Main content

Siom i Fae Colwyn

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ydi’r amser wedi dod i Fae Colwyn ystyried chwarae eu gemau o fewn strwythr pêl droed Cymru?

 

Yn dilyn o golled o bedair gôl i un adref yn erbyn Whitby nos Fawrth. A hynny o flaen dim ond 192 o gefnogwyr, mae’r clwb yn disgyn i lawr o'u cynghrair am yr ail flwyddyn yn olynol.

 

Ar ôl treulio tymor 2014-15 yn Adran y Gogledd o’r Gyngres (un rheng yn is na'r un mae Wrecsam ynddo), mae’r Bae yn disgyn allan o uwch gynghrair gogledd Lloegr eleni, ac yn Adran Un y gynghrair honno byddant y flwyddyn nesaf.

 

Ers i Lee Williams ymadael a’r clwb yn 2013, mae yna newidiadau cyson wedi bod yn y rhai a fu’n rheoli’r clwb. Cymerodd Frank Sinclair, cyn amddiffynwr Chelsea'r awennau yn dilyn ymadawiad Williams ym mis Chwefror 2013, a llwyddodd i gadw’r tîm yn Adran y gogledd o'r gyngres am dymor, gan orffen yn y deuddegfed safle. Yna yn Ionawr 2015, ymddiswyddodd Sinclair, gan gael ei olynu gan Gus Williams am weddill y tymor, ond ni lwyddodd y clwb i aros yn eu cynghrair, a bu rhaid disgyn i lawr i uwch gynghrair gogledd Lloegr.

 

Penodwyd Ashley Hoskin fel rheolwr ym mis Mai, 2015, ond byr fu ei deyrnasiad, a bu iddo fo hefyd ymadael ym mis Hydref, a chael ei olynu gan Kevin Lynch, ond a gafodd ei ddiswyddo fis yn ôl yn dilyn cyfres o ganlyniadau siomedig.

 

Felly gyda’r clwb yn chwilio am reolwr newydd, y trydydd mewn tua blwyddyn (a bydd hyn y chweched mewn tair blynedd) teg ydi gofyn ble mae dyfodol y clwb yn debygol o'u harwain.

 

Mae gwefan academi’r clwb yn amlinellu eu strwythr o ddatblygu chwaraewyr ifanc, gan gynnig dilyniant a pharhad ar gyfer datblygu'r medrau'r chwaraewyr,  er mwyn cyrraedd safon a fyddai yn ôl y wefan, yn eu galluogi i chwarae i dimau o fewn Uwch Gynghrair Cymru neu uwch ar lefel proffesiynol.

 

Gyda hyn yn osodiad cydnabyddedig o fewn amcanion y clwb tybed pam felly na allai’r Bae ddod yn un o'r timau hynny a allai gynnig y cyfle i'w chwaraewyr lleol chwarae a chystadlu  o fewn  uwch gynghrair Cymru. Wedi’r cwbl oni fyddai anelu at fod yn aelodau llawn o bêl droed yng Nghymru yn well llwybr i'r dyfodol?

 

Siawns na fydd derbyn sylw’r cyfryngau cenedlaethol a cheisio cymhwyso ar gyfer ennill Cwpan Cymru, dod yn bencampwyr ar uwch gynghrair Cymru, a chystadlu ar y cyfandir yn cynnig her well  na cheisio osgoi llithro allan o gynghrair arall yn Lloegr.

 

Siawns hefyd na fyddai gemau yn erbyn timau o’r Iwerddon, Croatia neu Hwngari yn llawer mwy deniadol yn hytrach na chystadlu yn erbyn Glossop North End , Osset Albion neu Harrogate Railway Atheltic.

 

Mae clwb MBi  Llandudno, eu cymdogion agos, wedi dangos yr hyn sydd yn bosibl wrth ddatblygu tîm a chlwb sydd yn barod i ymateb i her genedlaethol a chyfandirol. Mae eu canlyniadau yn yr uwch gynghrair, a nifer eu torfeydd yn dangos eu bod yn prysur achub y blaen ar y Bae, a gyda’r clwb wedi cymhwyso i ennill trwydded i gynnal gemau Ewropeaidd ar eu maes, mae Llandudno yn mynd o nerth i nerth.

 

I gadarnhau eu datblygiad ehangach, mae tîm merched MBi Llandudno yn chware yn ffeinal Cwpan Cymru i ferched y Sul yma, yn y Drenewydd yn erbyn merched Dinas Caerdydd.  Dim ond ers dwy flynedd mae’r tîm yn bodoli ac fe fyddant yn ceisio bod y tîm cyntaf o’r gogledd i gipio’r gwpan ers i Fangor lwyddo yn 2002. 

 

Tasg anodd yn erbyn tîm sydd wedi ennill y gystadleuaeth yma ddeg o weithiau, ond mae ymddangosiad merched Llandudno yn y ffeinal yn dystiolaeth o sut mae’r clwb wedi sefydlu ei hun fel un o brif glybiau pêl droed y gogledd yn ddiweddar.

 

Digon o her i’r Bae ymateb iddynt o fewn pel droed Cymru efallai - tybed a ydynt yn barod i ymateb?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Pigion i ddysgwyr - Ebrill 20fed 2016