Main content

Ffarwel Paul Clement - be nesa i Glwb Pel-droed Abertawe?

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae Bristol City yn cael tipyn o sylw’r dyddiau yma, tîm da, rheolwr deallus, cefnogaeth gref arweinyddiaeth ddoeth ddeallus yn gosod seiliau cadarn. Yna buddugoliaeth dros Manchester United yng Nghwpan Cynghrair Loegr (Cwpan y Carabao) sydd yn rhoi gemau dros ddau gymal yn erbyn Manchester City yn y rownd gyn derfynol. Os nad ydi hyn yn ddigon, mae’r tîm yn y trydydd safle yn y Bencampwriaeth, pedwar pwynt y tu ôl i Gaerdydd.

Sefyllfa gref ac un sydd yn ein hatgoffa o Abertawe ar un adeg, cyn hynny di, iddynt gael gwared â Michael Laudrup ‘nol yn 2013. Cyn hynny, dyma oedd y clwb delfrydol ac yn esiampl i bawb ar sut i fagu, datblygu a llwyddo. Ond, nid felly mae pethau heddiw.

Tri rheolwr mewn tair blynedd a’r Nadolig wedi dod yn gyfnod pan mae’n amser cael gwared ohonynt, Bob Bradley y llynedd, Gary Monk cyn hynny a Paul Clement yr wythnos yma. Yn y cyfamser, fe benodwyd Francesco Guidolin ar ôl ymadawiad Monk, ond erbyn yr Hydref roedd yr Eidalwr wedi mynd ac ni pharhaodd Bradley fwy na 85 o ddyddiau.

Be' nesa felly i'r Elyrch ar ôl yr hyn sydd yn ymddangos fel anrheg reolaidd y Nadolig i'w rheolwyr diweddar, sef i'w diswyddo?

Ond, cyn beirniadu Paul Clement, a hynny am gael canlyniadau ddim gwell na chafodd Bob Bradley (er i Clement achub y clwb rhag llithro i'r Bencampwriaeth y tymor diwethaf), rhaid edrych ymhellach a gofyn, os oedd y clwb yn cynnig delwedd berffaith o sut i gynnal ei hun ar un adeg, be’ sydd wedi newid gan adael Abertawe ynghanol mieri, lle unwaith bu mawredd?

Ydi'r clwb, neu’r perchnogion a’r cyfarwyddwyr wedi edrych ar eu hunain yn ddigon agos a meddwl hwyrach fod yna fwy i drafferthion Abertawe na ellir ei ddatrys drwy newid rheolwyr mor aml?

Does dim amheuaeth nad yw’r arweinyddiaeth bresennol wedi llwyddo i gyflawni llawer. Ac mae lle i feirniadu'r clwb am werthu dau o'u chwaraewyr gorau, Gylfi Sigurdsson a Fernando Llorente, yn ystod yr haf, a methu ac arwyddo unrhyw un a oedd yn agos i'w safon i gymryd eu lle. Yn ogystal, fe barhaodd saga trsogwoddiad Sigurdsson i Everton mor hir, gyda’r clwb yn mynnu derbyn £50 miliwn amdano, er iddo fynd am rhyw £40 miliwn yn y diwedd, nes aeth amser heobio a dim cyfle i arwyddo unrhyw un arall!

Gyda dim ond deg o goliau wedi eu sgorio hyd yn hyn y tymor yma yn yr Uwch gynghrair, does dim angen dweud eu bod wedi colli presenoldeb Llorente a chwarae creadigol Sigurdsson!

Pwy felly sydd am ddod ilr Liberty i chwifio rhyw wialen hud ar hyd y lle ac anadlu ychydig o obaith newydd ?

Mae’r enwau cyfarwydd yn barod yn cael eu crybwyll, ond tybed a yw’r clwb wedi ystyried rheolwr tîm Ostersunds o Sweden, tîm sydd wedi dringo yn ddiweddar (o adran tri yn 2013 i’r Allsvenskan (uwch gynghrair Sweden) y llynedd , ac yna cyrraedd rownd y grwpiau yng Nghwpan Ewropa eleni (fel y gwnaeth Abertawe nol yn nyddiau Brendan Rodgers a Roberto Martinez).

Rheolwr Ostersunds ydi Graham Potter (yr unig reolwr Prydeinig sydd yn rheoli tîm yn unrhyw un o’r rowndiau nesaf cwpanau Ewrop). Cyn chwaraewr i nifer o dimau gan gynnwys Birmingham City, Stoke, West Bromwich a Chaer Efrog, mae Potter wedi arwain Ostersunds o'r bedwaredd adran yn Sweden (pan ymunodd yn 2010) a bydd gem yn erbyn Arsenal yng Nghwpan Ewropa yn ei ddisgwyl yn y flwyddyn newydd. Yn ogystal, llwyddodd Potter i ennill gradd mewn Gwyddoniaeth Cymdeithasol o’r Brifysgol Agored (2005) cyn gweithio fel rheolwr ar dim prifysgolion Lloegr, ac yna Prifysgol Metropolitan Leeds ble y cwblhaodd gradd M.A. mewn Arweinyddiaeth a Deallusrwydd Emosiynol (Leadership and Emotional Intelligence). Digon o resymau yma pam y gall Potter fod a chymwysterau addas iawn i ymuno ac Abertawe!

Ond wedi dweud hyn i gyd, ac ystyried cefndir addysgiadol Graham Potter (ynghyd a'r angen o bosib am wialen hudol ar y Liberty !) hwyrach y byddai mwy o angen ar yr Elyrch i benodi Harry Potter o Hogwarts yn hytrach na denu Graham Potter yno o Sweden !

Amser a ddengys.

Wedi’r cwbl, hwyrach nad rheolwr a allai achub Abertawe rhag colli eu lle yn yr uwch gynghrair sydd ei angen ar y Liberty ar hyn o bryd, ond un a fyddai'n gwybod sut i'w harwain yn ôl yno ar ddiwedd y tymor nesaf!

Nadolig llawen i chi gyd.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf