Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 25 Mawrth 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Caryl - Y gwanwyn

awyr iach - fresh air
cyflwr meddygol - medical condition
cyfyngedig - limited
mwgwd - mask
treftadaeth diwylliannol - cultural heritage
chwedlau - fables
budd - benefit
cyd-destun - context
tirlun - landscape
cymhelliad ychwanegol - additional incentive

"... rhaglen newydd Caryl Parry Jones, sydd i'w chlywed bob dydd Iau am hanner dydd. Rhaglen ydy hon lle mae pobl ddiddorol yn dod i mewn i'r stiwdio i siarad am bob mathau o bethau. Ddydd Iau diwetha roedd Caryl yn siarad am y gwanwyn efo鈥檙 deietegydd Gwawr James, yr arbenigwr ffitrwydd Trystan Bevan a鈥檙 naturiaethwr Twm Elias. Dyma'r tri yn sgwrsio am fanteision awyr iach..."

Dylan Jones - Mel Williams

casglwr - collector
diflannu - to disappear
bathu yn anghyfreithlon - illegally minting (coins)
hel - to collect
cyfandirol - continental
ymerawdwr - emperor
cydnabod - to acknowledge
diffyg moesau - lack of morals
arwerthiant - a sale
llwyth mwya grymus - the most powerful tribe

"Caryl yn fan'na yn siarad efo tri o bobl iach iawn iawn, Gwawr James, Trystan Bevan a Twm Elias. Glywoch chi'r newyddion wythnos diwetha y bydd yna ddarn punt newydd sbon? Bydd gan y darn newydd ddeuddeg ochr iddo - er, yr un faint byddwch chi'n medru prynu efo fo mae'n debyg! Mae Mel Williams o Lanuwchllyn yn gasglwr, ac yn un sydd yn gwybod llawer iawn am arian o wahanol wledydd. Mi gafodd o sgwrs ddydd Mercher efo Dylan Jones am y darn punt newydd, ond yn ystod y sgwrs gaethon ni wybod am ddarnau didddorol o arian sydd yng nghasgliad Mel ei hunan..."

Sh芒n Cothi - Manon Gravelle

arwr - hero
galar - bereavement
dioddef - to suffer
tyfu lan - to grow up
TGAU - GCSE
penwythnos preswyl - residential weekend
cripad - to crawl
hunllef - nightmare
llefain - to cry
dros ben llestri (idiom) - over the top

"Mel Williams yn fan'na yn sgwrsio efo Dylan Jones am ei gasgliad diddorol o arian. Mae hi'n anodd credu bod chwe blynedd wedi bod ers i Ray Gravelle farw. Roedd Ray yn arwr i lawer iawn o bobl, nid yn unig am ei gampau ar y cae rygbi i Gymru ac i Lanelli, ond am ei gariad mawr at Gymru a'r Gymraeg. Ei deulu wrth gwrs sydd yn teimlo'r golled fwya ar ei 么l, a dydd Mercher mi glywon ni ferch Ray, Manon Gravelle yn siarad efo Shan Cothi am sut y mae'r teulu wedi delio efo'r galar..."

Shan Cothi - C么r Meibion Y Rhos

ymdopi - to cope
rhyddhau - to release
cyfnod cynnar - early period
arweinydd y c么r - choir master
cysylltiad - connection
perchen - owner
cerddorol - musical
ambell i gyfansoddwr - a few composers
o fri - renowned
hwb - a boost

"Dyna i chi sgwrs onest iawn gan Manon am rai o'r ffyrdd y buodd teulu Ray Gravelle yn ceisio ymdopi efo'r golled ar ei 么l. Arhoswn ni efo Shan Cothi am y clip ola heddiw. Dan ni'n mynd i glywed sgwrs rhyngddi hi 芒 John Tudor Davies, sydd yn aelod o G么r Meibion y Rhos. Mae'r c么r enwog hwn o bentref Rhosllanerchrugog ger Wrecsam wedi teithio'r byd yn rhoi cyngherddau i filoedd o bobl. Maen nhw hefyd wedi rhyddhau sawl albwm. Dyma John yn cofio sut y daethon nhw i gysylltiad yn gynta gyda chwmni recordio D鈥檈lise yn Llundain."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Everton v Caerdydd

Nesaf