Main content

Viva Gareth Bale !

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gyda rowndiau nesaf o gemau cwpanau Ewrop yn ail gychwyn yr wythnos nesaf, tipyn o syndod ydi nodi hwyrach na fydd Gareth Bale ymysg y chwaraewyr a allai wneud eu marc yn y cystadleuthau a dod a sylw i'w alluoedd.

Yn ôl y papur newydd pêl droed Marca, yn Sbaen, bydd Bale yn lwcus o gael ei hun yn nhîm Real Madrid sydd i wynebu Ajax yn Amsterdam nos Fercher.

Enillydd Cynghrair y Pencampwyr dair Gwaith, ond tydio heb fod ar ei orau y tymor yma, a tydi o ddim yn ffefryn ymysg y cefnogwyr chwaith.

Un o’r rhesymau am ei amhoblogrwydd yw mai chwaraewr sydd yn manteisio ar fylchau a lle ar y cae yw Bale, lle i redeg iddo, gyda chryfder a chyflymder, ond gyda’r gwrthwynebwyr yn gwybod hyn, ac yn amddiffyn yn niferus, gan leihau'r bylchau, mae’n anoddach i'r Cymro gyflawni i'w eithaf.

Yna, nol yn yr Hydref, cyhoeddodd Marca fod Bale wedi colli traean o'r gemau a allai fod wedi chwarae ynddynt , a hyn oherwydd anafiadau , sydd yn ôl pob son yn gysylltiedig â'i ddull pwerus a chyflym o redeg gyda’r bel, sydd yn wir, wedi effeithio ar ei gem a nifer yr ymddangosiadau.

Fel nad oedd hyn yn ddigon, cafodd ei feirniadu’n llym ar ôl iddo fethu cyfle ar ddiwedd y gêm gwpan yn erbyn Barcelona ganol wythnos yng nghymal gyntaf rownd gyn derfynol Cwpan Sbaen , a bu raid i Real fodloni gyda gem gyfartal (1-1).

Ffefryn newydd y Madrilenos ydi chwaraewr ifanc yn ei arddegau, Vinicius Junior, a chyda Bale yn cymryd ei le gyda 26 munud yn weddill o’r gêm, a methu cyfle euraidd, roedd cyllell y cefnogwyr yn cael eu hanelu at y Cymro gyda’r beirniaid yn honni y byddai Vinicius wedi manteisio ar y cyfle,

Amser anodd felly i’n harwr cenedlaethol, a chyda cyfres o gemau allweddol o flaen Real ym mis Chwefror, bydd angen y gorau o’r Cymro os am fis llwyddiannus.

Chafodd o chwaith fawr o gefnogaeth gan ei gyn hyfforddwr Zinedine Zidane, ac os fydd Bale am ddangos fod barn ei gyn reolwr yn hollol anghywir, yna fe fydd angen i'r Cymro sicrhau ei le yn y tîm, dangos fod ei brofiad yn cynnig mwy nag addewidion cynnar Vinicius.

Os gellir gwireddu hyn, yna pwy a 诺yr na ddaw haul dros fryniau Madrid unwaith eto.

Cadwch olwg ar y gêm rhwng Ajax Amsterdam a Real Madrid nos Fercher nesaf.

Hala Madrid ? – hwyrach

Viva Gareth Bale ? - yn bendant.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf