Main content

Penwythnos 4edd Rownd Cwpannau Cymru a FA Lloegr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Penwythnos y gwpan yma yng Nghymru a hefyd yn Lloegr, gyda dwy gêm yn tynnu sylw.

Yng Ngogledd Cymru fe fydd llygaid llawer ar y gêm yn Nantporth rhwng Bangor a Chaernarfon, gem sydd yn fyw ar Sgorio nos Sadwrn ac sydd yn debygol o weld torf o dros ddwy fil yn ymgynnull.

Mae dwy fil o dicedi eisoes wedi ei gwerthu, ac yn ôl y son, mae lle i ryw bedwar cant arall yno.

Tydi Caernarfon ddim heb gefnogwyr y dyddiau yma, gyda mil a dau gant o dicedi sef holl ddyraniad ticedi i Gaernarfon wedi eu gwerthu i gyd.

Mae gweld y Cofis wedi llwyddo i gyrraedd y chwech olaf ar gyfer ail hanner Uwch Gynghrair Cymru yn chwa o awel iach ymysg pêl droed Cymru, gyda’r clwb a’r cefnogwyr yn dangos yr hyn sydd wedi bod ar goll yn ddiweddar, a'r hyn sy'n bosibl gyda thîm trefol go iawn gyda chefnogwyr brwd.

Draw yng ngogledd Lloegr, mae gem ddarbi arall o ryw ddisgrifiad.

Middlesbrough yn erbyn Casnewydd

Ar y wyneb d’oes yna ddim byd y gellir ei ddisgrifio fel darbi yn y gêm yma, ond drwy gofio mai o Gasnewydd mae rheolwyr y ddau dîm yn hanu, mae pethau yn edrych y wahanol.

Ond mae hon yn fwy na gêm rhwng dau reolwr o’r un dref.

Cafodd Tony Pulis (rheolwr Middlesbrough) a Mike Flynn (rheolwr Casnewydd ) eu magu yn ardal Pillgwenlli (sef Pill) o'r dref.

Dechreuodd Pulis chwarae pêl droed gyda thîm amatur Newport YMCA, tra cychwynnodd Flynn ei yrfa gyda Chasnewydd, cyn symud i nifer o dimau, gan gynnwys y Barri, a hefyd Undy Athletic yn Sir Fynwy, cyn dychwelyd yn ôl i Gasnewydd am y trydydd tro, cyn cael ei apwyntio fel rheolwr y llynedd.

Dau fachgen o’r Pill efallai, a gyda Pulis wedi cael ei fagu yn Stryd Dolphin a Flynn, hanner milltir i ffwrdd yn Stryd Baldwin (deng munud o daith gerdded) fe fydd yna ddigon o ddathlu o gwmpas ardal y Pill nos Sadwrn, pa bynnag dîm fydd yn llwyddiannus.

Mwy o negeseuon

Nesaf