Main content

Rownd Gynderfynol Cwpan Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Dydd Sadwrn yn y Drenewydd bydd hanes yn cael ei greu yng nghwpan Cymru gan mai Treffynnon fydd y t卯m cyntaf o drydedd reng p锚l droed Cymru i chwarae yn y rownd cyn derfynol.

Mae鈥檙 rhediad yma wedi gafael ar ddychymyg y dref gyda llawer o gefnogaeth i'r t卯m presennol. Fel rhyw ragflas o lwyddiant, llwyddodd y t卯m i gipio Cwpan Cookson, sef cwpan i dimau eu cynghrair , wrth guro Llanrug o bum gol i un yr wythnos diwethaf.

Yn wir mae Treffynnon ar rediad o ddeg gem wedi eu hennill yn olynol, gan gynnwys buddugoliaeth yn erbyn Porthmadog a鈥檙 Drenewydd ar y daith i'r rownd gyn derfynol. Yn ystod y cyfnod yma, maent wedi sgorio pedwar deg o goliau ( ar gyfartaledd, pedair gol pob gem) ac wedi ildio tair gol ar ddeg).

Yn ogystal ag ennill parch ar y cae, mae strwythr presennol y clwb fel Aberystwyth, wedi creu cysylltiadau buddiol a chefnogol iawn a'r gymuned leol, gan werthu delwedd y clwb yn llawer mwy effeithiol i'r gymdogaeth nac a welwyd yn y gorffennol.

Draw yn Aberystwyth mae cynlluniau鈥檙 clwb i gryfhau eu cysylltiadau ac ysgolion lleol yn esiampl wych i eraill.

Ail yw eu safle Treffynnon yn ngyhynghrair Lock Stock y gogledd. Ond peidier hyn a gadael ichi feddwl nad ydi Treffynnon ddim o safon uwch na鈥檜 cynghrair presennol. Maent yn meddu ar garfan o chwaraewyr talentog gyda nifer yn dangos galluoedd a fyddai yn disgleirio mewn safon uwch.

Ar y llaw arall, bydd eu gwrthwynebwyr, Aberystwyth hefyd yn dod i'r Drenewydd yn llawn hyder. Wedi gorfod disgyn i ail hanner uwch gynghrair Cymru oherwydd colli pwynt yn dilyn mater gweinyddol, fe lwyddwyd i guro Lido Afan o saith gol i un nos Wener ddiwethaf.

Os nad yw hyn yn ddigon, dyma鈥檙 canlyniad gorau mae鈥檙 clwb wedi ei gael ers ymuno ac Uwch gynghrair Cymru.

Dim ond un gem mae Aber wedi ei cholli ers rhannu鈥檙 gynghrair yn ddwy, gan enill y pump arall ( sgorio un gol ar hugain ac ildio ond pedair, cyfartaledd o dros dair gol y gem ac ildio llai nac un y gem) .

Rhydd y canlyniadau yma olau dydd rhyngddynt a gweddill y timau yn ail hanner y gynghrair a siawns nac Aber fydd yn cipio鈥檙 seithfed safle ac yn cymhwyso ar gyfer gemau ail gyfle tuag at geisio enill lle yng Nghwpan Ewropa ar ddiwedd y tymor. Roedd canlyniad gem nos Wener diwethaf hefyd yn gweld eu prif flaenwr Chris Venables yn ychwanegu tair gol arall i鈥檙 hyn mae eisoes wedi ei sgorio, a鈥檌 gyfanswm presennol o ugain gol yn ei osod fel prif sgoriwr uwch gynghrair y tymor yma hyd yn hyn.

Mae鈥檔 argoeli am fod yn dipyn o g锚m yn y Drenewydd.

Os gall amddiffynwyr dawnus Treffynnon ymdopi a doniau rheibus Venables, ynghyd a chyflymder treiddiol yr asgellwr Geoff Kellaway, yna hwyrach y daw eu breuddwyd yn fyw!

Dyna i mi frwydr allweddol y g锚m, ac os bydd y ddau flaenwr yma ar ben eu gem i Aberystwyth, yna bydd prynhawn anghyffyrddus o flaen Treffynnon.

Ond, mae pwysigrwydd ychwanegol i鈥檙 g锚m.

Os bydd y Seintiau Newydd yn trechu鈥檙 Bala yn y rownd gyn derfynol arall ar Faes bus ym Mrychtyn, yna mae鈥檔 eithaf tebygol y bydd Treffynnon neu Aberystwyth yn cymhwyso ar gyfer cystadlu ar lwyfan Ewrop y tymor nesaf.

Dim ond unwaith mae Aberystwyth wedi cipio Cwpan Cymru, yn 么l yn 1900 wrth guro鈥檙 Derwyddon o dair gol i ddim gyda鈥檙 chwedlonol Leigh Richmond Roose yn y g么l iddynt.

Ond eleni mae gobeithion Aberystwyth am gamu ymlaen i鈥檙 ffeinal yn a rhoi cynnig am gipio鈥檙 gwpan yn uchel, gyda chanlyniadau gemau diweddar yn esgor ar ddigon o awch, brwdfrydedd a hyder .

Ar y llaw arall a fydd gwyrthiau Treffynnon yn parhau wrth inni weld t卯m o'r drydedd reng yn camu鈥檓laen ac ymddangos ar lwyfan p锚l droed y cyfandir yn yr Haf?

Dyna be fyddai stori tylwyth teg!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Gweddill tymor Caerdydd ac Abertawe

Nesaf