Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Rhagfyr 9fed - 15fed 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.



Siwrnai Siambr Tudur - Tudur yn drymio

her - a challenge
offerynau taro - percussion instruments
modfedd - inch
curiad - beat
ddim yn gyffredinol - not generally
dyfn (dwfn) - deep
taranu pell - faraway thunder
cerddorfa lawn - full orchestra
wedi eu clymu - tied
nefolaidd - heavenly

"...cyfle i glywed seren newydd y byd drymio - Tudur Owen! Wel, falle ddim, mae Tudur yn medru drymio ychydig ond roedd yr her dderbyniodd o gan Dewi Ellis Jones, aelod o Ensemble Cymru dipyn bach yn ormod. Yr her oedd i Tudur gyd -chwarae offerynnau taro gyda Dewi a gyda Ensemble Cymru mewn perfformiad cyhoeddus yn theatr Pontio ym Mangor. Dyma fo'n dechrau ymarfer efo Dewi..."


Tra Bo Dau - Eric a Lowri

ofn marw - afraid to die
gwres llethol - searing heat
deugain medr - 40 metres
syth lan - straight up
ymchwilio - to research
cwympo - to fall
atgoffa - to remind
carreg fedd - gravestone
profiad bythgofiadwy - unforgetable experience
y llif - current

"Tudur Owen yn fan'na yn dangos pam na fydd o byth yn ddrymiwr proffesiynol! Mae yna dipyn o sôn y dyddiau hyn am chwaraeon eithafol, lle mae pobl yn gwneud pethau peryglus iawn - ac yn mwynhau gwneud hynny. Cafodd Nia Roberts sgwrs dydd Mawrth efo Eric Jones y dringwr a Lowri Morgan sydd wedi rhedeg marathon mewn jyngl yn yr Amazon ac yn oerfel a rhew yr Artic. Ydyn nhw erioed wedi bod ofn marw wrth wneud y pethau peryglus yma? Dyna oedd cwestiwn Nia iddyn nhw.."


Dei Tomos - Rhaglen Deyrnged Huw Jones Bala

anturiaethau - adventures
Parchedig - Reverand
teyrnged - tribute
y diweddar - the late
pregethwr - preacher
ar derfyn - at the end
cael trafferth - having problems
allwn i ddim yn fy myw - I couldn't for the life of me
parchus - respectable
colled enfawr - huge loss

"Eric Jones a Lowri Morgan oedd y rheina yn siarad gyda Nia Roberts am eu hanturiaethau. Nos Sul diwetha roedd yna deyrnged ar raglen Dei Tomos i’r diweddar Huw Jones Bala. Pregethwr oedd Huw Jones a dyma i chi flas ar sgwrs lle roedd pregethwr arall, y Parchedig Harri Parri yn sôn am hiwmor arbennig Huw Jones...."

Post Prynhawn - Tân California

atgofion - memories
bygwth - threatening
talaith - state
dinistrio - to destroy
Efrog Newydd - New York
ar hyn y bryd - at this moment
fatha bod hi - as if it were
oes na beryg? - is there a danger?
gweddill y flwyddyn - the rest of the year
goro/gorfod - to have to

"Harri Parri yn fan'na yn rhannu ei atgofion am y diweddar Huw Jones. Mae'n debyg eich bod wedi clywed ar y newyddion bod tanau ofnadwy yn ne Califfornia. Mae'r tanau erbyn hyn yn bygwth dinas Santa Barbara. Mae Tân Thomas, fel mae'n cael ei alw, yn un o'r tanau mwyaf yn hanes y dalaith, ac ers Rhagfyr y pedwerydd, mae wedi dinistrio bron i wyth gant o dai, ac ardal mwy na dinas Efrog Newydd. Roedd rhaid i ddau gan mil o bobl adael eu cartrefi. Ar Post Prynhawn ddydd Llun buodd Rhys Morris, sy'n byw'n eitha agos at y tanau, yn sgwrsio ar y rhaglen. "


Beti a'i Phobl - Gwion Hallam

coron - crown
bardd - poet
cael ei barchu - is respected
cystadlu - to compete
Talwrn y Beirdd - a poetry competition
seiniau - sounds
delweddau - images
yn eilbeth - secondary
cynhyrchiol - productive
yn fwy o gamp - more of an achievement

"Rhys Morris, sy'n byw yn Califfornia, oedd yn disgrifio effaith tanau ofnadwy California i ni ar Post Prynhawn. Enillodd Gwion Hallam goron Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni, ac mae ei frawd, Tudur, wedi ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol flynyddoedd yn ôl. Pa un sy bwysica - y goron ta'r gadair? Dyna oedd cwestiwn Beti George i Gwion.. "

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol