Main content

Blog Ar y Marc - Ysgolion Aberystwyth

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Tra mae t卯m Aberystwyth wedi gwneud cychwyn da i'w tymor yn yr Uwch Gynghrair eleni, gan sefydlu eu hunain yn y pedwaredd safle erbyn heddiw, mae datblygiadau oddi ar y cae hefyd yn tynnu tipyn o sylw.

Y Sadwrn diwethaf gwelwyd menter newydd yn cael ei lansio ar faes Goedlan y Parc cyn eu g锚m yn erbyn Gap Cei Conna.

Datgelwyd partneriaeth leol rhwng clwb p锚l droed Aberystwyth a rhai o ysgolion lleol y dref wrth i ddisgyblion Ysgol Gymraeg gyflwyno ei gem gartref yn erbyn Cei Conna yn Uwch Gynghrair Cymru a noddwyd gan Corbett Sports.

Cafodd deg ar hugain o ddisgyblion eu gwahodd i chwarae rhan swyddogol yn y g锚m, fel cludwyr fflagiau, ac i chwarae g锚m ar y cae yn ystod hanner amser. Cawsant hefyd fwynhau taith o gwmpas stadiwm Coedlan y Parc, ynghyd a chael cipolwg tu 么l i'r llenni i'r ystafelloedd newid, cyn cael cyfle i gasglu llofnodion a thynnu lluniau ar ddiwedd y g锚m. Rhoddwyd hefyd ddisgownt yn y pris mynediad i rieni'r plant a ddewiswyd gan yr ysgol i fynychu'r g锚m.

Dywedodd Cyfarwyddwr Marchnata'r Clwb Thomas Crockett: "Gyda'r prosiect yma rydyn ni am adeiladu ar waith bendigedig ein Swyddog Datblygu Stuart Jones, wnaeth ymweld 芒 nifer o ysgolion lleol y llynedd, gan gael ymateb penigamp gan y disgyblion.

Yn sgil y datblygiad yma, mae鈥檔 eithaf amlwg fod y clwb am sicrhau fod plant lleol yn cael croeso cynnes ar Goedlan y Parc, ac yn teimlo fel rhan o gymuned y clwb. Felly fel parhad o鈥檙 cynllun, bydd clwb Aberystwyth yn ceisio sicrhau fod pob g锚m gartref ar ddydd Sadwrn yn cael ei gyflwyno gan ysgol gynradd leol."

Dywedodd pennaeth Ysgol Gymraeg Aberystwyth Clive Williams wrth wefan Uwch Gynghrair Cymru ei fod yn ystyried y datblygiad yma fel cyfle arbennig i ddisgyblion ysgolion lleol ymrwymo yn bositif gyda chlwb p锚l droed Aberystwyth. Cyfle felly i ddisgyblion a'r rhieni edrych ymlaen yn fawr i gefnogi eu clwb lleol, a bydd y cyfle i chwarae gem yn ystod egwyl hanner amser ar y cae yn ddigwyddiad cofiadwy i鈥榬 chwaraewyr ifanc.

Mae鈥檙 cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn gweld ysgol Plascrug yn cyflwyno g锚m gartref Aberystwyth yn erbyn y Bala y Sadwrn yma, ac fe fydd ysgol Llwyn Yr Eos yn cyflwyno'r g锚m yn erbyn Bangor ar Ionawr 18fed.

Rwyf eisoes wedi bod yn feirniadol o鈥檙 ffaith nad oes llawer o dimau Uwch Gynghrair Cymru yn y gorffennol, wedi gwneud cymaint ag y gallant i feithrin cysylltiadau cymunedol agos gyda鈥檙 ardal. Tybed felly, a ydi clwb Aberystwyth wedi dangos llwybr newydd drwy greu menter i geisio datblygu diddordebau cymunedol o fewn Uwch Gynghrair Cymru.

Hwyrach fod llwyddiant yn magu llwyddiant, ac er i Aber lithro yn annisgwyl wrth weld Cei Conna yn dod yn gyfartal gyda chic o鈥檙 smotyn yn hwyr yn y g锚m, ac achub pwynt iddynt eu hunain, gwelwyd torf o dri chant ar Goedlan y Parc. Siom efallai i'r dilynwyr newydd oedd cael g锚m gyfartal, ond mae鈥檙 her wedi ei osod i fwy o glybiau ddatblygu mentrau tebyg ar hyd a lled Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports yn y dyfodol.

Tybed a ddaw disgyblion ysgol Plascrug a gwell lwc i d卯m eu tref yn erbyn y Bala bnawn Sadwrn?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr: 18 Medi 2013

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr - 26 Medi 2013