Main content

Podlediad i Ddysgwyr - Hydref 6ed - 12fed 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Aled Hughes - Iolo Williams

esgyrn - bones
estrys - ostrich
adenydd - wings
gwydn - tough
eryr - eagle
pymtheg troedfedd - 15 feet
cyhyrau anferthol - huge muscles
strwythur - structure
main - thin
chwa o wynt - a puff of wind

Mae esgyrn yr aderyn mwya fuodd erioed wedi cael ei ffeindio yn Madagascar. Roedd yr aderyn yn mesur tri metr - tal iawn ynde? Ond sut mae hyn yn cymharu â'r adar sydd i'w cael y dyddiau hyn? Wel pwy gwell i ateb y cwestiwn hwnnw na Iolo Williams - Aled Hughes gafodd air efo fo.

Stiwdio - Dwyn i Gôf

Cyfarwyddwr Artistig - Artistic Director
bellach - by now
fel ac y mae hi - as it is
parhau - continuing
roedden ni wrth ein boddau - we were delighted
awdur - an author
profiadol - expereienced
trafod a cyd-weithio - dicussing and co-operating
deuddydd - two days
mwy neu lai - more or less

Iolo Williams oedd hwnna yn sôn am esgyrn adar efo Aled Hughes. Buodd y dramodydd Meic Povey farw lai na blwyddyn yn ôl ond mae'n bosib gweld ei ddramau ar y teledu ac yn y theatr yr wythnos yma. Fo oedd un o awduron y gyfres Byw Celwydd sydd ar S4C ar nos Sul, ac mae Cwmni Theatr Bara Caws yn mynd ar daith efo'r ddrama olaf un iddo fo ei hysgrifennu, Dwyn i Gôf. Cafodd Nia Roberts sgwrs efo Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, Betsan Llwyd, ar Stiwdio ddydd Mercher diwetha.

Cofio - Norman Tebbit

mae'n rhyfedd iawn - it's very strange
delweddau cyhoeddus - public images
addfwyn a hoffus - gentle and likeable
un achlysur - one occaiton
is-etholiad - by-election
Gwyr - Gower
cyfarfod cyhoeddus - public meeting
araith - speech
diffodd - to switch off
tywyllwch - darkness

Mae drama Theatr Bara Caws, Dwyn i Gof ar daith drwy Gymru ar hyn o bryd - gwerth ei gweld dw i'n siwr. Bydd llawer iawn o bobl yn cofio Norman Tebbit am iddo ddweud dylai’r diwaith fynd ar eu beic i chwilio am swyddi. Oherwydd hynny roedd ganddo enw fel dyn cas a chaled. Ond oedd hyn yn ddarlun cywir o'r dyn? Vaughan Roderick fuodd yn sôn mwy amdano wrth John Hardy.

Rhaglen Aled Hughes - Dani Schlick

hybu - to promote
annog - to encourage
magu hyder - gaining confidence
codi ymwybyddiaeth - raising awareness
sail - foundation
diwylliant - culture
penderfynol - determined
ymdrechu - attempting
styfnig - stubborn
coblyn o naid - huge jump

Stori yn fan'na am ofalwr neuadd yn Nhregwyr yn dweud, yn ei ffordd fach ei hun, wrth Norman Tebbitt i fynd ar ei feic!! Roedd hi'n ddiwrnod Shwmae Sumae dydd Llun diwetha ac mae merch o'r Almaen, Dani Shlick yn un o'r rhai fuodd yn trefnu digwyddiadau ar gyfer y diwrnod. Mae Dani'n dod o Sacsoni a Berlin yn wreiddiol, ond erbyn hyn yn byw ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn. Gofynnodd Aled Hughes iddi hi beth oedd pwrpas diwrnod Shwmae Sumae?

Rhaglen Ifan Evans - Hywel Gruffydd

sylwebydd - commentator
gêmau rhyngwladol - international games
ar y gweill - in the pipeline
argoeli'n dda - it bodes well
suddo - to sink
gredais i erioed - I never believed
ffodus - lucky
hyd y gwn i - as far as I know
daearyddiaeth - geography

Dani Schlick yn sôn am ddiwrnod Shwmae, Sumae. Dim ond ers 2015, mae Dani yn byw yng Nghymru ond erbyn hyn mae hi'n rhugl yn y GYmraeg ac yn defnyddio'r iaith bob dydd yn ei gwaith efo Mentrau Iaith Cymru. Gwych ynde?.
Dydd Mawrth cafodd Ifan Evans gwmni y sylwebydd chwaraeon Hywel Gruffydd. Mae’r tymor rygbi wedi dechrau ers sbel ac mae Wyn mor brysur ag erioed. Tybed fydd o'n cael teithio i lefydd egsotig i sylwebu ar rai o'r gêmau rhyngwladol yr hydref yma?


Rhaglen Geraint Lloyd - Manw Lili

wedi cyffroi - excited
cynryhioli - representing
cyfryngau cymdeithasol - social media
clyweliadau cyntaf - first auditions
cannoedd - hundreds
canu'n unigol - singing solo
y bleidlais - the vote
negeseuon - messages
fan hyn a fan draw - here and there

Un gystadleuaeth ryngwladol na fydd Hywel Gruffydd yn sylwebu arni ydy'r Junior Eurovision. Cynhaliwyd ffeinal y gystadleuaeth yn Venue Cymru Llandudno wythnos diwetha a'r enillydd oedd Manw Lili Robin o Rostryfan ger Caernarfon. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Manw yn syth ar ôl iddi ennill.

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cymru v Sbaen

Nesaf