Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Beti: Ar ôl Colli David - Dementia
mwy neu lai - more or less
gofalwr - carer
ymdopi'n weddol - coping fairly well
Gwasanaeth Iechyd - Health service
dim dimau - not a penny (lit: halfpenny)
maes - area/ field
cael ei drafod yn agored - being discussed openly
ar ben ei dennyn - at the end of his tether
cartref preswyl - residential home
claf - patient
...collodd Beti George ei phartner, David Parry Jones, ar ôl blynyddoedd o ofalu amdano tra bod ei ddementia yn mynd yn waeth. Amser cinio ddydd Llun, mewn rhaglen arbennig buodd Beti'n siarad gyda phobl sydd yn gofalu am berthnasau sydd â dementia gan ofyn oes yna ddigon o gefnogaeth ar gael iddyn nhw? Dyma John Phillips o Lanbedr Pont Steffan yn sôn am ei wraig Bethan..
Aled Hughes - Alex Humphreys
profiad anhygoel - incredible experience
ymchwil - research
cyflwynwyr - presenters
band pres - brass band
hwyaid - ducks
ar ei hanterth - at its peak
cyfrannu - contributors
cerdd fach - a small poen
haeddu - to deserve
uchafbwyntiau - highlights
"Beti George yn fan'na yn sôn am y math o gefnogaeth sydd ar gael i'r rhai sy'n gofalu am gleifion dementia. Yn ôl rhestr y Radio Times, Blue Peter ydy'r rhaglen deledu fwya poblogaidd i blant erioed. Buodd Alex Humphreys, sy’n cyflwyno’r rhaglen Ffeil ar S4C ar hyn o bryd, yn gweithio ar y rhaglen a dyma hi'n sôn am ei phrofiad hi o fod yn rhan o'r rhaglen eiconig yma..."
Post Cyntaf - Addysg iechyd meddwl
dioddef - suffering
sylweddoli - realising
mor bwerus - so powerful
hunan-anafu - self harm
diflannu - to disappear
di-baid - constant
gwefannau cymdeithasol - social media
cydnabod - acknowledge
rhoi'r gorau - to give up
yn gyfangwbl - totally
Alex Humphries yn fan'na yn amlwg wedi llwyddo i weithio efo plant ac anifeiliaid heb unrhyw drafferth. Mae sôn y dyddiau hyn bod pobl ifanc o dan lawer o bwysau oherwydd arholiadau a bwlian y bennaf. Oherwydd hynny mae Heddlu De Cymru yn galw am well addysg iechyd meddwl. Mae Angharad May wedi bod â phroblemau ers pan oedd hi’n chwech oed. Nia Medi gafodd sgwrs efo hi...
Geraint Lloyd - Shrek
andros o anrhydedd - heck of an honour
fel malwen - like a snail
her - a challenge
y brif ran - the main part
colur - makeup
trawsffurfio - to transform
y gynulleidfa - the audience
anghenfil - monster
golygfa - scene
yn gyfarwydd - familiar
Angharad May oedd honna yn rhannu rhai o'i phrofiadau personol iawn gyda Nia Medi. Dw i'n siwr bod llawer ohonoch chi wedi gweld y ffilm 'Shrek' ond wyddoch chi bod yna sioe gerdd o'r ffilm yn teithio theatrau Prydain ar hyn o bryd? A Chymro sydd yn chwarae rhan Shrek ei hun - Steffan Hari o Lanfair Caereinion ym Mhowys. Cafodd Geriant Lloyd sgwrs efo fo nos Fawrth..