Main content

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr: Mawrth 31- Ebrill 6ed 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Gwlad Al Lewis - Deuawdau

deuawdau - duets
dylanwad - influence
canu gwlad - country & western
y cychwyn un - the very beginning
yr ysfa - the urge
rhaid i mi gyfaddef - I must admit
bellach - by now
canu gwerin - folk singing
cyfuniad - combination
llwyfan - stage

...deuawdau enwog yr 80au a'r 90au. Mae Al Lewis yn holi beth oedd dylanwad canu gwlad ar gerddoriaeth Cymraeg yn y cyfnod yma. Roedd yna nifer o ddeuawdau poblogaidd adeg hynny fel Dylan a Neil, Iona ac Andy, a John ac Alun, ac mi gafodd Al Lewis sgwrs efo pob un ohonyn nhw gan ddechrau efo John ac Alun..

Rhaglen Aled Hughes - Eifftegoleg

Eifftoleg - Egyptology
Yr Aifft - Egypt
cynhyrchu - to produce
yn gyfrifol - responsible
Amgueddfa Brydeinig - British Museum
anghydffurfiaeth - non-conformity
Ysgol Gyfun - Secondary School
cysylltiad mawr - a big connection
oherwydd - because
Yr Ysgruthur - The Scriptures

Deuawdau enwog Cymru yn fan'na yn sôn am ddylanwad canu gwlad ar eu caneuon nhw. Mae Carol Bell, archeolegydd yng ngholeg Prifysgol Llundain, yn arbenigo ar Eifftoleg. Gofynnodd Gaynor Davies, oedd yn cyflwyno rhaglen Aled Hughes yr wythnos yma, i Carol pam mae gan y Cymry ddiddordeb mawr yn yr Aifft?

Bore Cothi - Beca Lynne Perkins

mo'yn - eisiau
wastad - always
sut gymaint - so much
rownd cyn-derfynol - semi final
anhygoel - incredible
pennod newydd - new chapter
safon - standard
mor gystadleuol - so competative
cyfresi gwahanol - different series
sigled llaw - handshake

Carol Bell oedd honna yn esbonio pam mae cymaint o ddiddordeb gan y Cymry yn yr Aifft. Bore Llun gwestai arbennig Shan ar Bore Cothi oedd y gogyddes Beca Lynne Perkins. Os dach chi'n cofio buodd hi'n cystadlu yn The Great British Bake Off ychydig o flynyddoedd yn ôl. Dyma hi'n rhoi 'blas' i ni ar y profiad o gymryd rhan yn y rhaglen..

Rhaglen Geraint Lloyd - Kit Ellis

anrhydedd - honour
Uchel Siryf - High Sheriff
enwebu - to nominate
bodlon - willing
ystyried - to consider
gwahôdd - to invite
achlysur trawiadol - an impressive occasion

...ac mi wnaeth Beca'n anhygoel yn y gystadleuaeth yn do? Mae'r teitl 'Uchel Siryf' yn swnio'n hynod o bwysig yn tydy? Kit Ellis ydy Uchel Siryf newydd Gwynedd ac mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Kit ar ei raglen nos Lun. Gofynnodd Geraint iddi sut cafodd i'r anrhydedd yma.

Ffindio - Sycharth

gwir ffin - the true border
tarw - bull
agos ati - almost there
dylanwadol - influencial
anhysbys - anonymous
dweud cyfrolau - speaks volumes
ribidires - row upon row
baw gwartheg - cow pat
cynllwynio - conspiring
annibynniaeth - indepenence

Pob lwc i Kit yn ei blwyddyn fel Uchel Siryf Gwynedd. Dydd Llun mi gaethon gyfle arall i wrando ar raglen arbennig gafodd ei recordio y llynedd, sef Ffindio. Yn y rhaglen hon mae Tudur Owen a'r criw yn ceisio ffeindio lle mae gwir ffin Cymru a Lloegr. A dyma nhw yn Sycharth, y ty lle cafodd Owain Glyndwr ei eni ac sydd tua dau gan llath o'r ffin honno.

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dwy g锚m fawr i Gymru

Nesaf

Parch i ddyfarnwyr