Main content

Lerpwl, Neco Williams a Chwpan Carabao

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Fe es i weld Everton yn chwarae Watford yng nghwpan Carabao'r wythnos yma.

Doedd hi’n fawr o gêm ond diddorol oedd nodi fod Everton, yn sgil canlyniadau gwael a'r galw cynyddol am waed y rheolwr, Marco Silva, wedi rhoi eu tîm cryfaf ar y cae, er mwyn chwilio am fuddugoliaeth a pharhau rhediad mewn cwpan, gyda’r gobaith o ryw fath o lwyddiant ac achubiaeth erbyn diwedd y tymor.

Y noson ddilynol, roedd Lerpwl yn chware yn erbyn Arsenal, hefyd yn y gwpan, gyda’r ddau dîm yn chwilio am lwyddiant o fewn y cynghrair, gyda Lerpwl ar y brig ac Arsenal am geisio adennill eu lle yng nghynghrair pencampwyr Ewrop.

Ond, yn wahanol i Everton, roedd yn amlwg nad oedd yr un o'r ddau dîm yma yn rhoi blaenoriaeth i’r Carabao, gyda nifer fawr o newidiadau yn y ddau dîm. Un o'r newidiadau rheini oedd rhoi cyfle i'r Cymro ifanc, 18 oed, Neco Williams, sydd hefyd yn aelod o garfan dan 19 Cymru.

Ymunodd Neco, a gafodd ei eni yn Wrecsam, gyda Lerpwl pan oedd o'n 8 oed. Mae o wedi bod yn yr academi ers 10 mlynedd bellach, ac wedi datblygu i fod yn chwaraewr o fri. Yn gefnwr de, mae’n gyflym, yn gorfforol, a chanddo ddawn arbennig, ond ar ben hyn oll mae o hyd yn barod i wrando a gwella. Ac yn sicr fe brofodd ei le yn llawn yn y gem yn erbyn Arsenal, gan nid yn unig llwyddo i roi cynorthwy i Divock Origi sgorio, ond ef hefyd oedd yr unig chwaraewr o Lerpwl gofnododd y nifer uchaf o rwystriadau, a thaclo'r nifer mwyaf, a hynny'n fwy nag unrhyw chwaraewr arall. Fe adawodd y Cymro ifanc argraff arbennig ar gefnogwyr Lerpwl, gan arwain at ganmoliaeth uchel iddo ar y cyfryngau cymdeithasol wedi'r gem. A Lerpwl, yn wir, a orfu gyda chiciau o'r smotyn ar ddiwedd gem gyffrous a orffennodd yn 5-5.

Ond, erbyn bore Iau, codwyd sefyllfa annisgwyl gyda Lerpwl yn cyhoeddi hwyrach y bydd rhaid iddynt dynnu 'n ôl o'r gystadleuaeth oherwydd y gormodedd o nifer o gemau sydd angen iddynt eu chwarae.

Y pris am lwyddiant efallai?

Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae rownd yr wyth olaf o Gwpan y Carabao i'w chynnal ar ddydd Mawrth neu Mercher (fel arfer) o’r wythnos sydd yn cychwyn ar Ragfyr 16.

Ond, mae Lerpwl yn sgil eu dyletswydd fel pencampwyr Ewrop, yn gorfod cystadlu yng nghystadleuaeth clwb y byd yn Qatar ar Ragfyr 18.

Ymddengys fod y Cynghrair Pêl Droed Lloegr (sy’n trefnu gemau Cwpan Carabao) yn ceisio darganfod ffordd y gall Lerpwl chwarae Aston Villa yn yr wyth olaf, ond dywedodd Jurgen Klopp (rheolwr Lerpwl) “Os na all y trefnwyr ddarganfod dyddiad addas i gynnal y gêm, ac nid am dri o'r gloch ar fore diwrnod Nadolig, yna ni fydd Lerpwl yn chwarae o gwbl!”

Mae rhestr gemau Lerpwl eisoes wedi golygu fod rhaid iddynt chwarae saith gem ym mis Rhagfyr, yn ogystal â'r gêm yng nghwpan Carabao, ac ail gêm yn Qatar ar yr unfed ar hugain o'r mis.

Gan nad oes lle i gynnal gem ynghanol yr wythnos ar gael hyd tan ddechrau'r flwyddyn nesaf (2020), does dim i'w gynnig i Lerpwl hyd nes yr 11eg a’r 18fed o Ionawr!

Fodd bynnag , mae rowndiau cynderfynol Cwpan Carabao wedi cael eu trefnu ar gyfer yr wythnos yn cychwyn ar y 6ed o Ionawr! Yn ogystal, roedd Lerpwl i fod i wynebu West Ham United at Ragfyr 20fed, a bydd angen ail drefnu hon hefyd.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Peryglon Penio

Nesaf