Yn dilyn gemau rownd yr with olaf ddydd Sadwrn diwethaf, mae’r enwau wedi eu tynnu allan o’r het (neu’r fowlen) ar gyfer y gemau cyn derfynol.
Bydd y Seintiau Newydd yn wynebu Airbus Brychdyn, tra bydd Gap Cei Connah yn wynebu Port Talbot gyda’r gemau i'w cynnal dros benwythnos yr ail o Ebrill.
Wrth edrych ar y timau sydd ar ôl, gallwn nodi fod tri ohonynt, sef y Seintiau Newydd, Airbus a Chei Connah yn gysylltiedig â chwmnïau a busnesau.
Tybed ar sail eu llwyddiant mai dyma'r ffordd ymlaen o fewn pêl droed Cymru? Tydi cael timau pel droed ynghlwm a busnesau ac yn cario enwau cwmnïau'n ddim byd newydd.
Mae'n debyg mai un o’r amlycaf ydi clwb PSV Eindhoven yn yr Iseldiroedd sydd â chysylltiad â chwmni trydan Phillips. Yna, fe geir tîm Bayer 04 Leverkusen yn cystadlu yn y Bundesliga yn yr Almaen tra mae Evian Thonon Gaillard yn chwarae yn ail adran cynghrair cenedlaethol Ffrainc .
Mae llawer o'r timau mwyaf enwog ym Mhrydain a'u gwreiddiau’n gysylltiedig â chwmnïau lleol. Dechreuodd Manchester United fel tîm gwaith Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog. Gwelodd Arsenal olau dydd fel tîm Dial Square o fewn Canolfan yr Arfdy (Arsenal) yn Woolwich yn ne Llundain, tîm gwaith dur Thames Ironworks oedd West Ham (Up the Hammers!), a chwmni beiciau Singer oedd cychwyn clwb Dinas Coventry.
Yn is lawr o fewn trefn cynghreiriau Lloegr, ac o fewn y cynghreiriau hynny mae timau fel Bae Colwyn neu Ferthyr yn cystadlu ynddo, a thimau a fu’r Rhyl, Bangor a Chaernarfon yn ymweld â hwy yn eu dyddiau o fewn trefn Lloegr, fe geir Harrogate Railway Athletic, Prescot Cables (gerllaw Lerpwl), Stocksbridge Park Steels (ble ddechreuodd gyrfa Jamie Vardy o Gaerl欧r) ger Sheffield. Draw dros y don yng ngogledd Iwerddon, cychwynodd tîm mwyaf llwyddiannus y wlad, Linfield (o Felfast), fel clwb pêl droed Melin Linfield o dan adain Cwmni Nyddu Ulster .
Tybed felly a’i cychwyn timau a ddaw yn annibynnol o fewn amser mae clybiau’r Seintiau Newydd a hefyd Gap Nomadiaid Cei Connah yn ogystal ag Airbus Brychdyn. Yn wir, mae enw Airbus wedi newid nifer o weithiau ers eu sefydlu yn 1946, ac wedi dilyn enwau'r cwmnïau a fu'n berchenogion ar y ffatri awyrennau yn y pentref.
Mae’r enwau dros y blynyddoedd wedi cynnwys yr enw gwreiddiol, sef tîm Vickers-Armstrong, yna newid i dîm cwmni awyrennau de Havillands, tim British Aerospace, Hawker Siddeley, ac erbyn heddiw fe'u hadnabyddir fel Airbus UK.
Yn sgil llwyddiant y clybiau presennol o fewn trefn y gêm yng Nghymru, sydd yn cario enw , neu yn gysylltiedig â, busnesau lleol (heblaw cael eu noddi ganddynt) , hwyrach ei fod yn deg gofyn y cwestiwn os mai dyma ddyfodol y gêm, ar hyn o bryd os na ellir ail ddatblygu'r llwyddiant a fu mor amlwg ymysg timau traddodiadol, trefol, fel Dinas Bangor, Tref Aberystwyth neu Dref Caerfyrddin.
Wrth gwrs fe ellir cyfeirio at lwyddiant newydd Tref y Bala, ond, ac mae gwers yn hyn o beth, edrychwch ar faint y dorf sy'n mynychu gemau cartref y timau gweithiol yma. D’oes yna ddim cefnogaeth enfawr yn eu dilyn, ac mae'r sefyllfa yn tueddu i wneud i rywun ddechrau meddwl fod yna gynhaliaeth well iddynt drwy gysylltu â busnesau neu ddiwydiannau lleol.
Hwyrach hefyd fod yna golled o fewn y ddelwedd draddodiadol o hybu’r gêm o fewn cymuned.
W’n i ddim beth ydi’r ateb, nac hyd yn oed os ydi hyn i gyd yn arwyddocaol, yntau rhywbeth ysbeidiol ydi’r sefyllfa gyfredol.
Mae gen i deimlad fodd bynnag nag yw cynghorau lleol yn dangos yr un awch a brwdfrydedd at eu timau lleol ac a bu ar un adeg a hwyrach fod hyn yn rhannol gyfrifol am leihad yn yr ymdeimlad o dimau trefol yn cynrychioli'r gymuned.
Hwyrach felly, fod y newid at gael timau o dan berchenogaeth neu gyllid busnesau yn rhywbeth y dylwn ddod yn fwy gwyliadwrus ohono ac y dylid ei ystyried yn sgil dyfodol a dilyniant parhaus timau pêl droed o fewn ein gwlad.