Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Mai 6ed - Mai 12fed

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

John Ac Alun - Nashville

canu gwlad - country and western
deuawd - duet
trefnus - organised
dilyn ein trwynau - following our noses
hogan - merch
profiad - experience
yn fyw - live
sbïo - edrych
y mawrion - the greats
cysylltu - associate

"...canu gwlad. Dw i'n siwr eich bod chi wedi clywed am ddeuawd canu gwlad mwya enwog Cymru - John ac Alun. Mae ganddyn nhw raglen ar Radio Cymru bob nos Sul a'r wythnos diwetha gaethon nhw gwmni deuawd canu gwlad arall - Glesni a Gethin. Mae'r ddau newydd ddod yn ôl o Nashville. Be oedden nhw'n feddwl o'r lle tybed? Dyma oedd ganddyn nhw i'w ddweud... "

Geraint Lloyd - Malcolm Taff Davies

cefnder - cousin
byddar - deaf
moy'n - eisiau
man a man - might as well
tamaid bach - ychydig
y cysylltiad - the connection
bennu - gorffen
ffaelu - methu
her - a challenge
yn gyfarwydd - familiar

"Glesni a Gethin yn fan'na, yn amlwg wedi mwynhau eu taith i Nashville. Rhywun arall sydd wedi teithio'n bell ydy Malcolm Taff Davies. Mae Malcolm wedi cerdded mil tri chant o filltiroedd o amgylch Cymru i godi arian i ferch ei gefnder, Heti, gafodd ei geni yn fyddar, a hefyd i'r Ambiwlans Awyr. Mae o'n byw yn Arbroath yn yr Alban rwan, ond yn dod o Gaerfyrddin yn wreiddiol. Buodd Malcolm yn y Marines am flynyddoedd, felly oedd Geraint Lloyd yn iawn i'w alw o'n gyn-Farine?"

Stiwdio - Leonard Cohen

bardd - poet
Manceinion - Manchester
ysblennydd - luxurious
cwfwr - cyfarfod
bychan - bach
llesmeiriol - enchanting
nadu - stopio
syfrdanu - mesmerised
cofleidio - to hug
fy narpar wraig - my future wife

"Pob lwc i Malcolm ynde? A chofiwch ei gefnogi os dach chi'n ei weld yn cerdded yn eich ardal chi. Clywon ni ynghynt am ddau fuodd yn Nashville i wrando ar ganu gwlad, ond oeddech chi'n gwybod mai canwr gwlad oedd Leonard Cohen yn wreiddiol.? Dyna glywon ni ar raglen arbennig o Stiwdio oedd yn edrych ar hanes y 'Bardd o Montreol'. Mi wnaeth bardd o Gymru, Meirion MacIntyre Huws, ei gyfarfod unwaith. Dyma fo'n dweud y stori wrth Nia Roberts..."

Rhys Mwyn - Catatonia

andros o drafferth - loads of problems
llais - voice
ymateb - response
Pum mlynedd ar hugain - 25 years
angerdd - passion
tor-cariad - relationship breakdown
sylweddoli - to realise
haenau - layers
trefniant - arrangement
pwyll a manylder - care and detail

"...fel dwedodd Nia Roberts, dw i'n siwr bod Meirion wedi cael hwyl yn dweud y stori yna nifer fawr o weithiau. Meirion yn y clip yna yn sôn am lais arbennig Leonard Cohen, ond sôn am lais arbennig Cerys Mathews oedd gwesteion Rhys Mwyn nos Lun. Roedd Cerys yn arfer canu gyda'r grwp Cataonia ac eleni mae hi’n ddau ddeg pump o flynyddoedd ers i’r grwp gael ei ffurfio. Mi gafodd Rhys gwmni dau o ffans Catatonia sef Llinos Spencer a Gethin Thomas a dyma Llinos yn esbonio ei dewis hi o gân y band i’w chwarae ar y rhaglen..."

Aled Hughes - Band Pres

band pres - brass band
gorymdaith - parade
ail ryfel byd - second world war
arweinydd sefydlog - an established conductor
hynod o bwysig - extremely important
brwydro - fighting
nerth milwrol - military might
cyfiawnhâd - justification
ymchwil - research
darganfod - to discover

Dan ni'n mynd i aros ym myd cerddoriaeth rwan, ond cerddoriaeth sy ychydig yn wahanol i fiwsig Cataonia. Bore Mawrth buodd Band Pres Symffonig Cymru'n perfformio ym Moscow ar ôl cael gwahoddiad gan Vitali Minov. Mae'r band wedi bod yn perfformio ar draws y byd yn dilyn gwahoddiadau gan Vitali Minov ond o'r diwedd maen nhw wedi cyrraedd ei famwlad, Rwsia. Mae'r cyflwynydd teledu Alex Humphreys yn aelod o'r band a bore Mawrth gafodd hi sgwrs efo Aled Hughes am y perfformiad ac yn esbonio pam bydd hi'n cario llun o'i hen, hen ewyrth mewn gorymdaith yn y ddinas...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Achubiaeth i Gasnewydd

Nesaf

Achubiaeth i'r Elyrch