Main content

Radio Cymru a Radio Cymru 2 yn dathlu Dydd Miwsig Cymru

Newyddion

Er mwyn dathlu dyddiad sydd wedi dod yn un hanfodol yn y calendr cerddorol yng Nghymru, bydd oriau darlledu Radio Cymru 2 yn cael eu ymestyn yn arbennig ar gyfer y diwrnod.

Ar Chwefror 8fed - Dydd Miwsig Cymru - byddwn yn cydweithio gyda hyrwyddwyr, labeli, artistiaid a threfnwyr gigs i greu diwrnod o restrau chwarae amrywiol, fydd hefyd yn adlewyrchiad o ymrwymiad Radio Cymru a Radio Cymru 2 i roi llwyfan teilwng i gerddoriaeth Gymraeg o bob math.

Meddai Alun Llwyd o wasanaeth cerddoriaeth PYST:

"Newyddion da yw gweld Radio Cymru yn darlledu diwrnod o gerddoriaeth ddi-dor ar Radio Cymru 2 ar Ddydd Miwsig Cymru eleni. Ers sefydlu PYST mae Radio Cymru wedi bod yn bartner allweddol yn hyrwyddo cynnyrch labeli ac artistiaid Cymru - drwy ystod amrywiol o raglenni sydd â cherddoriaeth newydd yn ganolog iddynt i sesiynau i gyngherddau byw ac ati. Mae cael diwrnod o gerddoriaeth ar ail donfedd yn gam i ehangu y ddarpariaeth honno ymhellach ac edrychwn ymlaen i gydweithio i’r dyfodol"

Bydd rhestrau wedi eu curadu ar y diwrnod gan labeli ikaching, Ankst, Libertino a Jig-Cal; dewis o "aur" label Sain i ddathlu eu penblwydd arbennig iawn yn 50 eleni; bydd y mudiad gwerin TRAC yn creu rhestr; bydd awr o electronig Cymraeg gan Gareth Potter, a bydd criw’r Selar yn edrych ymlaen at eu gwobrau hefo detholiad o’u hoff ganeuon.

Yn ogystal, bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn cyd-weithio â Radio Cymru 2 ar raglenni arbennig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru – prosiect fydd yn arwain at berthynas agosach rhwng y Ganolfan a Radio Cymru yn y dyfodol.

Mae’r diwrnod yn benllanw blwyddyn o ddathlu cerddoriaeth Gymraeg ar Radio Cymru a Radio Cymru 2.

O lwyddiant Trac Yr Wythnos sy’n rhoi llwyfan yn yr oriau brig i gerddoriaeth newydd i raglenni arbennigol y nos, o gyd-weithio hefo Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 主播大秀 i sesiynau byw Radio Cymru 2, rydym yn falch tu hwnt o fod yn rhan o fyd cyfoethog cerddiaeth Gymraeg.

Dywed Gruff Owen, rheolwr label Libertino:

"Radio Cymru yw'r drws agored i gerddoriaeth newydd blaengar Gymreig. O’r foment yr ydych chi'n cerdded trwyddo nid oes troi yn ôl, mae’n agor byd newydd llawn antur sonig ar gyfer y gwrandawr. Trwy ei sioeau cerddorol amrywiol sydd fel ffenestr siop i'n diwylliant cyfoethog mae Radio Cymru yn galluogi i’r sîn ffynnu a thyfu."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Viva Gareth Bale !