Main content

Dwy g锚m fawr i Gymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Draw yn Southampton fe fydd marched Cymru yn wynebu Lloegr mewn gem cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc, 2019.

Ar hyn o bryd mae Cymru ar frig gr诺p A gyda thair buddugoliaeth ac un gêm gyfartal, a heb ildio unrhyw gol, ac un pwynt o flaen Lloegr sydd yn yr ail safle, gyda gem mewn llaw.

Mae safon pêl droed marched Cymru wedi gwella cymaint yn ddiweddar, ac yng nghanol cae, mae gennym un o’r gorau yn y byd, Jess Fishlock.

Ond, y gêm yn erbyn Lloegr fydd yr her fwyaf o flaen y tîm, sydd wedi codi 34ain safle yn rhestr detholion FIFA.

Mae'r pwysau i gyd ar Loegr, ond os gall merched Cymru gadw’r safonau maent wedi eu dangos yn y gystadleuaeth hyd yn hyn, yn drefnus yn y cefn heb ildio gôl, ac yn ymosod yn bwrpasol, yna fe ddaw Ffrainc yn agosach fyth.

Mae profiad Fishlock yn eang, yn aelod o dim Seattle Reign ers 2013, ac eisoes wedi ennill Cwpan Ewrop gyda FFC Frankfurt yn ogystal â phencampwriaethau cenedlaethol yr Iseldiroedd ac Awstralia.

Byddai buddugoliaeth dros Loegr yn dod a hi yn nes at chwarae dros Gymru yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

Draw yng Nghaerdydd, gem bwysig arall, rhwng Caerdydd a Wolverhampton Wanderers yn y Bencampwriaeth.

Credodd lawer fod Caerdydd wedi llithro ychydig wrth gael gem gyfartal yn Sheffield United nos Lun diwethaf, ( er yn ymestyn y rhediad diguro i dair gem ar ddeg), ond gyda Wolves yn cael gem gyfartal eu hunain adre yn erbyn Hull nos Fawrth, mae hyn yn golygu os gall yr Adar Gleision drechu'r Bleiddiau nos Wener, yna fe fydd ond tri phwynt yn gwahanu’r ddau dîm ar y brig a’r gobaith o ddyrchafiad awtomatig ( os nad dod yn bencampwyr y gynghrair) yn dod yn nes...

Tipyn o noson o’n blaenau felly a gyda gem y marched yn cychwyn am saith a gem Caerdydd yn cychwyn am chwarter i with, fe fydd angen dwy set deledu arnom am gyfnod!

Hwyl fawr i Gaerdydd - mae’r uwch gynghrair yn nesáu.

A phob hwyl i'r merched - trip arall i ni'r Cymry i Ffrainc , ond nid i'r Ewros y tro yma ond i Gwpan y Byd! Ydi Bordeaux, Lens, Toulouse, Paris, Lille a Lyon yn galw unwaith eto ?

Gobeithio wir.

Mwy o negeseuon