Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Mai 13, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.


Bore Cothi - Lisa Jones


cofnodi - recording
cenhadu - spread the word
cyfarwydd â - familiar with
croten fach - hogan fach
denu - to attract
cyfnod cyfnewid - exchange period
ymchwil - research
ymfudo - emigration
Cymanfeydd canu - Singing Festivals(religious)
emynau - hymns

...ychydig o hanes Lisa Jones sydd yn byw ar hyn o bryd yn Ohio. Aeth hi yno yn wreiddriol fel rhan o'i chwrs gradd yng Ngoleg y Drindod yng Nghaerfyrddin, ac fel gawn ni glywed mi arweiniodd hynny ati hi'n cael perfformio ar Broadway. Erbyn hyn mae hi'n ôl yn Ohio yn gweithio ar gampws y Brifysgol. Mae hi'n gwneud gwaith pwysig a diddorol yn cofnodi hanes y Cymry aeth draw i Pennsylvania ganrifoedd yn ôl. Dyma i chi flas ar y sgwrs gafodd hi efo Shan Cothi ddydd Mawrth diwetha...

Ìý

Dylan Jones - Dyn llaeth

(di)bennu - gorffen
mas - allan
llai o alw - less demand
gwasanaeth - service
ffili - methu
pres - arian
becso - poeni
bwydo - to feed
taid - tad-cu
basai'n gwneud lles i mi - It would do me good

Lisa Jones yn fan'na yn siarad ar Bore Cothi am ei phrofiadau yn Ohio. Roedd Lisa yn dod o bentre bach Ffarmers yng ngorllewin Cymru yn wreiddiol, ac mi rydan ni'n mynd i aros yn y gorllewin efo'r clip nesa. Does yna ddim cymaint o ddynion llefrith, neu ddynion llaeth, o gwmpas y dyddiau hyn nac oes? Dw i'n siwr bod llawer ohonoch chi'n cofio'r amser lle roedd poteli llaeth wrth stepan drws pob ty bron. Wel mi ffeindiodd rhaglen Dylan Jones ddyn llaeth o Ffostrasol, Jeff Davies a dyma fo'n sôn ychydig am ei waith...


Bore Cothi - Dorothy Jones

rhyddid - freedom
aelwyd - hearth
diwylliant - culture
seithfed nef - seventh heaven
daioni - goodness
fan'cw - over there

Ew dw i'n siwr y byddai gan ein dynnion llefrith ni straeon gwych i'w dweud!! Maen nhw wedi gweld mwy o byjamas na unrhyw weithwyr eraill debyg iawn! Yn nghlip cynta'r podlediad yma mi glywon ni Shan Cothi yn siarad efo rhywun oedd wedi symud i Ohio. Yn y clip nesa yma mi gawn ni glywed Shan yn sgwrsio efo rhywun arall sydd wedi symud ardal, ond y tro yma dim ond ychydig filltiroedd o Drawsfynydd yng Ngwynedd i Langwm ger y Bala. Dorothy Jones ydy ei henw hi a dyma hi'n sgwrsio efo Shan mewn rhaglen ddaeth yn fyw o gaffi Country Cooks yn Llangwm ...


Dylan Jones - Meilir Wyn

myfyrio - to meditate
Cryno Ddisg - CD
Cyfansoddwr - composer
cyfuno - to combine
ymwybyddiaeth ofalgar - mindfulness
ymwybodol - aware
ysbrydol - spiritual
ysgogi - to motivate
distrywiol - destructive
alaw - tune

Dorothy Jones yn fan'na yn sôn am y diwylliant sy'n perthyn i'r rhan arbennig honno o Wynedd - ardal Penllyn. Dan ni'n mynd i gael ychydig mwy o ddiwylliant rwan. Er dw i yn poeni ella y byddwch chi'n syrthio i gysgu yn ystod y clip yma. Ddim achos ei fod yn sgwrs ddiflas cofiwch, ond mae Meilir Wyn y pianydd o Benllech wedi sgwennu darn arbennig o gerddoriaeth i helpu pobl i fyfyrio ac i ymlacio. Mwynhewch...



Talwrn y Beirdd - Dylan Thomas

ymson - soliloquy
dwys - intense
yn grwm - hunched
rhythu - glaring
dagrau sych - dry tears
dilornus - disparaging
diffyg adnabyddiaeth - not knowing
arswydo - to frighten
nad o'i wirfoddol - not of his own volition
dehongli - to interpret

Meilir Wyn yn fan'na yn siarad efo Dylan Jones am ei gryno ddisg newydd. Dw i'n rhoi digon o ddiwylliant i chi heddiw ma yn tydw i? Ac mi orffennwn ni efo dipyn mwy o ddiwylliant. Roedd yna rifyn arbennig o Dalwrn y Beirdd yr wythnos diwetha i gofio am Dylan Thomas. Cafodd y rhaglen ei recordio yn Nhalacharn, sef y pentre yng ngorllewin Cymru y mae llawer yn ei gysylltu efo'r bardd. Pennill ymson oedd y dasg a dach chi'n mynd i glywed dau bennill, un ysgafn gan Dylan Williams ond un llawer mwy dwys gan Rhys Iorwerth. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi wedi eu deall y tro cynta -dach chi'n mynd i'w clywed nhw ddwywaith...

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Bangor v Y Rhyl - y Ffeinal