Main content

Siwrnai Cei Connah yn rowndiau Cwpan Her yr Alban

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Nos Sadwrn fe fydd un o gemau mwyaf allweddol y tymor, hyd yn hyd, yn Uwch Gynghrair Cymru yn cael ei gynnal yng Nghroesoswallt pan fydd Y Seintiau Newydd yn cyfarfod a Nomadiaid Cei Connah.

Ar hyn o bryd, mae’r Cei ar frig y tabl, a’r Seintiau oddi tanynt , dau bwynt yn llai.

Mae’r ddau dîm wedi colli dwy gêm, ond Cei Connah wedi ennill wyth tra mae’r Seintiau wedi ennill saith. Tipyn o noson o’n blaenau felly gyda’r Seintiau’n gwybod y byddai buddugoliaeth yn eu codi uwchben Cei Connah i frig y tabl.

Mae’r ddau dîm ar dân, gyda Chei Connah wedi cael saith buddugoliaeth yn olynol, , ond gydag un o’r ddwy gêm maent eisoes wedi eu colli, wedi bod yn erbyn y Seintiau, mae pethau yn dod yn fwy cyffrous byth!

Ar y llaw arall, byddai tri phwynt i Gei Connah yn agor bwlch o bum pwynt ar y brig.

Does dim diffyg goliau ar Neuadd y Parc gyda’r Seintiau ar gyfartaledd yn sgorio bron pum gwaith ymhob gem. Yn wir, llwyddwyd i roi chwech heibio Llandudno ganol wythnos!

Pa mor dda fydd rhaid i Gei Connah fod? Wel , dydy' nhw heb guro’r Seintiau oddi cartref ers mis Hydref 1995, tair blynedd ar hugain o flynyddoedd yn ôl!

Cefais gyfle arall i weld y Cei nos Sadwrn diwethaf yn eu gem yng nghwpan Her yr Alban, adre i Coleriane o Ogledd Iwerddon.

Gem gyffrous gyda'r ddau dîm yn chwarae pêl droed uniongyrchol a chyhyrol.

Er waethaf cychwyn braidd yn araf, a chael eu sodro yn ôl ar eu sodlau, llwyddodd y Nomadiaid i oroesi storm o ymosodiadau gan y Gwyddelod, gan daro’n ôl a sgorio ddwywaith yn erbyn tîm a ddechreuodd golli eu pennau pan aeth pethau yn anodd iddynt.

Siomedig fodd bynnag oedd gweld nad oedd cymaint o hynny o gefnogwyr yno i gefnogi'r tîm o Lannau'r Ddyfrdwy mewn gem gyffrous ac o safon uchel. Dim ond ychydig dros 600 a hanner y rheini wedi teithio o Ogledd Iwerddon i gefnogi Coleraine.

Llwyddodd dilynwyr yr ymwelwyr i greu awyrgylch unigryw ar y noson wrth ddangos y math o gefnogaeth ac a geir yng Ngogledd Iwerddon wrth dangos eu lliwiau gwleidyddol wrth ganu 'Rule Brittania' a ‘God Save the Queen' yn ddi-dor.

Fodd bynnag, dangosodd y Gwyddelod hefyd eu hymateb i siom drwy anniddigrwydd, ac ar ôl mynd dwy gol i lawr (a gweld dau o'u chwaraewyr yn cael eu hanfon o'r cae) fe wnaethon nhw ddechrau taflu poteli gwag a fflêr i’r cae.

Ond gyda Cei Connah yn llwyddo i gyrraedd rownd yr wyth olaf fe fyddant yn teithio i'r Alban ar nos Wener, 16 o Dachwedd, i wynebu Queen’s Park (y tîm a gurodd y Seintiau ar giciau o'r smotyn), a hynny yn stadiwm Hampden Park, cartrerf Queen’s Park, sydd hefyd yn cynnal gemau rhyngwladol yr Alban.

Gyda Chymru yn chwarae yn erbyn Denmarc ar yr un noson, fe fydd yn dipyn o ben wythnos ynghanol Tachwedd.

Y tair gem arall i’w cynnal yng Nghwpan Her yr Alban ydi Motherwell (o dan 21) yn erbyn Ross County; Bohemian ( Dulyn) yn erbyn East Fife; a Dinas Caeredin yn erbyn Alloa Athletic.

Tybed a welwn ni Cei Connah o Gymru yn wynebu Bohemian o’r Iwerddon yn ffeinal Cwpan Her yr Alban?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Podlediad i Ddysgwyr - Hydref 6ed - 12fed 2018

Nesaf

Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 23ain o Hydref 2018