Main content

Tynged Ton Pentre

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Diwedd tymor, ond i rai clybiau, a’i dyma’r diwedd?

Mae sefyllfa clwb Ton Pentre wedi cael cryn sylw’r wythnos yma gyda dyfodol y clwb, a ddaeth i fodolaeth dros gant ac ugain mlynedd yn ôl, yn y fantol.

Cafwyd datganiad swyddogol ar ran y clwb yn dweud na all pethau barhau fel ag y maent, ac os na fydd yna nawdd ariannol ar gael, a mwy o ymroddiad ar ran y gymdogaeth i helpu'r clwb i oresgyn i'r dyfodol, gan gynnwys penodi cadeirydd, ysgrifenydd a rheolwr masnachol, swyddi sydd heb eu llenwi ers dwy flynedd, yna mae'n ofid na fydd yna ddyfodol o'u blaenau o gwbl!

Diffyg diddordeb ymysg gwirfoddolwyr i ymuno a phwyllgor y clwb ac ymateb i ofynion y drefn newydd weinyddol o fewn pêl droed Cymru sydd yn sail i'r gofidion yn y Rhondda. Tybed felly a ydi'r gofynion cyfredol yma yn gosod gormod o ddisgwyliadau a dyletswyddau ar wirfoddolwyr pwyllgorau clybiau lleol, ond, wedi dweud hynny, mae’r un rheolau ac amodau'r un i bob clwb.

Ar y llaw arall, mae hyn yn rhywbeth sydd yn digwydd yn aml iawn, ac mae llwyddiant clwb Cambrian a Clydach yn dangos fod diddordeb yn y gem yn parhau yn gryf yn y Rhondda.

Mae stori Ton Pentre’ yn drist, ond nid yn anhebyg i hanes nifer o glybiau a fu'n llwyddiannus yn y gorffennol, ond a ddaeth i ben, yn bennaf gan nad oedd to ifanc, newydd ar gael i arwain y clwb ymlaen i'r dyfodol.

Cafwyd sefyllfa debyg draw ym Maesteg pan ddaeth clwb Parc Maesteg, a fu’n cystadlu yn nyddiau cynnar Uwch gynghrair Cymru, i ben yn 2010. Diffyg aelodaeth o’r pwyllgor, a gofynion ariannol o gynnal clwb yng nghynghrair Cymru (rhanbarth y De) a gafodd eu cynnig fel y rheswm dros eu diflaniad . Fodd bynnag, drwy ail gychwyn gyda thîm o ieuenctid, a datblygu i gystadlu o fewn cynghrair lleol yn ardal Penybont, mae’r blas am lwyddiant wedi ail afael a’r fflam wedi ei ail danio unwaith eto.

Cofiaf fodolaeth clwb pêl droed Blaenau Ffestiniog, a fu’n llwyddiannus iawn ym mhêl droed gogledd Cymru ar un adeg, ond yn gôr ddibynnu ar chwaraewyr o gyrion Lerpwl a Wrecsam, gan anwybyddu doniau lleol, a dibynnu ar aelodau o bwyllgor na welodd aelodau newydd yn ymuno, daeth y clwb i ben.

Ond, yn ffodus iawn, nid dyma oedd diwedd pêl droed yn ‘Stiniog, ac yn sgil cwymp tîm y dref yn yr wythdegau hwyr, a hefyd diwedd ar fodolaeth y clwb lleol arall, Blaenau Colts, fe roddwyd genedigaeth i glwb newydd , sef Amaturiaid y Blaenau i annog y gêm a rhoi cyfleoedd i chwaraewyr lleol. Eleni, daeth llwyddiant wrth i'r clwb ennill dyrchafiad allan o ail adran Cynghrair Undebol Gogledd Cymru, ac ail weld llwyddiant ar Gae Clyd, ond y tro yma drwy ymdrechion tîm o fechgyn lleol.

Ac os nad ydi hyn yn ddigon ynddo'i hun i ysbarduno unrhyw un y bod yna ffordd yn ôl, yna ni allwn wneud yn well na chyfeirio at atgyfodiad pêl droed yn nhref y Barri gyda phêl droed Ewropeaidd yn dychwelyd unwaith eto yn sgil llwyddiant Barry Town United

Allwch chi ddim gwneud yn well na hyn o ran stori atgyfodiad.

Pob lwc i Don Pentre, tîm a hawliodd eu lle ar lwyfan Ewrop yn 1995. Fe ddaw haul ar fryn unwaith eto yn y Rhondda, rwy’n si诺r.

Mwy o negeseuon

Blaenorol