Main content

Lerpwl v Man City, brwydr yr asgellwyr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Prynhawn Sul fe fydd un o’r gemau mwyaf diddorol y tymor yn cael ei chynnal rhwng Lerpwl a Manchester City.

Diddorol, am fod y ddau dîm yn cynnwys chwaraewyr sydd ymysg y tri uchaf o sgorwyr yn yr uwch gynghrair hyd yn hyn y tymor yma.

Ar y brig mae Harry Kane o Tottenham (18 gol) blaenwr traddodiadol sydd ar flaen y gad, yn y canol, ond y ddau nesaf ydi Mohamed Salah o Lerpwl (14 gol) a Raheem Sterling o Manchester City gyda 14 gol.

Y syndod ydi mai asgellwyr, yn hytrach na blaenwyr traddodiadol ydi Salah a Sterling, ac felly nid yn chwarae mewn safle ble mae’n arferol gweld prif sgorwyr unrhyw glwb.

Be’ felly sydd yn achosi hyn?

Rhai blynyddoedd yn ôl, ar nifer o lefelau, dau brif flaenwr oedd gan y rhan fwyaf o’r timau gyda phedwar yng nghanol y cae, a’r ddau asgellwr (o'r pedwar yma) yn gorfod llithro yn ôl, i lenwi bylchau ar yr esgyll yn amddiffynnol pan oedd y gwrthwynebwyr yn ennill meddiant.

Ond, yn achosi Salah a Sterling, tydi nhw ddim yn dod yn ôl yn bell iawn yn amddiffynnol, ond yn aros i fyny'r cae gan greu penbleth i'r gwrthwynebwyr yngl欧n â pha mor bell ymlaen y gellir ymosod o'r cefn, rhag ofn gadael bylchau.

Oherwydd hyn, ac yn sgil tactegau Lerpwl a Manchester City o ymosod yn gyflym, pasio agos a chywir, cadw meddiant parhaus a defnyddio'r esgyll, mae nifer o dimau yn cael eu dal gan y dull hwn o chwarae.

Y Sadwrn diwethaf roeddwn yn Stadiwm Etihad yn gwylio City yn curo Burnley yng Nghwpan Lloegr, gyda Sterling yn allweddol yn ei ran wrth agor amddiffyn Burnley allan yn yr ail hanner.

Er na sgoriodd, os edrychwch ar ymosodiadau City, yn aml yn canolbwyntio i lawr un asgell neu'r llall, mae Sterling , os yw’r ymosod yn dod o'r dde, yn barod i fanteisio ar bêl sydd yn croesi ceg y gôl, ac yn sgorio'r hyn sydd yn ymddangos yn goliau hawdd wrth dapio’r bel i mewn ar y postyn pellaf.

O ran Salah, yna mae o yn aml iawn yn aros ymhell i fyny'r cae, ar ysgwyddau'r amddiffynwr olaf, heb gamochri a byddai pêl fuan gyflym y tu cefn i'r amddiffyn yn anrheg iddo droi a brasgamu y tu cefn i'w farciwr, defnyddio eu cyflymder, a rhoi ei hun mewn sefyllfa ble nad oes ond y golwr o'i flaen.

Felly'r Sul yma, Salah neu Sterling? Lerpwl neu Manchester City?

Mae’n debyg y daw'r ateb ddaw oddi wrth drefniant amddiffynnol y ddau dîm, a chawn weld pa un fydd yn llwyddo.

Gem ymosodol y dylai hon fod, ond fe allai droi allan i fod yn un amddiffynnol.

0-0?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf