Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 25 Chwefror 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Yn y Ryc - Shane Williams

cymeradwyaeth - applause

y llinell gais - the try line

eilydd - substitute

hala bant - sent off

asgellwr - winger

y gamp lawn - the grand slam

camp a hanner - an achievement and a half

antur fawr - big adventure

arwrol - heroic

y modd mwya dadleuol - the most controversial manner

"鈥el efo be arall ond y rygbi ynde? Mi chwaraeodd Cymru'n wych nos Wener yn erbyn y Ffrancwyr yndo? Roedd hi'n braf eu gweld yn chwarae cystal ar 么l y siom yn Nulun bythefnos yn 么l. Ond ddim clip o'r g锚m honno dach chi'n mynd i'w glywed rwan ond clip o sawl g锚m yn y gorffennol yn erbyn y Ffrancod, ond bod un peth yn gyffredin rhwng y g锚mau - roedd Shane Williams yn chwarae dros Gymru ym mhob un ohonyn nhw. Ac mae'r clip cynta yn mynd 芒 ni yn 么l i g锚m gynta un Shane dros ei wlad..."

Dafydd a Caryl - Archdderwydd

Archdderwydd - Archdruid

penodi - to appoint

cymwysterau - qualifications

prifardd - crowned or chaired poet

enwebu - to nominate

ystyried - to consider

newid y delwedd - to change the image

rhyfeddol o ddymunol - remarkably pleasant

cynifer - so many

hollol ddidwyll - totally sincere

"Shane Williams yn fan'na yn cael ei holi gan Helen Glanville ac yn dweud pa mor nerfus oedd o cyn ei g锚m gynta dros Gymru. Tybed oedd Christine James yn teimlo'n nerfus cyn iddi hi fentro i'w heisteddfod gynta fel Archdderwydd. A hynny fel y ferch gynta i ddal y swydd honno. Mi ddaeth Christine i'r stiwdio aton ni ar Dafydd a Caryl ddydd Llun diwetha. Ac mi roedd gen i gwestiwn ro'n wedi bod eisiau ei ofyn i Archdderwydd erioed - a dyma fo i chi..."

Y Talwrn - Y Tir Mawr

tronsiau llaes - long johns

fy ngwinedd - my nails

gwyro - to bend

ffwndro - to be confused

byddar - deaf

llythrennol - literally

fy nghesail - my armpit

gwyrthiol - miraculously

bochau'n nhin - buttocks

bregus - fragile

"Dwn i ddim a fydd y bardd 'J么s' sy'n rhan o d卯m Talwrn y Tir Mawr, yn Archdderwydd ryw ddydd. Mi roedd Christine wedi rhoi gwybod i ni beth sydd ei angen yn doedd - ac mi fasai'n rhaid i J么s ennill y gadair neu'r goron cyn iddo fo freuddwydio am gael y swydd. Wel mi gaeth ei gerdd o ddeg allan o ddeg yn y Talwrn ddydd Sul diwetha, er mae gen i deimlad na fasai'r gerdd honno yn ennill un o wobrau mawr yr Eisteddfod Genedlaethol. Be dach chi'n feddwl?"

Cofio - Llanelli

ffydd mawr - huge faith

becso - poeni

cytgan - chorus

dirgelwch - mystery

cyfrifydd - accountant

diwydiant dur - steel industry

hawlio - to claim

crydd - cobbler

glud - glue

ychwanegiadau - additions

"C芒n J么s yn amlwg wedi plesio, ac wedi ticlo, Ceri Wyn Jones yn fan'na! Mi ddechreuon ni'r podlediad hwn efo rygbi ac mi rydan ni'n mynd i orffen efo c芒n sy'n cael ei chysylltu efo'r g锚m - Sosban Fach. Tasech chi'n gofyn o le ddaeth y g芒n hon mi fasai'r rhan fwyaf o bobol yn dweud Llanelli yn syth. Wedi'r cwbwl dyma dre'r sosban ynde? Ac mae'r g芒n wedi ei chysylltu efo t卯m rygbi'r Sgarlets ers blynyddoedd maith. Ond dydy'r ateb i'r cwestiwn ddim mor hawdd 芒 hynny fel y clywon ni gan yr hanesydd John Edwards, fuodd yn sgwrsio efo John Hardy ar Cofio..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ewro 2016

Nesaf

Cwpan Cymru - y Rownd gyn-derfynol