Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: Ebrill 4ydd - 10fed, 2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Dod At Ein Coed - Rory Francis

derwen - oaktree
dros y gorwel - over the horizon
achub - to save
lon osgoi - by-pass
Llywodraeth Cymru - Welsh Government
wedi gwyro - deviated
cymeriad - character
cnotiog - gnarled/knotted
rhysgl - bark (of tree)
pwtan o beth - rhywbeth bach/byr

"...roedd hi'n braf gweld y rhaglen 'Dod at ein Coed'' yn ôl ar Radio Cymru unwaith eto. Llion Williams sydd yn cyflwyno'r gyfres ac yn y rhaglen gyntaf mi roedd o'n holi Rory Frances o Goed Cadw. Roedd Rory wedi cyffroi wrth sgwrsio efo Llion achos eu bod nhw'n mynd i weld coeden dderwen arbennig iawn. Dyma Rory yn esbonio wrth Llion beth sydd mor arbennig am y goeden hon..."

Rhaglen Dei Tomos - Cefin Roberts

cyngor - advice
tynerach - gentler
cyflwr - condition
atgoffa - to remind
anghofus - forgetful
cymleth - complicated
dwys - intense
gwau - knitting
huawdl - eloquent
gweill - needles

"Wel, dyna i chi dderwen ynde, nid yn unig bod ganddi gymaint o hanes ond mae hi hefyd wedi llwyddo i newid cyfeiriad ffordd osgoi, da ynde? Tasech chi eisiau clywed rhagor o raglenni Dod at ein Coed maen nhw i'w clywed ar Radio Cymru bob dydd Llun am hanner awr wedi hanner dydd.
Ar raglen Dei Tomos nos Sul roedd Cefin Roberts yn sôn am brosiect mae o wedi bod yn rhan ohono. Mae Cefin wedi bod yn mynd i ganolfan dydd Maesincla yng Nghaernarfon i weithio efo pobl sydd yn byw efo dementia. Cwestiwn cynta Dei i Cefin oedd pa gyngor oedd o wedi ei gael cyn cychwyn ar y prosiect. "

Rhaglen Aled Hughes - Terry Dyddgen Jones

wedi cael ei lofruddio - was murdered
cynnydd - increase
syfrdanol - amazing
ffin - boundary
diddanu - to entertain
dewr - brave
darlledwr - broadcaster
chwythu ei phlwc - run out of steam
dyletswydd - duty
mentrus - risky

"Pob lwc ynde i Cefin efo criw Maesincla - ac efo'r gwau! Am y tro cyntaf ers chwedeg pump o flynyddoedd mae cymeriad o opera sebon yr Archers wedi cael ei lofruddio. Ar ôl blynyddoedd o glywed y cymeriad Rob Titchner yn bwlio ei wraig Helen, mi ddaeth diwedd i’r stori pan wnaeth Helen ei ladd. Bore dydd Iau roedd Aled Hughes yn holi Terry Duddgen Jones sydd wedi cyfarwyddo operâu sebon fel Coronation Street. D'wedodd Aled wrth Terry bod y stori yn yr Archers wedi cael llawer o ymateb. Dyma oedd gan Terry i'w ddweud..."

Rhaglen Gari Wyn - Karen Hughes

tylwyth teg - fairies
ymchwil - research
glanhawr - a cleaner
sbio mewn - edrych mewn
mentro - to venture
o nerth i nerth - from strength to strength
oherwydd - achos
cyflogi - to employ
elw - profit
boddhad enfawr - huge pleasure

"Aled Hughes a Terry Dyddgen Jones yn fan'na yn sgwrsio am lofruddiaeth fawr yr Archers. Falle eich bod chi, fel fi, yn breuddwydio am gael tylwyth teg i lanhau, neu llnau'r ty. Wel ar raglen Gari Wyn ddydd Llun roedd Gari yn siarad efo Karen Hughes o Langefni sydd yn rhedeg busnes glanhau o'r enw Ty Bach Twt. Mae'r busnes wedi cychwyn ers dechrau’r flwyddyn ac mae'n brysur iawn, ond be wnaeth iddi hi benderfynu mynd am fusnes glanhau ar ôl iddi hi fod yn gweithio am flynyddoedd yn y sector addysg?"

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Milfed gol i Manchester United yn Old Trafford

Nesaf

Siom i Fae Colwyn