Main content

Ewro 2016

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Cyn gynted ag y daeth Gemau Olympaidd y Gaeaf i ben, aeth nifer iawn o Gymry at i chwilio am enwau gwestai yn Andorra a ffyrdd o deithio yno. Ie, canolfan sg茂o byd enwog efallai, ond nid mynd yno i sg茂o bydd cefnogwyr t卯m p锚l droed Cymru.

Yma, ynghanol llethrau cystadleuol y Pyr茅n茅es bydd man cychwyn taith t卯m p锚l droed Cymru ar yr ymgais i gamu, neidio, troi a throsi eu taith i geisio cyrraedd ffeinals pencampwriaeth Ewrop yn Ffrainc yn 2016.

Prif ddinas Andorra, sef Andorra la Vella ydi鈥檙 uchaf yn Ewrop, gyda stadiwm fechan sydd yn cynnal ond 1,800 o dorf, a bydd tocynnau ar gyfer y g锚m bron yn amhosibl i'w cael.

Fodd bynnag mae Andorra eisoes wedi symud gemau rhyngwladol mawr, yn benodol yn erbyn Ffrainc a Lloegr i Stadiwm Olympaidd Barcelona er mwyn cynnal y g锚m o flaen torf fwy. Tybed a fydd Cymru a Gareth Bale yn cael eu hystyried yn ddigon mawr i symud y g锚m yma i gyfeiriad Catalonia?

Taith lithrig ydi ceisio cymhwyso ar gyfer unrhyw rownd derfynol wedi bod ers cystadlu yn ffeinals Cwpan y Byd yn Sweden yn 1958. Ond y tro yma , mae t卯m Chris Coleman ar y piste yn barod am yr her, ac yn ymddangos yn llawn awch ac asbri i osgoi unrhyw rwystr a fyddai o鈥檜 blaenau.

Dwi 鈥榚rioed wedi gweld cymaint o ddarogan optimistaidd o鈥檙 blaen i yn dilyn trefn gemau a thimau ar gyfer cyfres o gemau rhyngwladol .Yn wir bydd cystadleuaeth y chwe gwlad yma yn un y bydd pob un sydd yn cefnogi Cymru yn edrych ymlaen amdano gyda choron driphlyg ar gael gan fod enillydd y gr诺p yn cymhwyso, yn ogystal 芒'r ail a lle i'r trydydd mewn gemau ail gyfle.

Rhaid wrth gwrs sicrhau ein hunain nad t卯m sydd y dibynnu ar leiafrif bychan o chwaraewyr galluog ydi Cymru, ac nad tawel yw'r stafell newid heb Ramsey, heb Bale gyda'r cefnogwyr yn wylo gwers yr ydym eisoes yn gyfarwydd 芒 hi!

Ond y tro yma, mae gennym ffydd nad dibynnu yn gyfan gwbl ar y s锚r byd eang y byddwn ni, gan fod yna chwaraewyr eraill, uwch na鈥檙 safon a welwyd yn y gorffennol, yn ddigon da, sydd hefyd wedi derbyn tipyn o brofiad rhyngwladol, a all gyflawni ein breuddwydion.

Fe allaf ddeall yr ymddangosid ceidwadol sydd wedi cael ei gyflwyno yn swyddogol yn dilyn yr atyniad pan ddaeth yr enwau allan o'r het.

Ond o鈥檙 diwedd mae鈥檔 anodd bod yn besimistaidd. Tydi Gwlad Belg i mi ddim yn d卯m sydd yn dangos datblygiad a all ei gynnal yn barhaus dros amser, a dwi鈥檔 credu bydd eu gwendidau yn cael eu hamlygu ym Mrasil yr Haf yma.

Mae Bosnia ar ben eu gem, ond a oes yna barhad cynaliadwy tebygol i'w ddisgwyl? Hwyrach ddim, ac am ynys Ciprys, Israel ac Andorra, wel gwell tawelu cyn mynd dros ben llestri!

Llawer gwell fyddai ail gydio yn fy ngwersi Ffrangeg, mae yna ddigon o amser i ddod yn rhugl ar gyfer y daith ar draws y Sianel.

Ie wir, :- "Allez les Galles, allez les Galles , allez". Rhowch 鈥渉ell鈥 iddyn nhw Mr Coleman, rhowch 鈥渉ell鈥 iddyn nhw.!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Gyrfa beldroed Nathan Craig

Nesaf