Main content

Gweddill tymor Caerdydd ac Abertawe

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Wedi gofidio am ddyfodol Caerdydd yn yr Uwch gynghrair yr wythnos diwethaf, ydi鈥檔 amser i bryderu cymaint am Abertawe?

Cyn y g锚m ganol wythnos yn Arsenal, roedd digon o le i boeni.

Ond, yn dilyn perfformiad grymus oddi cartref enillwyd pwynt gwerthfawr yn yr Emirates yn erbyn t卯m a oedd yn llygadu gobeithion o sicrhau eu lle yn y pedwar uchaf.

Roedd gol buan yn werthfawr - yna gydag Arsenal yn eilyddio, gwelwyd y t卯m o Lundain yn mynd ar y blaen gyda dwy gol gefn wrth gefn ynghanol yr ail hanner.

Mae cefnogwyr p锚l droed wedi dod i gredu yn aml nad oes lwc yn bodoli i dimau sydd yn brwydro yn erbyn disgyn allan o unrhyw gynghrair. Ond roedd lwc o blaid Abertawe nos Fawrth wrth i Mathieu Flamini daro鈥檙 bel i mewn i'w gol ei hun a sicrhau mai pwynt yr un a gaiff Arsenal ac Abertawe.

Wrth ofidio am Gaerdydd, fe soniais am ddwy g锚m allweddol, sef oddi cartref yn West Bromwich y Sadwrn yma ac yna adref i Crystal Palace y Sadwrn dilynol.

O ran Abertawe, mae ganddynt hwythau gemau allweddol a rhai a ddylai sicrhau eu bod yn goroesi yn yr Uwch gynghrair. Y Sadwrn yma bydd Norwich yn ymweld 芒鈥檙 Liberty ac yna mae taith i Hull. Fe ddylid gobeithio am rywbeth allan o鈥檙 ddwy g锚m yma a fyddai yn sicrhau dyfodol arall ymysg y brif gynghrair.

Digon o gyffro o gwmpas gwaelodion y tabl a synnwn i ddim petai ffawd Caerdydd ac Abertawe yn cael ei benderfynu ar benwythnos olaf y tymor, gyda'r Elyrch yn wynebu Sunderland adref, tra bydd Caerdydd yn teithio i Chelsea!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Rownd Gynderfynol Cwpan Cymru