Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 21-27 o Ionawr 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Bore Cothi - Martina Davies

Sbort - Fun
Yr Wyddor - The alphabet
Ymarfer - To practice
Ymuno â - To join with
Rhagor - More
Llwyddiannus iawn - Very successful
Cryn dipyn o sylw - Quite a lot of attention
Trawsdoriad eang - A wide cross-section

Nae sawl ysgol haf i ddysgwyr yng Nghymru on'd oes? Ond dyn ni'n mynd i glywed hanes ysgol haf ym mhen arall y byd - yn Awstralia. Ysgol haf i blant gael dysgu ac ymarfer y Gymraeg yw hon a dyma i chi Martina Davies, sy'n dod o Grymych yn Sir Benfro yn wreiddiol, yn rhoi ychydig o hanes yr ysgol ar Bore Cothi...

Cofio - Anne Grigg

Menywod - Women
Lan - Up
Yn foel - Bald
Golch - (The) washing
Hanner coron - Half a crown
Dau swllt - Two shillings
Yn cynnwys - Including
Anonest - Dishonest
Cyfnod cyffrous - An exciting period
Disgwyl - Waiting

Ar ôl tywydd oer yr wythnos diwetha mae'n hawdd anghofio ei bod yn haf yn Awstralia on'd yw hi? A hanes Ysgol Haf Awstralia glywon ni yn fan'na ar Bore Cothi. Beth sy gyda Penarth, hipis a launderette yn gyffredin? Dyma i chi Anne Grigg yn esbonio wrth Hywel Gwynfryn...

Rhys Mwyn - Melys

Cefnogi - Support
Galwad - A call
Andros o beth - A huge thing
Cyfforddus - Comfortable
Yn gynnar - Early
Adborth - Response
Egni - Energy

Clip o archif Cofio oedd hwnna, rhan o raglen Helo Bobol yn 1985 gyda Anne Grigg yn rhannu ambell i stori o'r chwedegau pan oedd hi'n cadw launderette ym Mhenarth. Dechreuodd y band Melys, o ardal Betws y Coed, ganu yn 1996. Roedden nhw'n canu yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn fand llwyddiannus iawn. Buon nhw ar raglen John Peel ar Radio 1 unarddeg o weithiau. Ar ôl cyfnod o beidio perfformio mae'r band wedi dod yn ôl at ei gilydd ac maen nhw newydd fod yn cefnogi'r band Wedding Present mewn sawl gig. Gofynnodd Rhys Mwyn i Andrea o'r band sut brofiad oedd cefnogi band arall?

Rhys Mwyn - Doctor

Poblogaidd - Popular
Hanes cynnar - Early history
Trefnu - To organise
Ychwanegol - Extra
Y nod - The aim
Hyd a lled - The length and breadth
Diymhongar - Unassuming
Cynllun - Plan
Waeth i ni - We might as well
Adloniant - Entertainment

A dyn ni'n aros gyda rhaglen Rhys Mwyn yn y clip nesa. Roedd Doctor yn fand poblogaidd iawn yn y saithdegau, ond dechreuodd y band drwy gefnogi band arall o'r enw Chwarter i Un. Gwyn Williams oedd canwr y ddau fand a buodd e'n dweud peth o hanes cynnar Doctor wrth Rhys Mwyn.

Rhaglen Ifan Evans - Sulwyn Thomas

Hyfforddwr - Coach
Rhai arwyr - Some heroes
Drwy gyfrwng - Through the medium of
Rhyfedd o fyd - Strange world
Brwydro - To fight
Sa i'n siwr - Dw i ddim yn siwr
Gêm ryngwladol - International game
Yn debygol o ddigwydd - Likely to happen
Wedi magu cewri - Had reared giants
Goroesi - To survive7

Hanes sut dechreuodd y band Doctor yn fan'na ar raglen Rhys Mwyn. Atgofion o'i ddyddiau ysgol oedd gan Sulwyn Thomas ar raglen Ifan Evans. Pan oedd yn yr ysgol ramadeg, neu'r ‘gram', roedd ganddo un athro arbennig iawn - Carwyn James. Buodd Carwyn yn chwarae rygbi i dîm Llanelli ac enillodd dau gap dros Gymru. Ond mae'n debyg ei fod yn fwy enwog am ei waith fel hyfforddwr gyda Llanelli, y Llewod a'r Barbariaid. Llwyddodd pob un o'r timau hynny i guro Crysau Duon Seland Newydd. Ond fel athro mae Sulwyn yn ei gofio orau.

Bore Cothi - War Horse

Llwyfan - Stage
Y fyddin - The army
Rhyfel Byd Cyntaf - First World War
Milwr - Soldier
Golygfa - Scene
Dal dychymyg - To catch the imagination
Anhygoel - Incredible
Cryfhau - To strengthen
Braint mawr - A huge privilege
Gweld ar eu gwynebau nhw - To see on their faces

Sulwyn Thomas yn cofio am athro arbennig, un o gewri'r byd rygbi - Carwyn James. Mae War Horse yn ddrama lwyfan a ffilm boblogaidd iawn. Stori Joey, ceffyl oedd yn cael ei ddefnyddio gan y fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf sydd yma, ac mae'r ddrama ar daith o gwmpas theatrau Prydain ar hyn o bryd. Mae Huw Blainey yn rhan o gast y ddrama a buodd e'n siarad amdani gyda Heledd Cynwal ar Bore Cothi.

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Penwythnos 4edd Rownd Cwpannau Cymru a FA Lloegr

Nesaf

Y Ffenestr Drosglwyddo