Main content

Bangor v Y Rhyl - y Ffeinal

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae Stadiwm y Book People ym Mangor yn cael tipyn o sylw yn ddiweddar.

Gyda chae artiffisial 3G ar fin cael ei osod yno, bu t卯m merched Cymru yn chwarae yn erbyn Montenegro yno'r wythnos diwethaf gan chwalu eu gwrthwynebwyr o bedair g么l i ddim.

Dydd Sadwrn yma bydd g锚m arall a ddylai fod llawn mor gyffrous ac unrhyw un a welwyd yno'r tymor yma - y tro yma g锚m derfynol gemau ail gyfle Cynghrair Ewropa.

Gyda鈥檙 Rhyl yn chwalu Caerfyrddin o chwe g么l i un yn rownd cyn derfynol gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer cymhwyso i Gwpan Ewropa, byddant yn teithio i wynebu Bangor i benderfynu pa un fydd angen pasport ar gyfer yr haf!

Hawliodd Y Rhyl eu lle yn y ffeinal wedi eu buddugoliaeth gyfforddus o 6-1 yn erbyn Caerfyrddin yn Stadiwm wyntog GenQuip Port Talbot ddydd Sadwrn.

Aeth y Rhyl ar y blaen wedi 42 munud ond eiliadau鈥檔 unig cyn yr egwyl daeth Caerfyrddin yn gyfartal diolch i ymdrech Kyle Bassett o鈥檙 cwrt chwech.

Ond fe brofodd cyfnod agoriadol yr ail hanner yn allweddol i鈥檙 gogleddwyr.

Bum munud wedi cychwyn yr ail hanner, dynododd y dyfarnwr Lee Evans bod Carl Evans wedi llawio鈥檙 b锚l ar ei linell ei hun, cerdyn coch, a dyna ddiwedd cyfraniad Carl Evans i鈥檙 g锚m. Manteisiodd Y Rhyl ar y golled yma i Gaerfyrddin, a daeth yn chwalfa wrth i bum gol arall i Rhyl gwblhau prynhawn hunllefus i Gaerfyrddin.

Canlyniad hollol annisgwyl rhaid cyfaddef gan mai hon oedd buddugoliaeth gyntaf Y Rhyl mewn saith g锚m a bydd yr ornest yn erbyn Bangor yn dechrau am 3 o鈥檙 gloch.

O ran Bangor, fe fyddant yn awyddus iawn i sicrhau fod eu teithiau i鈥檙 Cyfandir yn parhau unwaith eto, ac er mai anghyson bu eu canlyniadau diweddar, pwy all anghofio'r canlyniad anghredadwy yna wrth iddynt golli adre i'r Seintiau Newydd o naw gol i un yn ddiweddar?

Mae鈥檔 argoeli鈥檔 dda am dipyn o g锚m ar Lannau'r Fenai brynhawn Sadwrn - gwerth gwneud y daith yno - o ble bynnag yr ydych yn byw!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf