Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Ebrill 6ed-12fed 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf


Beti a'i Phobl - Paul Flynn

is-etholiad - by-election
Aelod Seneddol - Member of Parliament
acen Wyddelig - Irish accent
Pabyddol - Catholic
Llafur - Labour
eithriad - exception
dylanwad - influence
cerddoriaeth - music
barddoniaeth - poetry
etifeddiaeth - heritage

Roedd yna is-etholiad yng Nghasnewydd yr wythnos o'r blaen yn dilyn marwolaeth yr Aelod Seneddol Paul Flynn yn 84 oed. Cafodd ei ethol i'r Senedd yn 1987 ac er mai Saesneg oedd iaith ei gartre roedd yn rhugl yn y Gymraeg ac yn ei defnyddio yn aml.

Dyma i chi glip o archif Radio Cymru ble roedd Beti George yn holi Paul Flynn ynglyn â'i gariad at y Gymraeg.

Bore Cothi - Dr Harri Pritchard

offer arbennig - special equipment
cadw'n ddiogel - keeping safe
trafod - discussing
mae'n debyg - apparently
negeswyr - messagers
hanfodol - essential
tariannau - shields
anghyfforddus - uncomfortable
sefyllfa anodd - a difficult situation

Clip o archif Radio Cymru oedd hwnna, Beti George yn sgwrsio efo Paul Flynn ar Beti a'i Phobl yn 1995.

Er mai dim ond mis Ebrill ydy hi mi chwaraeodd clwb criced Morgannwg ei gêm gynta penwythnos diwetha.

Mae cricedwyr wrth gwrs yn gorfod gwisgo offer arbennig er mwyn cadw'n ddiogel, nid yn unig yr helmed wrth fatio ond hefyd offer arbennig i gadw rhannau is y corff yn saff! Buodd y meddyg teulu Dr Harri Pritchard yn trafod ar Bore Cothi pa mor bwysig ydy hi i wisgo'r offer cywir.

Bore Cothi - Prawf gyrru

ymdrech - attempy
casáu - to hate
sa i'n gwybod - dw i ddim yn gwybod
yn llygaid i gyd - all eyes
yn rhwyddach - easier
canolbwyntio - to concentrate
perffeithydd - perfectionist
di-hyder - lack of confidence
chi'n 'bo - dach chi'n gwybod
shwd (sut) gymaint - so much

A dyna ni wedi dysgu ychydig o hanes y gair 'jockstrap'. Dan ni'n mynd i aros efo Bore Cothi ar gyfer y clip nesa 'ma.

Maen nhw'n dweud fod hi byth yn rhy hwyr i ddysgu. Ac un sy wedi profi hyn yn ddiweddar ydy Iris Davies o Abernant sydd bron iawn yn chwedeg dwy oed ac sy newydd basio ei phrawf gyrru, a hynny ar ei hymdrech gynta. Bore Mawrth buodd Iris a'i mab, Dyfed, yn sgwrsio ar Bore Cothi ynglyn â gwersi gyrru.

Rhaglen Aled Hughes - Iaith caneuon pop

colli gafael - losing its grip
enghreifftiau - examples
mae'n poethi yma - it's hotting up here
yr enwogion - the famous ones
yn gynharach - earlier
brig y siartau - top of the charts
cyfleu - to convey
yn gyfarwydd â - familiar with
dyfalu - to guess
serennu - to star

Da iawn Iris ynde? Ydy'r Saesneg yn colli gafael ar y byd pop? Ydy, yn ôl y wefan: https://www.smoothradio.com/news/music/foreign-language-pop-songs-overtaking-english/

Dyma i chi Rhydian Bowen Phillips ar raglen Aled Hughes yn rhoi enghreifftiau o'r caneuon hynny o ieithoedd eraill sydd wedi llwyddo yn y siartiau Prydeinig.

Rhaglen Aled Hughes - Bletchley Park

dadansoddi - to analyse
Almaenwyr - Germans
menywod - women
o ystyried - considering
yn ein harddegau - in our teenage years
yn raddol - gradually
tystysgrif - certificate
ei chanmol hi - praising her
ofni - fearing
carchar - prison

Mae Bletchley Park yn enwog oherwydd Enigma - y peiriant oedd yn torri côd negeseuon y Natsiaid adeg yr Ail Ryfel Byd.

Roedd yna dîm anhygoel o fathamategwyr yn gweithio efo Enigma, ond y dynion yn unig gaeth y clod am y gwaith pwysig hwn.

Un o'r merched oedd yn gweithio yno oedd Mair, mam Gethin Russell - Jones a buodd Gethin yn sôn am ei fam a'i hamser yn Bletchley Park ar raglen Aled Hughes fore Mawrth.

Rhaglen Ifan Evans - The Durrells

colurydd - make up artist
arferol - usual
saethu - shooting
hyd eich diwrnod chi - the length of your day
bob yn ail - every other

Hanes diddorol Mair Russel-Jones yn fan'na ar raglen Aled Hughes.

Mae'r gyfres The Durrells yn ôl ar ITV ac mae'r colurydd o Lanbedr Pont Steffan, neu Llambed, Meinir Jones-Lewis yn gweithio ar y gyfres. Ar raglen Ifan Evans ddydd Mercher diwetha cafodd Trystan Ellis-Morris sgwrs gyda Meinir a gofynodd iddi hi ddisgrifio diwrnod arferol ar y set.

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Aaron Ramsey v Napoli

Nesaf

Tynged Ton Pentre