Main content

Pel-droedwyr a Gwefannau Cymdeithasol

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Funudau wedi iddo gael ei anfon o’r cae nos Sadwrn diwethaf, fe benderfynodd blaenwr Rotherham United, Peter Odemwingie ymddiheuro am ei gerdyn coch yn y gêm yn erbyn Leeds, a hynny drwy fynd ar wefan gyhoeddus.

"Roeddwn yn anlwcus gyda'r cerdyn coch," meddai’r blaenwr, hanner ffordd trwy'r ail hanner gan ychwanegu rhesymau am y digwyddiad. Galwch fi’n hen ffasiwn, ond mae’n anodd deall be' mae chwaraewr yn ei wneud yn troi at wefannau cymdeithasol ar ochor y cae o fewn munudau i gael ei anfon i ffwrdd.

Mae Cymdeithas Chwaraewyr Pêl Droed Proffesiynol gyda chanllawiau clir yn ymwneud a defnydd chwaraewyr o wefannau o’r math gan roi cyngor ar be', a beth ddim i’w wneud na ddweud arnynt. Ond dwi eto i weld cyfarwyddyd na ddylid troi at wefannau cymdeithasol hanner ffordd drwy’r gêm !

Petai hyn yn digwydd mewn rhyw gêm fore Sul ar barc cyhoeddus, fe fyddai pobol yn barod i ddweud mai agwedd hollol amaturaidd fyddai hyn, a fyddai neb yn poeni, ond , pa mor broffesiynol ydi troi at ddarllen a chreu negeseuon ar wefan tra mae'r gêm yn parhau?

Diddorol fyddai nodi os fydd unrhyw gorff swyddogol pel-droedaidd, neu glwb Rotherham hyd yn oed, yn rhoi sylw i hyn! Wedi’r cwbl, mewn oes sydd yn gweld FIFA yn beirniadu cefnogwyr pêl droed am wisgo pabi coch mewn gem ryngwladol, does wybod beth all ddigwydd nesaf!

Diolch i'r drefn nad oedd gwefannau cymdeithasol yn bodoli yn fy adeg i fel rheolwr!

Ond mae’r digwyddiad yn fy atgoffa o rywbeth a ddigwyddodd hanner amser mewn gem oddi cartref i Dreffynnon yn Nhon Pentre yn Uwch gynghrair Cymru beth amser yn ôl.

Roeddwn wedi arwyddo golwr, un hynod o alluog, a gafodd ei argymell i mi gan Neville Southall, a oedd yr adeg hynny yn chwarae i Everton yn ogystal â Chymru.

Yn ei gem gyntaf, draw yn y Rhondda, a phethau'n dynn ac agos (di-sgor) dyma fi'n ceisio ysbrydoli’r tîm i godi tempo eu gem ar gyfer yr ail hanner ac ymosod yn fwy nag a wnaethpwyd am y tri chwarter awr cyntaf.

Yn ystod y bregeth ysbrydoledig dyma fi'n sylwi fod y golwr newydd mewn byd arall, ac wrthi'n gwrando ar rywbeth yn ei glustffonau ac yn talu dim sylw i gyfarwyddiadau ei reolwr!

Daeth taran o floedd a rhegfeydd i'w gyfeiriad wrth holi am ei ymddygiad, a'i ateb oedd ei fod yn awyddus i glywed be' oedd y sgôr ar yr egwyl yn gêm Everton ar Barc Goodison!

Cafodd ei roi yn ei le, ac i fod yn deg, chwaraeodd ei ran i gadw’r bel allan mewn gem a orffennodd yn ddi-sgor.

Dros y Sul, cysylltodd Neville Southall a fi i ofyn sut hwyl a gafodd y golwr. Da iawn oedd yr ateb, ond fe gafwyd un broblem, roedd yn gwrando ar ei radio yn ystod hanner amser er mwyn gwybod be' oedd y sgôr yn eich gem chi ar Barc Goodison.

Ar y nos Fawrth daeth y golwr ataf yn ein sesiwn ymarfer gan ymddiheuro am ei ymddygiad yn ystod hanner amser yn Nhon Pentre .

Yna fe ychwanegodd fod Neville Southall wedi dweud wrtho fod Howard Kendall

(rheolwr Everton ar y pryd ) wedi rhoi llond ceg iddo yn ystod hanner amser y gem ar Barc Goodison, am ei fod wedi bod mor ddigywilydd a gwrando ar ei radio i ddarganfod be' oedd y sgôr ar yr egwyl rhwng Treffynnon a Thon Pentre !

Derbyniwyd y neges a welais i byth wedyn set radio na chlustffonau gan y golwr am weddill ei yrfa ddisglair gyda Threffynnon!

Mwy o negeseuon