Main content

Peryglon Penio

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yr wythnos yma gwelwyd yr honiad, yn ôl ymchwil meddygol ym mhrifysgol Glasgow, fod cyn bêl-droedwyr proffesiynol dair gwaith a hanner yn fwy tebygol o farw o dementia o’u cymharu â phobl o'r un ystod oedran o fewn y boblogaeth gyffredinol.


Cymerwyd y sampl gan ddynion a oedd yn chwarae pêl-droed proffesiynol yn yr Alban, ac a gafodd eu geni rhwng 1900 a 1976.
Cafodd yr ymchwil ei gomisiynu gan Gymdeithas Bel Droed Lloegr, a Chymdeithas Chwaraewyr Proffesiynol, fel ymateb i’r honiad fod cyn chwaraewr West Bromwich Albion a Lloegr, Jeff Astle, wedi marw oherwydd niwed i'r ymennydd, a hyn yn deillio o'r ffaith ei fod wedi dilyn gyrfa a welodd y blaenwr yn penio’r bel yn aml, mewn gemau a hefyd mewn sesiynau ymarfer.


Tydi hyn ddim yn rhywbeth newydd i'w honni, ac fe gofiaf raglen ar y teledu a roddodd sylw i'r union sefyllfa yma, yn cael ei gyflwyno gan Alan Shearer beth amser yn ôl. Yr hyn sydd yn fy synnu yw nad oes fawr ddim wedi newid, a bod y perygl yma yn parhau i gael sylw, ond y tro yma, hwyrach y cawn ddisgwyl rhyw fath o ymateb mwy ymarferol a chadarnhaol i'r sefyllfa.


Pan oeddem yn hyfforddi yn yr Unol Daleithiau tua ugain mlynedd yn ol, roedd cwricwlwm yr hyfforddiant a roddwyd i ni fel hyfforddwyr ar gyfer cynnal sesiynau wythnosol, yn cynnig hanner diwrnod ar benio pel. Hyd yn oed mor bell yn ol a hynny, fe wrthodom ddilyn y rhan yma o'r cwricwlwm gan ei gwneud yn ddigon clir i'r cwmni a oedd yn ein cyflogi, nad oedden yn credu fod cyfres o ymarferion dros dair awr, yn mynd i wneud unrhyw les i iechyd unrhyw blentyn ac yn sgil hyn fe ddilëwyd yr agwedd yma o'r cynllun hyfforddi.


Doedd arnom ni ddim angen tystiolaeth feddygol i gyflwyno'n dadl, ond roedd ein synnwyr cyffredin yn dweud na fyddai’r math yma o ymarfer yn gwneud lles i blant yn enwedig drwy feddwl fod eu cyrff yn tyfu a’u hymennydd, a’u penglog yn parhau i ddatblygu.
Ar y llaw arall, fe lwyddodd yr ymchwil i ddangos hefyd fod cyn chwaraewyr proffesiynol yn llai tebygol o farw o afiechydon eraill fel clefyd y galon, a rhai mathau o ganser, gan gynnwys cancr yr ysgyfaint. Fel ymateb yr wythnos yna i'r ymchwil meddygol, mae Prif Weithredwr Cymdeithas Pel Droed yr Alban, Ian Maxwell, wedi nodi ei bod yn bwysig bod y byd pêl-droed yn rhoi arweiniad ar hyn er mwyn sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd ar fater mor gymhleth, ac y bydd y sefydliad yn ystyried unrhyw oblygiadau ar gyfer y gêm ar lawr gwlad.


Ychwanegodd fod y ffaith bod yr astudiaeth hir ddisgwyliedig yma yn sicr o arwain at gwestiynau am sut y bydd hyn yn effeithio ar y gêm fodern, a’i bod yn hanfodol i adeiladu ar yr ymchwil hon bellach, gan ganolbwyntio'n benodol ar y peryglon cymharol o benio peli modern ysgafn.
Cafwyd un awgrym, eto o'r Alban, sef y dylid ystyried mabwysiadu eilyddion dros dro, fel y ceir mewn rygbi, yn dilyn cyfergyd, a chafodd hyn ei drafod gan y bwrdd Pêl Droed Rhyngwladol ddydd Mercher diwethaf gan arwain at sefydlu gr诺p arbenigol i ymchwilio i weld a ellir cyflwyno eilyddion yn dilyn cyfergyd mewn gemau pêl-droed (eto yn debyg i'r hyn sydd gan y byd rygbi).

Yn ogystal, argymhellodd y Bwrdd Rhyngwladol y dylid sefydlu gr诺p o arbenigwyr i ymchwilio ymhellach oherwydd "natur gymhleth asesu a rheoli cyfergyd ar wahanol lefelau o'r gêm ".

Bydd hi’n ddiddorol gweld be’ fydd yr ymateb a’r canlyniad.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Lerpwl, Neco Williams a Chwpan Carabao