Main content

Everton v Caerdydd

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn ei anterth roedd Ole Gunnar Solskjaer yn enwog am sgorio goliau allweddol yn hwyr yn y g锚m, wrth sicrhau buddugoliaethau i Manchester United.

Y mwyaf enwog mae鈥檔 debyg oedd y g么l honno yn erbyn Bayern Munich yn ffeinal Cwpan Ewrop yn 1999 a gipiodd y g锚m i United. Fe fyddai鈥檙 t卯m o Fanceinion yn rhoi unrhywbeth am goliau hwyr y g诺r o Norwy'r dyddiau yma mae鈥檔 debyg!

Ond nid son am goliau hwyr yn achub gemau i Manchester United yr ydw i heddiw.

Tybed mai talu鈥檙 pwyth yn 么l i Solskjaer oedd Seamus Coleman brynhawn Sadwrn diwethaf wrth iddo grafu鈥檙 bel ac ochr ei droed a鈥檌 gwyro yn gam gan ei gweld yn troelli dros amddiffynnwr Caerdydd a disgyn yn ddiymadferth i gefn y rhwyd gan sicrhau tri phwynt i Everton? Tri phwynt gwerthfawr a wel Caerdydd yn wynebu dyfodol ansicr iawn.

Mewn amrantiad mae鈥檙 adar amryliw( wel - coch neu glas) yn gorwedd yn anghyfforddus yn ail o鈥檙 gwaelod a thri phwynt oddi ar Crystal Palace , sef y t卯m sydd yn y safle un uwchben y tri isaf yn yr uwch gynghrair.

Fel un oedd ar Barc Goodison ddydd Sadwrn, creulon iawn oedd g么l Coleman, yn enwedig drwy ystyried mai gwyro oddi ar glun Steven Caulker a gadael y golwr David Marshall yn ei unfan oedd y gol gyntaf gan Gerard Deulofeu.

Yn wir dyma'r unig adeg i Marshall gael ei adael yn sefyll wrth iddo greu gwyrthiau yn y g么l i gadw Caerdydd yn y g锚m. Dyma o bosib y perfformiad gorau a welwyd gan olgeidwad yn yr uwch gynghrair drwy'r tymor , ac roedd t卯m prifddinas Cymru yn haeddu gwell canlyniad nac a gafwyd brynhawn Sadwrn.

Gair o glod i ddilynwyr Caerdydd hefyd. Roedd c么r Caerdydd yn llawn asbri, fel cymanfa o gefnogaeth i'w t卯m ( ac o wrth wynebiad i rai agweddau o drefn bresennol y clwb hefyd). Gair o ganmoliaeth i gefnogwyr Everton hefyd a benderfynodd gymeradwyo'r Cymry clochdar wrth iddynt gyd ganu a chyhoeddi, mai yn eu barn hwy, glas fyddai lliw Caerdydd bob tro!

Ond mae angen mwy na ch么r, lliw a chan ar Gaerdydd, a byddai cael tipyn o lwc fel y cafodd Everton brynhawn Sadwrn o gymorth.

Yn eistedd o鈥檓 cwmpas yn y g锚m roedd criw o gefnogwyr p锚l droed o Norwy. Wrth eu hedmygu am ddod i gefnogi eu cyd wladwr yn ceisio achub Caerdydd, daethpwyd i ddeall mai aelodau o glwb cefnogwyr Everton yn Norwy oedd y cyfeillion yma!

Ie, doedd dim lwc o gwbl i Ole Gunnar Solskjaer yn bodoli ar Barc Goodison!

Rhywsut neu鈥檌 gilydd tydi lwc ac achub eich croen ar waelod cynghrair ddim yn cyfuno rhywsut. Yr agosaf at hyn oedd rhediad Wigan Athletic rhyw ddwy flynedd yn 么l wrth ennill saith allan o'u naw gem olaf i sicrhau goroesiad.

Rhywsut neu'i gilydd allai ddim gweld Caerdydd yn cyflawni rhywbeth tebyg.

Fodd bynnag mae gobaith yn bodoli.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Mawrth 18, 2014

Nesaf