - sense
dim modd - no way
ffydd - faith

"Pob lwc i Beca ynde? Tybed ydy Beca wedi defnyddio'r peiriant golchi llestri i wneud ei chacenni a'i bara brith? Dw i ddim yn meddwl rhywsut. Ond dyna yn union mae'r cogydd Anthony Evans wedi ei wneud. Mae o wedi coginio gammon yn y peiriant golchi llestri, ar ôl darllen llyfr oedd yn dweud bod hyn yn un ffordd o dorri lawr ar gostau coginio. Felly sut hwyl gafodd Anthony arni?"

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar y Marc - Ysgolion Aberystwyth

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 02 Hydref 2013